Twyll pâr priod wnaeth ddianc o fwytai heb dalu

Cafodd Ann a Bernard McDonagh eu carcharu ddiwedd Mai 2024
- Cyhoeddwyd
Dychmygwch archebu prydau bwyd drud - stecen i bob aelod o'r teulu a dau bwdin i rai - a wedyn dianc o'r bwyty heb dalu ceiniog.
Wel, fe lwyddodd y pâr priod Bernard ac Ann McDonagh i wneud hyn dro ar ôl tro, gan osgoi talu mwy na £1,000 mewn pum bwyty gwahanol ar hyd de Cymru.
Roedd ganddyn nhw gynllwyn a fyddai'n cael ei ailadrodd yn ofalus bob tro, ac roedd eu plant hefyd yn rhan ohono.
Roedd hynny tan y llynedd, pan aeth fideo teledu cylch cyfyng o'r cwpl gan un o'r bwytai ar gyfryngau cymdeithasol. Fe ddenodd filoedd at y stori.
Wrth siarad â phodlediad newydd ar BBC Sounds fe ddywedodd yr Arolygydd Andrew Hedley o Heddlu De Cymru fod y delweddau a'r negeseuon ar Facebook wedi "ffrwydro".
"Roedd yna brotest fawr dros yr hyn roedd y bobl hyn yn ei wneud," meddai'r Arolygydd Hedley.
"Roedd angen dod â'r [troseddau] at ei gilydd o dan un ymbarél a chael gafael ar y peth yn gyflym iawn, cyn iddo waethygu."
Y targed cyntaf
Fe wnaeth Ann a Bernard McDonagh, o Sandfields ym Mhort Talbot, dargedu bwyty o'r enw The River House yn Abertawe ym mis Awst 2023.
Fe wnaethon nhw archebu'r bwydydd drutaf ar y fwydlen, gan gyfrannu at fil o tua £270, cyn rhedeg o 'na heb dalu.

Bernard ac Ann McDonagh yn cyrraedd Llys Ynadon Abertawe ym mis Mai 2024
Ar ôl hynny, fe aethon nhw yn eu blaenau i dargedu Golden Fortune ym Mhort Talbot, La Casona yn Sgiwen ac Isabella's ym Mhorthcawl.
Yna, ym mis Ebrill 2024, fe ymwelodd y cwpl â'r bwyty newydd ei agor Bella Ciao yn Abertawe.
Fe wnaethon nhw archebu stêcs drud a phwdinau a daeth y bil i £329, cyn - unwaith eto - iddyn nhw adael heb dalu.
Fe wnaeth perchnogion y bwyty, a ddisgrifiodd y sefyllfa ar y pryd fel un "ddinistriol", adrodd am yr hyn a ddigwyddodd i'r heddlu a rhannu delweddau teledu cylch cyfyng o'r cwpl ar-lein.

Cafodd lluniau camerâu cylch cyfyng o'r cwpl mewn bwyty yn Abertawe eu rhannu'n eang
Cafodd y neges gan y busnes ei rannu gan filoedd o bobl, a dechreuodd rhai ar gyfryngau cymdeithasol eu hymchwiliadau eu hunain, gan roi pwysau ar yr heddlu.
Fe wnaethon nhw gadarnhau yn ddiweddarach eu bod yn ymchwilio yn dilyn "nifer o adroddiadau o adael heb daliad gan sawl busnes". Roedd yr adroddiadau yn ymwneud â'r cwpl.
O fewn dyddiau, cafodd Bernard ac Ann McDonagh eu harestio ac ym mis Mai 2024 fe wnaethon nhw bledio'n euog i fethu â thalu biliau bwytai.
Cafodd Mrs McDonagh ei charcharu am 12 mis tra i'w gŵr gael dedfryd o wyth mis.
Sut wnaethon nhw lwyddo i beidio a chael eu dal?
Roedd gan y pâr gynllun tebyg y bydden nhw'n ailadrodd yn ddigon hyderus ym mhob bwyty.
Byddai Mr McDonagh yn gadael y bwyty yn gyntaf gydag aelodau eraill o'r teulu, tra byddai un plentyn yn cael ei adael ar ôl gyda Mrs McDonagh i dalu'r bil.
Pan fyddai'n ceisio talu, byddai'r cerdyn yn cael ei wrthod, ac felly byddai'n cynnig mynd i beiriant arian a gadael y plentyn yn y bwyty fel "prawf" y byddai'n dychwelyd.
Ond roedd hyd yn oed y plant wedi eu hyfforddi i fod yn rhan o'r cynllun, ac eiliadau'n ddiweddarach, fe fydden nhw'n eu baglu hi hefyd.
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Mai 2024
Yn Llys y Goron Abertawe, fe ddaeth i'r amlwg bod Mrs McDonagh hefyd wedi cyfaddef i ladradau o archfarchnadoedd a rhwystro neu wrthsefyll heddwas.
Clywodd y llys ei bod hi hyd yn oed wedi dweud celwydd am fod yn feichiog i gael dianc o'r ddalfa.
'Trachwant pur'
Fe wnaeth y Barnwr Paul Thomas KC ddweud bod Mrs McDonagh yn fenyw "gelwyddog" a bod bob digwyddiad wedi eu "cynllunio'n ofalus o flaen llaw i batrwm penodol".
"Byddech chi'n mynd i fwytai gyda'ch teulu ifanc, byddech chi'n cael bwyd a diod yn cael ei weini i chi, gwerth cannoedd o bunnoedd, yna byddech chi'n gadael heb dalu, yn gwbl sinigaidd."
Y cwestiwn ar dafodau nifer oedd pam y gwnaeth y cwpl yr hyn wnaethon nhw.
Clywodd y llys y gallai Mrs McDonagh fod wedi bod yn "ceisio gwneud i'w hun deimlo'n well" yn dilyn profedigaethau teuluol.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffynniad ar ran Mr McDonagh fod y tad i chwech o blant "yn teimlo embaras a chywilydd mawr".
Ond dywedodd y Barnwr Thomas eu bod wedi eu cymell gan "drachwant pur".