Carcharu gŵr a gwraig wnaeth adael bwytai heb dalu

Bernard ac Ann McDonagh Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae gŵr a gwraig o Bort Talbot wedi cael eu carcharu ar ôl gadael pum bwyty yn ne Cymru heb dalu.

Cafodd lluniau camerâu cylch cyfyng o Bernard McDonagh, 41, a'i wraig Ann, 39, yn bwyta prydau mewn bwyty yn Abertawe eu rhannu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Ebrill.

Plediodd y cwpl, o Sandfields, yn euog i fethu â thalu biliau bwyty rhwng Awst 2023 ac Ebrill 2024 yn Llys Ynadon Abertawe yn gynharach ym mis Mai.

Cafodd Ann McDonagh, a wnaeth hefyd bledio'n euog i ddwyn o ddwy archfarchnad ac un achos o atal gwaith yr heddlu yn fwriadol, ddedfryd o 12 mis tra cafodd ei gŵr wyth mis.

Mae'r ddau hefyd yn gorfod talu iawndal o £2,185.

Ffynhonnell y llun, Bella Ciao
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lluniau camerâu cylch cyfyng o'r cwpl mewn bwyty yn Abertawe eu rhannu'n eang

Roedd Bella Ciao, oedd newydd agor yn Abertawe, yn un o’r bwytai gafodd eu targedu gan y twyllwyr ym mis Ebrill.

Dywedodd Giovan Cangelosi a Domenica Perico, sy’n berchen ar Bella Ciao, fod y teulu wedi archebu stêcs a sawl phwdin ac wedi gadael heb dalu bil o £329.

Cafodd Isabella's ym Mhorthcawl, River House yn Nociau Abertawe, Golden Fortune ym Mhort Talbot a La Casona yn Sgiwen eu targedu hefyd.

Fe archebodd y cwpl gwerth £1168.10 o fwyd a diod yn y bwytai, cyn gadael heb dalu.

Ffynhonnell y llun, GARETH EVERETT/HUW EVANS AGENCY
Disgrifiad o’r llun,

Bernard ac Ann McDonagh yn cyrraedd Llys Ynadon Abertawe yn gynharach ym mis Mai

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC bod y troseddau wedi eu "cynllwynio'n ofalus i batrwm penodol", a'u bod yn "ecsploetio" eu plant er mwyn dianc heb dalu.

"Roeddech chi'ch dau yn cael gwefr o'r hyn oeddech chi'n medru ei wneud."

Dywedodd bargyfreithiwr Mr McDonagh bod gan ei gleient "gywilydd" am yr hyn wnaeth, tra bod bargyfreithiwr Mrs McDonagh yn dweud ei bod yn troseddu "er mwyn gwella sefyllfa ei theulu".

Pynciau cysylltiedig