2,000 o weithwyr Tata am adael y cwmni yn wirfoddol

Banner undeb Unite yn cefnogi'r diwydiant dur, gyda ffwrneisi gweithfeydd dur Port Talbot yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd undebau yn cynnal pleidlais ar gefnogaeth y gweithwyr i'r amodau diswyddo gwirfoddol

  • Cyhoeddwyd

Mae dros 2,000 o weithwyr Tata Steel yn ne Cymru wedi gwneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.

Mae'r mwyafrif wedi'u lleoli ym Mhort Talbot, lle mae'r cwmni'n bwriadu cau ail ffwrnais chwyth ddiwedd mis Medi.

Dywedodd Tata Steel eu bod wedi dechrau asesu a oedd modd cau swyddi’r gweithwyr oedd wedi mynegi diddordeb mewn gadael y cwmni.

Mae disgwyl i'r cyntaf o’r 2,800 o weithwyr i golli eu swyddi adael y busnes o fewn wythnosau.

Bydd aelodau’r undebau yn cael pleidleisio o blaid neu yn erbyn amodau diswyddo Tata Steel.

Yn ôl y cwmni, maent yn cynnig y telerau diswyddo gorau yn hanes y busnes.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gweithwyr yn derbyn isafswm o £15,000 dan yr amodau diswyddo

Bydd Tata Steel yn rhoi gwerth 2.8 wythnos o gyflog i weithwyr am bob blwyddyn o’u gwasanaeth, hyd at uchafswm o 25 mlynedd.

Yr isafswm y bydd unrhyw un yn ei dderbyn ydy £15,000, a bydd taliad ychwanegol - yn seiliedig ar bresenoldeb - o £5,000 i weithwyr sy’n gymwys.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel UK fod y cwmni yn asesu sut y gall dyheadau pobl gyd-fynd â gofynion y dyfodol.

“Er ein bod wedi gwneud ymdrech fawr i lunio pecyn cymorth i weithwyr a fydd yn helpu llawer o’r bobl hynny i bontio allan o’r busnes, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cadw ein gwybodaeth, ein sylfaen sgiliau a’n profiad craidd yn ystod y cyfnod heriol hwn,” meddai’r llefarydd.

Mae’r tri undeb sy’n cynrychioli gweithwyr Tata Steel – Community, Unite a’r GMB – eisoes wedi cytuno i roi pleidlais i’w haelodau dros y cytundeb diswyddo.

Dywedodd y cwmni eu bod yn disgwyl i’r bleidlais ddigwydd “yn fuan”.

Mae ffynonellau o fewn yr undebau yn disgwyl y byddai’r cytundeb yn cael ei gefnogi gan y gweithlu, wedi misoedd o drafod gyda’r cwmni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ail o'r ffwrneisi chwith ym Mhort Talbot yn cau ym mis Medi

Bydd ailstrwythuro Tata Steel UK yn golygu bod 2,800 o swyddi’n cael eu colli ledled y DU.

Bydd tua 300 o’r rheini’n diflannu o weithfeydd Llanwern ger Casnewydd ymhen tair blynedd, a dydy’r garfan honno o weithwyr ddim yn rhan o’r broses diswyddo bresennol.

O'r 2,500 o swyddi sydd dan fygythiad eleni, mae’r BBC ar ddeall bod tua 300 i 400 mewn perygl o gael eu diswyddo'n orfodol.

Mae’r niferoedd yn debygol o amrywio wrth i’r cwmni a’r undebau ystyried y diddordeb mewn diswyddo gwirfoddol, ac yn ceisio symud rhai i rannau eraill o’r busnes.

Mae gweithwyr yn disgwyl i'r ail o’r ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot gael ei diffodd ar 28 Medi, fydd yn rhoi diwedd ar gynhyrchu dur o fwyn haearn yn ne Cymru.

Mae cwmni Tata Steel yn bwriadu adeiladu ffwrnais arch drydan gwerth £1.25bn, sy'n cynhyrchu dur drwy doddi metel sgrap.

Mae disgwyl i lywodraeth y DU ddod i gytundeb gyda Tata Steel ar ddechrau mis Medi i roi £500m tuag at y gost o adeiladu’r ffwrnais drydan.

Mae Llafur hefyd wedi ymrwymo £2.5bn yn ychwanegol tuag at ddyfodol gwneud dur yn y DU, ac mae undebau wedi galw ar y llywodraeth i ymrwymo rhywfaint o’r cyllid hwnnw i fuddsoddiadau eraill yn ne Cymru.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd llywodraeth y DU yn cyfrannu £500m tuag at gost ffwrnais drydan ar y safle

Mae adeiladu melin blatiau, neu dechnoleg debyg, i’r gweithfeydd ym Mhort Talbot yn rhan o’r trafodaethau hefyd.

Fe fydd hynny yn galluogi’r gweithfeydd i gynhyrchu plât dur ar gyfer tyrbinau gwynt.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel fod y cwmni’n parhau i “weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i gwblhau trafodaethau”.

Dywedon nhw y byddai’r ymrwymiad i ddymchwel y ffwrneisi chwyth a buddsoddi mewn technoleg wyrddach “yn lleihau ein hallyriadau carbon o leiaf bum miliwn tunnell y flwyddyn ac yn cefnogi sofraniaeth dur y DU.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Rydym hefyd yn gweithio’n galed gyda’n cydweithwyr yn yr undebau llafur i gwblhau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar ystod o faterion yn ymwneud ag ailstrwythuro busnes y DU a’n trawsnewidiad i ddur gwyrdd. Gobeithiwn y bydd ein partneriaid Undebau Llafur yn rhoi hyn i’w haelodau yn fuan.”

Pynciau cysylltiedig