Gadael Cymru'n 'anodd' ond cyfle i 'symud ymlaen' gyda Fiji

Chwaraeodd Ioan Cunningham i dimau iau Cymru cyn ei yrfa fel hyfforddwr
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi menywod Fiji wedi sôn am y cyfnod anodd a gafodd pan adawodd swydd prif hyfforddwr Cymru ddiwedd llynedd.
Ioan Cunningham oedd wrth y llyw i Gymru am dair blynedd cyn gadael yng nghanol ffrae ynghylch cytundebau rhwng y chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru (URC).
Mae bellach yn hyfforddi Fiji, gwrthwynebwyr Cymru yn eu gêm olaf yng Nghwpan y Byd, wrth i'r ddau dîm chwilio am eu buddugoliaethau cyntaf yn y gystadleuaeth.
Dywedodd Cunningham ei fod wedi gorfod "symud ymlaen", gan gofio'r amseroedd da a gafodd gyda thîm Cymru.
Ond mae'n dal i afael yn dynn yn niwylliant Cymru, gan ddweud bod sawl un o garfan Fiji wedi gofyn iddo ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd gan bod "lot o nhw ffili credu sut mae'r iaith yn swno".

Roedd Cunningham wrth y llyw i Gymru mewn cyfnod cythryblus
Er nad oes modd i Gymru na Fiji fynd ymhellach na'r grwpiau yng Nghwpan y Byd, mae dal disgwyl i'r dorf lenwi Sandy Park yng Nghaerwysg gyda bron i 15,000 o docynnau wedi'u gwerthu.
Ynghanol yr ornest fydd y dyn sydd â chysylltiadau â'r ddwy wlad - Ioan Cunningham.
Fe adawodd Cunningham ei rôl gyda Chymru yn dilyn blwyddyn gythryblus i'r tîm ar, ac oddi ar, y cae.
Ar y pryd fe gyfaddefodd URC fod methiannau difrifol wedi bod yn y ffordd y cafodd trafodaethau eu cynnal ynghylch cytundebau tîm y merched.
Yn y diwedd dyma arweiniodd at ddatganiad gan URC yn nodi eu bod wedi cytuno, ar y cyd â Cunningham, i ddod â'i gyfnod yn y swydd i ben wedi tair blynedd.
Dywedodd Ioan Cunningham ei fod yn "edrych ymlaen at y sialens" o wynebu Cymru
Dywedodd Cunningham, 41, bod y gêm am fod yn "sialens enfawr i ni ond un ni'n edrych ymlaen am yn fawr iawn".
Ychwanegodd bod Cymru'n "dîm sydd wedi dangos eu bod yn gallu chwarae gyda'r goreuon yn y byd".
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C dywedodd: "Ges i amser da yn hyfforddi Cymru a 'wy'n prowd iawn o lot o'r chwaraewyr oedd wedi cael y cyfle i gael cytundeb professiynol ar ddechrau'r daith gyda Cymru."
Roedd gadael "yn amser anodd i fod yn onest" meddai, "ond un fi 'di symud ymlaen o".
Roedd disgwyl iddo arwain Cymru yng Nghwpan y Byd 2025 ond yn lle hynny, mae'n eu herio yn eu gêm olaf.
"Mae emosiwn mynd i fod yn rhan o'r gêm", meddai, ond mae'n "browd iawn" o gael y cyfle i hyfforddi Fiji.
'Moyn gwbo' mwy am Gymru'
Esboniodd Cunningham pa mor bwysig yw cyflawniad carfan Fiji hyd yma.
"Mae hwn yn enafwr i'r tîm [Fiji] – ail Cwpan y Byd nhw – a rhai 'di rhoi lan lot i chwarae."
Dywedodd bod rhai yn gorfod "rhoi eu teuluodd i'r ochr" ac eraill yn camu i ffwrdd o swyddi a hyd yn oed "amddiffyn Buckingham Palace - mae hi'n 'ware wythwr i ni", meddai am Manuqalo Komaitai, sydd hefyd yn y Fyddin.
Ychwanegodd: "Pan ni'n dod at ein gilydd mae'r ysbryd yn anhygoel, mae'n anodd disgrifio fe os nagych chi'n rhan o fe."
Mae'r garfan hefyd wedi cymryd diddordeb brwd yng Nghymru a'r Gymraeg, meddai.
"Ma' lot o nhw'n gofyn i fi ddechre cyfarfod yn Gymraeg", meddai a "lot o nhw ffili credu sut mae'r iaith yn swno".
"Maen nhw moyn gwbo' mwy am Gymru, maen nhw moyn gwbo' am yr iaith a beth sy'n dda yng Nghymru" meddai.
Ar ôl i'w wraig rannu pice ar y maen â'r garfan wythnos diwethaf, fe ddywedodd y chwaraewyr eu bod yn "anhygoel".

