Angen cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle - adroddiad

Awdur yr adroddiad yw Dr Elin Royles o Brifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Elin Royles bod lle i ddysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn gweithleoedd yng Ngwlad y Basg

  • Cyhoeddwyd

Mae angen mwy o ymdrech i gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y gweithle, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad gan Dr Elin Royles, dolen allanol o Brifysgol Aberystwyth yn cynnwys 13 o argymhellion ar sut i wella arferion da yn y berthynas rhwng yr economi, yr iaith a'r gweithle ar draws sectorau gwahanol.

Mae'r astudiaeth yn rhan o raglen ARFOR II - rhaglen sydd wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n gweithredu o fewn siroedd sy'n cael eu hystyried yn gadarnleoedd i'r iaith Gymraeg - Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.

Y bwriad yw datblygu cynlluniau sydd â'r nod o hybu datblygiad economaidd, a thrwy hynny, rhoi hwb i ragolygon yr iaith Gymraeg.

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd 828,600 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth (ABB).

Dyma'r ganran isaf i'w chofnodi ers Medi 2013, sef 26.9% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar y pedair sir o dan sylw ond dywedodd Dr Royles bod y casgliadau yn berthnasol i Gymru gyfan.

Dywedodd Dr Royles, sy'n Ddarllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, bod "gweithleoedd yng Ngwlad y Basg wedi arwain at arbenigedd helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf" a bod gan Gymru le i ddysgu.

"Hyd yma, mae llawer o'r pwyslais wedi bod ar y modd y gall y Gymraeg fod yn fantais economaidd i fusnesau a sut mae cynyddu'r cyfleon i gwsmeriaid ddefnyddio'r iaith wrth ymwneud gyda chwmnïau preifat.

"Beth mae'r adroddiad yma yn ei nodi yw'r cyfleon pellach i ddatblygu sut ydyn ni'n trafod rôl gweithleoedd mewn hyrwyddo iaith a'r dulliau o gefnogi'r ddefnydd o'r Gymraeg mewn busnesau, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol.

"Mae nifer o'r argymhellion hefyd yn berthnasol i'r sector gyhoeddus."

Ymlith yr argymhellion mae:

  • sefydlu cynllun i rannu arfer da ac arloesi o ran rheolaeth iaith ac annog defnydd iaith mewn gweithleoedd ymysg busnesau yng Nghymru;

  • gweld sut all mentrau cymdeithasol a chydweithredol ymgorffori'r Gymraeg yn eu dulliau gweithredu;

  • ailasesu'r gefnogaeth a'r trefniadau sydd mewn lle i annog a chyfeirio cyrff i ddatblygu eu defnydd o'r Gymraeg fel iaith y gweithle, yn fewnol ac yn allanol gan gynnwys ar lefel arweinyddiaeth;

  • cymryd camau i gynyddu statws a defnydd y Gymraeg fel iaith gwaith mewn gweithleoedd sector gyhoeddus fel cam cadarnhaol ynddo'i hunan ac i ddylanwadu ar sectorau eraill i arwain ar ddefnydd iaith.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ein rhaglen ARFOR, gwerth £11m, wedi cael ei goruchwylio gan y pedwar awdurdod lleol yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion ac Abertawe ac mae wedi ceisio cyflwyno amrywiaeth o ymyriadau economaidd i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg.

"Trwy gydweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol, rydym yn awyddus i ddysgu gan brofiad y rhaglen ARFOR a byddem yn edrych ar bob cyfle i gynnwys y canfyddiadau mewn rhaglenni eraill.

"Bydd y gwerthusiad annibynnol o'r cynllun a gynhelir, ac yn benodol gwaith Dr Elin Royles, yn rhan bwysig o hyn."