Teulu The Vivienne wedi sefydlu grŵp cymorth er cof am y seren drag

Aeth James Lee Williams - neu The Vivienne - i'r ysgol yng ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae teulu'r seren Drag, The Vivienne, o Fae Colwyn wedi dechrau grŵp cymorth i'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol.
Bu farw enillydd cyntaf rhaglen RuPaul's Drag Race UK, James Lee Williams, yn 32 oed ym mis Ionawr ar ôl ataliad ar y galon a gafodd ei achosi gan sgil effeithiau cymryd cetamin.
Roedd wedi bod yn cael trafferth bod yn gaeth i'r cyffur cetamin ac wedi mynd yn wael eto yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl cyfnod yn sobr.
Cafodd y grŵp ei sefydlu gan deulu The Vivienne er cof am James.

Mae Chanel Williams yn credu bod stigma'n rhan o'r rheswm pam na siaradodd ei brawd fwy am syrthio'n ôl i gaethiwed
Dywedodd ei chwaer, Chanel Williams, wrth BBC Radio Wales Breakfast ei bod hi'n "teimlo ar goll ar ôl darganfod bod fy mrawd wedi marw o ganlyniad i cetamin."
Doedd ei deulu ddim yn ymwybodol o'i broblemau.
Ychwanegodd Chanel ei bod yn teimlo'n angerddol dros "wneud gwahaniaeth, yn enwedig o ran caethiwed, trwy chwalu'r stigma hwnnw a rhoi lle diogel i bobl siarad a cheisio cyngor a chefnogaeth.
"Rydym yn ddigon ffodus i weithio gyda sefydliadau fel Tŷ Enfys sy'n ein cefnogi ar y daith hon.
"Yn y pen draw, rydym am i waddol James gynnig lle o gariad, cefnogaeth, a chynhwysiant" meddai.
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
Aeth Chanel ymlaen hefyd i esbonio yn dilyn marwolaeth ei brawd, fe aeth ati i ddysgu mwy am cetamin gan ymweld â chanolfannau ac unedau arbenigol ynghyd ag ysgolion.
Mae'n credu bod "diffyg gwasanaethau penodol i drin defnydd cetamin ac rydym yn gweld defnydd y sylwedd yn cynyddu'n sylweddol, gan dargedu demograffig llawer iau."
Ychwanegodd, "rwy'n credu mai ein cyfrifoldeb ni yw chwalu'r stigma hwnnw.
"Rwy'n credu bod stigma wedi chwarae rhan yn y rhesymau pam na siaradodd fy mrawd fwy am syrthio'n ôl i gaethiwed.
"Mae angen i ni gael gwared ar hynny" meddai.
Mi fydd grŵp cymorth, Tŷ'r Vivienne, yn cyfarfod bob dydd Mawrth yn Nhŷ Enfys ym Mae Colwyn.
Y bwriad yw cynnig cynnig cyngor ac arweiniad am ddim a man i wrando ar y rhai sy'n cael trafferthion oherwydd dibyniaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.