Cyhoeddiad ffermydd gwynt 'yn ddechrau ar ddiwydiant newydd i Gymru'

fferm wynt ar y môrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y gallai'r ffermydd gwynt gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi tua phedwar miliwn o gartrefi

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pa gwmnïau fydd yn gyfrifol am ddatblygu ffermydd gwynt newydd yn y Môr Celtaidd oddi ar arfordir Sir Benfro a de-orllewin Lloegr.

Gan weithio ar y cyd ag Ystâd y Goron, fe fydd cwmnïau Equinor a Gwynt Glas yn creu sawl fferm wynt sy'n arnofio - gyda disgwyl i'r rhain fod ymysg y mwyaf o'u math yn y byd.

Y gred yw y bydd miloedd o swyddi yn cael eu creu yng Nghymru, gyda gwaith yn cael ei gynnal mewn sawl porthladd, gan gynnwys Port Talbot.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod y cyhoeddiad yn "foment hynod arwyddocaol i'r diwydiant ynni glân yng Nghymru, ac yn un fydd yn cael effaith gadarnhaol ar genedlaethau i ddod".

Fe fydd Ystâd y Goron - sy'n rheoli gwely'r môr o amgylch arfordiroedd Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon - yn buddsoddi £400m yn y gadwyn gyflenwi.

Y gobaith yw y gallai'r ffermydd gwynt gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi tua phedwar miliwn o gartrefi.

Fe allai'r safleoedd fod yn weithredol ymhen rhwng pump a saith mlynedd.

'Y cyntaf o'u math yn y byd'

Ychwanegodd Ms Stevens mai'r ffermydd gwynt fydd "y cyntaf o'u math yn y byd" ac y byddan nhw wedi eu lleoli "ymhell o'r arfordir", a mwy na thebyg, ni fydd modd eu gweld o'r tir mawr.

Mae gweinidogion yn rhagweld y bydd y safleoedd yn weithredol erbyn dechrau'r degawd nesaf, ac y byddan nhw'n cynnig "swyddi, biliau ynni is a diogelwch ynni o ffynhonnell glan ac adnewyddadwy".

Roedd cynnig swyddi i bobl ifanc yn rhan o'r cytundeb gyda'r cwmnïau, a bydd gofyn iddyn nhw sicrhau fod o leiaf 3.5% o'r gweithlu yn brentisiaid, ac o leiaf 10% o'r gweithwyr rhwng 19-24 oed ddim mewn addysg, swydd neu yn derbyn hyfforddiant.

fferm wynt ar y môrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd hyn yn ddechrau ar ddiwydiant newydd i Gymru, meddai Eluned Morgan

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod y cyhoeddiad yn "gyffrous" ac yn "ddechreuad ar ddiwydiant newydd sbon i'n gwlad ni".

"Yn amlwg y peth cyntaf fyddwn ni yn ei wneud fel llywodraeth yw codi'r ffôn i ofyn i'r cwmnïau yma 'reit sut ydyn ni am weithio gyda'n gilydd i greu gymaint o swyddi a phosib yng Nghymru?'

"... Mae £80m eisoes wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer doc Port Talbot, ac mae hynny'n golygu gallwn ni ddechrau creu supply chain - mae'n golygu swyddi i bobl leol ac mae'n rhaid i ni fanteisio ar hynny.

"Yn amlwg mae gyda ni lot o brofiad gyda off shore wind, ond nid floating off shore wind.

"Ma' hwn yn rhywbeth newydd sbon i'r byd, felly dyna pam ry' ni eisiau bod gyntaf."

'Effaith trawsnewidiol'

Yn ôl Ysgrifennydd Ynni Lloegr, Ed Miliband, fe fydd y datblygiad yn cael effaith "trawsnewidiol" ar dwf economaidd yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.

"Fe fydd yn creu miloedd o swyddi mewn llefydd fel Port Talbot a Bryste, ac yn cryfhau ein diogelwch ynni gan sbarduno adnewyddiad diwydiannol," meddai.

Dywedodd Andy Middleton, ymgynghorydd cynaliadwyedd o Sir Benfro, ei fod yn "newyddion gwych i genedlaethau'r dyfodol".

"Fe fydd unrhyw bobl ifanc, merched a bechgyn sy'n 14 neu 15 nawr, yng nghanol eu hugeiniau erbyn i'r prosiectau yma gael eu gwireddu," ychwanegodd.

"Felly mae wir angen helpu denu pobl ifanc a'u cyffroi ynglŷn â'r posibiliadau o weithio mewn meysydd fel hyn, pan fydd system ynni'r DU i gyd yn cael ei arwain gan drydan yn y dyfodol."

'Yr elw am fynd i'r Trysorlys'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ynni, Llinos Medi AS, bod ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru'n cael cytundeb tef "ddim wedi bod yn effeithiol".

"Bydd y ffioedd a'r elw o'r cyhoeddiad yma yn cael eu rhoi i Drysorlys Llywodraeth y DU yn hytrach na chael eu cadw ar gyfer y pwrs cyhoeddus yng Nghymru," meddai.

Er yn croesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr Cymreig fod diffyg manylion.

Ychwanegodd fod angen sicrwydd y bydd porthladdoedd Cymru yn cael blaenoriaeth o ran swyddi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.