Mae Sean Lynn eisiau gorffen ar nodyn uchel gyda Chymru
Mi fydd Cymru'n gobeithio bachu ar y cyfle olaf i brofi eu doniau ar ôl colli yn erbyn yr Alban ac yn erbyn Canada.
Dim ond 45 o gemau prawf y mae Fiji wedi'u chwarae erioed - i roi hynny mewn persbectif mae bachwr Cymru, Carys Phillips wedi chwarae bron i ddwywaith hynny.
Felly ar bapur ac ar sail profiad fe ddylai Cymru fod yn ffefrynnau.
Dywedodd prif hyfforddwr presennol Cymru, Sean Lynn, eu bod "am sicrhau ein bod yn gorffen y gystadleuaeth ar nodyn uchel".
"Mae'n edrych fel y bydd y ddau dîm yn taflu popeth dan haul at ei gilydd", meddai.
"Mae am fod yn ornest wych a dwi'n gobeithio mai ni fydd yn dod allan orau, ond dwi wedi gofyn i'r merched ddod oddi ar y cae'n cropian", ychwanegodd.
Wrth gyfeirio at Fiji dywedodd eu bod "yn gyffrous gyda'r bêl yn eu dwylo, ac felly mae angen i ni sicrhau pan fod ganddon ni'r bêl ein bod yn ei hamdiffyn".
Adfer hunan-barch yw'r nod i Gymru
Na does dim modd i Gymru gyrraedd yr wyth olaf ond er hynny bydd y garfan yn benderfynol o beidio gorffen yr ymgyrch yn waglaw.
Does dim dwywaith bod yr ymgyrch wedi bod yn un siomedig a'r tîm wedi tangyflawni, ond yr hyn sydd yn y fantol yw adfer hunan-barch, gorffen ar nodyn positif a cheisio gosod rhywfaint o seiliau cyn i'r cylch nesaf ddechrau cyn Cwpan y Byd yn Awstralia yn 2029.
Mae 'na deimlad o ddiwedd cyfnod yng Nghaerwysg, a fyddai hi ddim yn syndod os mai'r gêm yn erbyn Fiji fydd yr olaf i nifer cyn i Sean Lynn ail-adeiladu a chyflwyno nifer o wynebau newydd i'r dyfodol.
Roedd cymaint o addewid ar ôl yn Brisbane yn yr haf a dyna pam roedd y siom gymaint yn fwy wedi i'r Albanwyr sgubo'r Cymry o'r neilltu yn y gêm agoriadol.
Dyw hi ddim yn mynd i fod yn hawdd yn erbyn yr ynyswyr a brofodd yn wrthwynebwyr anodd i'r Alban am gyfnodau helaeth, ac yr un peth i'w ddisgwyl wrth gwrs yw doniau creadigol a thîm fydd yn barod i ddiddanu.
Ynghyd â gorffen gyda buddugoliaeth, bydd cymhelliad pellach o geisio llorio tîm o dan hyfforddiant Ioan Cunningham!
Newidiadau'r timau
Mae'r ddau dîm wedi gwneud newidiadau ar gyfer dydd Sadwrn.
Ymhlith y newidiadau i Gymru mae'r cyd-gapteiniaid, Alex Callender a Kate Williams yn dychwelyd yn dilyn anafiadau yn erbyn yr Alban.
Mae Carys Phillips yn dychwelyd fel bachwr gan orfodi Molly Reardon i'r fainc.
Hefyd, mi fydd Kayleigh Powell, sydd wedi chwarae rygbi 7 bob ochr dros Brydain, yn dechrau am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth - ar ôl gwneud argraff yn dod oddi ar y fainc yn erbyn Canada.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024