Cadarnhau grant £500m am ffwrnais drydan ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau cytundeb "newydd a gwell" gyda Tata, wrth iddyn nhw roi grant o £500m i'r cwmni dur.
Bydd yr arian yn mynd tuag at gost ffwrnais drydan newydd ar safle Tata ym Mhort Talbot, ac mae'r un swm â'r hyn gafodd ei gytuno mewn egwyddor gan y lywodraeth Geidwadol ddiwethaf.
Daw'r cyhoeddiad wrth i gwmni Tata ddechrau'r broses o gau ei ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, gyda disgwyl i'r ail o ddwy ffwrnes gau cyn diwedd y mis.
Y disgwyl yw y bydd tua 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi bryd hynny, gyda 300 yn rhagor i golli eu swyddi dros y misoedd nesaf.
- Cyhoeddwyd9 Medi
- Cyhoeddwyd29 Awst
- Cyhoeddwyd16 Awst
Fel rhan o’r cytundeb, mae Tata wedi cytuno i edrych ar gyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol, gan gynnwys y posibilrwydd o gael tyrbinau gwynt yn ne Cymru.
Yn ôl undebau llafur Community a GMB, nid yw’r cytundeb yn “rhywbeth i'w ddathlu”, ond mae’r cynllun yn “well na’r cynllun ofnadwy a gafodd ei gyhoeddi gan Tata a’r Torïaid nôl ym Medi 2023”.
Mae’r Ysgrifennydd Busnes Jonathan Reynolds wedi dweud bod y cytundeb yn rhoi “gobaith i ddyfodol y diwydiant dur yn ne Cymru".
“Dy’n ni’n gwybod bod dyfodol glanach, gwyrddach i ddiwydiant dur y DU yn angenrheidiol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd tymor hir.
“Nid yw’r ffordd ymlaen am fod yn brin o sialensiau, ond bydd ein strategaeth dur yn gosod gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol y diwydiant ac yn cael ei gefnogi gan ein hymrwymiad maniffesto o £3bn o fuddsoddiad gan y llywodraeth.”
Mae’r llywodraeth yn dweud y bydd yn gosod allan ei strategaeth yn y gwanwyn.
Ond mae Plaid Cymru wedi dweud fod y cyhoeddiad "yn ddim byd mwy na fersiwn arall o'r fargen a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol".
'Gadael bwlch ofnadwy'
Yn y gymuned leol mae ‘na bryder am y blynyddoedd rhwng cau’r ffwrneisi traddodiadol eleni ac adeiladu’r ffwrnais drydan newydd yn y dyfodol.
Fe wnaeth Huw Samuel, 61, ymddeol o’i swydd yng ngweithfeydd dur Port Talbot fis Awst 2023.
“O’n i’n gwybod bod rhaid i’r diwydiant newid er mwyn datgarboneiddio, ond o’n i ddim yn erfyn i bethau newid mor gyflym,” meddai.
“Roedd e’n sioc ofnadwy, i fi, i glywed bod y coke ovens yn cau lawr.
"Maen nhw wedi dechre cau lawr ers pum mis nawr, ac mae ffwrnais rhif pump wedi cau.
"Erbyn diwedd y mis bydd ffwrnais rhif pedwar wedi cau, a does dim troi yn ôl ar ôl hynny.
“Mae hwnna yn mynd i adael bwlch ofnadwy - bwlch ofnadwy yn y diwydiant, a bwlch am y blynyddoedd mae’n mynd i gymryd i adeiladu’r ffwrnais.”
'Pobl ifanc yn gadael yr ardal'
Ers 1986 roedd Mr Samuel wedi gweithio yn y felin oer ym Mhort Talbot ac yn byw ym mhentref Cwmafon, tafliad carreg o’r gwaith.
“Dwi wedi llwyddo rhoi tri o blant drwy’r ysgol gydag addysg Gymraeg, a thrwy’r brifysgol hefyd,” meddai.
Ond mae Ms Samuel bellach yn poeni am ei gydweithwyr, fydd yn colli’r cyfle i fwynhau gyrfa sefydlog yn y gweithfeydd dur.
“Beth mae pobl leol yn becso amdano fe yw’r plant ysgol - bydd dim prentisiaethau [tebyg] ar gael iddyn nhw,” meddai.
“Bydd y bobl ifanc yn gadael yr ardal, a mynd efallai i Loegr i chwilio am waith ac i wario eu dyfodol nhw, fel teulu, o’r ardal.
"Mae’n drueni mawr, ac mae ‘na golled fawr o’r swyddi hynny.”
Dadansoddiad
Huw Thomas, Gohebydd Busnes BBC Cymru
Os ydy'r arian sydd ynghlwm â'r cytundeb union yr un peth, beth sy'n newydd am gyhoeddiad y llywodraeth Lafur o'i gymharu â'r hyn y llwyddodd y Ceidwadwyr i gytuno arno gyda Tata Steel?
Mae Llafur yn mynnu eu bod wedi cael mwy o gefnogaeth gan Tata Steel ar gyfer gweithwyr sy'n colli eu swyddi.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud bod ganddyn nhw sicrwydd newydd gan Tata Steel y byddan nhw'n cynnal lefelau staffio yn uwch na 5,000 a bod ganddyn nhw modd o dynnu'n ôl rhywfaint o'r £500m os bydd addewidion yn cael eu torri.
Mae hefyd ymrwymiad gan Tata Steel i ystyried buddsoddiadau newydd yn y dyfodol, megis adeiladu melin blatiau i wasanaethu ffermydd gwynt newydd.
Mae'r Torïaid yn dweud mai ychydig iawn sydd wedi newid o'r cytundeb y cyhoeddodd Rishi Sunak fis Medi diwethaf.
Dydy cytundeb y llywodraeth newydd ddim yn newid cynllun Tata Steel i ddiswyddo 2,800 o bobl, a bydd yr un swm o arian yn mynd tuag at yr un ffwrnais drydan gafodd ei chrybwyll gyntaf gan y llywodraeth Geidwadol bron i flwyddyn yn ôl.