Balchder rygbi'r gogledd wrth i'r Cofis ddathlu yn Stadiwm Principality

Caernarfon yn dathlu eu buddugoliaethFfynhonnell y llun, MabonRowlandsPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Caernarfon yn dathlu eu buddugoliaeth ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos fe enillodd Caernarfon Gwpan Undeb Rygbi Cymru Adran 1 yn erbyn Pen-y-bont yn Stadiwm Principality.

Dyma'r tro cyntaf i dîm o'r gogledd ennill y gwpan a dyma oedd y tro cyntaf hefyd i Gaernarfon a Phen-y-bont gyrraedd y rownd derfynol.

Bu'n gêm agos gyda sgôr derfynol o 30-29.

"Dyma un o'r penwythnosau gora' dwi 'rioed 'di gael," meddai un o'r chwaraewyr Carwyn Roberts ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru.

"Oedd hi'n briliant, dau dîm cry', da iawn. Nathon ni ddechrau'n dda ac ar yr ail hannar ddaru Pen-y-bont sgorio dau gais yn eitha sydyn ac oeddan ni'n poeni ydy hwn yn mynd i fod ein diwrnod ni.

"A diolch byth ddaethon ni 'nôl mewn iddi efo cic gosb gan Aled Jones a wedyn y cais ar y diwedd," ychwanegodd.

Carwyn Roberts gyda Aled JonesFfynhonnell y llun, MabonRowlandsPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Roberts gyda Aled Jones - un o sêr y gêm

Mae Carwyn hefyd yn teimlo balchder bod tîm o'r gogledd wedi hawlio'r gwpan o'r diwedd.

"Mae Nant Conwy RFC 'di bod yma dair gwaith o'r blaen a wedi bod mor agos bob amsar, a wedyn s'nam un clwb o'r gogledd 'di curo o'r blaen," meddai.

"A dyma tro cynta' Caernarfon i gyrraedd y ffeinal so dwi'n meddwl bydd hynna'n rhoi 'chydig fwy o barch at dimau yn y gogledd gobeithio."

Yn ôl Carwyn roedd cefnogaeth y cofis a ddaeth i Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn hwb enfawr.

"Roeddan nhw wedi gwerthu tua 700 o docynnau ond pan oedda chdi ar y cae oedd o'n teimlo fel bod y stadiwm yn llawn.

"Ddaru nhw ganu Calon Lân yn yr hannar cynta ac o'n i bron iawn angen stopio a troi rownd a jest gwatsiad nhw.

"Oedd hwnna yn briliant a wedyn y gweiddi - y Cofis i gyd yn gweiddi ar y diwedd!"

Carl Russell Owen - hyfforddwr hapusFfynhonnell y llun, MabonRowlandsPhoto
Disgrifiad o’r llun,

Carl Russell Owen - hyfforddwr hapus

Ers y gêm mae'r gwpan wedi bod ar daith o amgylch tafarndai Caernarfon ond does dim amser am ormod o ddathlu, gyda rhagor o gemau pwysig i ddod.

"'Dan ni'n chwarae Pwllheli wsos nesa, mewn double header am y gynghrair yn rownd chwarter olaf Cwpan Gogledd Cymru," meddai.

Pynciau cysylltiedig