Tri phorthladd Cymreig ar restr fer i ddatblygu ffermydd gwynt enfawr

Bydd y prosiectau gwynt werth £1.4 biliwn, ac yn creu 5,000 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Mae tri o borthladdoedd Cymreig ar y rhestr fer ar gyfer datblygu ffermydd gwynt enfawr yn y Môr Celtaidd, rhwng Cymru, Iwerddon a Chernyw.
Ymhlith y porthladdoedd mae Abertawe, Port Talbot a Phenfro, ond maen nhw'n wynebu ceisiadau gan Fryste, Falmouth a Plymouth.
Y gobaith ydy y bydd y prosiectau gwerth £1.4 biliwn yn creu 5,000 o swyddi, a gyda digon o ynni adnewyddadwy i bweru dros bedwar miliwn o gartrefi (hyd at 4.5 gigawat).
Dywedodd Ystâd y Goron fod y broses o ddewis pwy fydd yn ennill yr hawliau ar gyfer y ffermydd gwynt arnofiol wedi cyrraedd y camau olaf.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens fod y cyhoeddiad ddydd Llun yn dangos bod Cymru'n barod i achub ar y "cyfle euraidd" o wynt arnofiol.
Mae Plaid Cymru'n dweud na fyddai Cymru'n elwa o gynlluniau o'r fath heb ddatganoli pwerau Ystâd y Goron.
Ocsiwn yn y gwanwyn
O fewn datblygiad o'r fath, bydd tyrbinau'n cael eu gosod ar lwyfannau arnofiol mawr, cyn cael eu tynnu allan i'r môr.
Mae'r broses ddewis yn dilyn mwy na thair blynedd o ymgysylltu gydag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys llywodraethau Cymru a'r DU a diwydiant.
Nod yr ymgysylltu oedd nodi'r lleoliadau gorau ar gyfer y ffermydd gwynt newydd.
Fel rhan o'r broses, roedd y gwahanol ymgeiswyr yn gorfod cyflwyno cynigion ar gyfer y datblygu.
Hefyd, roedden nhw angen cyflwyno cynlluniau ar gyfer creu cyfleoedd gwaith, adfywio economaidd a gweithio gyda phorthladdoedd.
Bydd yr ymgeiswyr oedd yn llwyddiannus yn rhan gyntaf y broses yn cael eu gwahodd i ocsiwn am y tri safle, sydd am gael ei gynnal yn hwyrach yn y gwanwyn.
Mae disgwyl i'r ymgeiswyr fydd yn ennill yr hawliau i'r ffermydd ar ddiwedd y broses i arwyddo cytundeb yn yr haf.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, fod y cyhoeddiad yn dangos bod Cymru'n barod i achub ar y cyfle euraidd o wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd
Dywedodd Gus Jaspert, Rheolwr Gyfarwyddwr, Marine yn Ystad y Goron bod ynni gwynt ar y môr yn cynnig "cyfle cenhedlaeth" i'r DU fod ar flaen y gad mewn diwydiant "byd-eang newydd a chyffrous".
"Bydd datblygu'r dechnoleg newydd hon yn y Môr Celtaidd yn agor cyfleoedd trawsnewidiol ar gyfer swyddi newydd, buddsoddiad a thwf ledled Cymru, de-orllewin Lloegr a thu hwnt," meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: "Bydd Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn darparu pŵer glân fel rhan o'n Cynllun ar gyfer Newid, gan hybu twf economaidd, gostwng biliau ynni a rhoi mwy o bunnoedd ym mhocedi pobl ledled Cymru."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ynni, Llinos Medi AS, bod y datblygiad yn "gam ymlaen cyffrous", ond y byddai unrhyw elw o Gymru yn mynd yn syth at Drysorlys y DU gan nad yw pwerau Ystâd y Goron wedi eu datganoli i Gymru.
"Mae'n rhaid i Gymru gael y pŵer i reoli ac elwa o'n cyfoeth naturiol. Nid yn unig yw datganoli Ystâd y Goron yn deg, mae'n hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cymunedau'n teimlo gwerth y cynlluniau yma."
Dadansoddiad
Ar ôl cael eu trafod am flynyddoedd, mae'r cynlluniau yma am gyfres o ffermydd gwynt arloesol yn debygol o weld cam ymlaen yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd datblygwyr sydd wedi cyrraedd rhestr fer yn cymryd rhan mewn ocsiwn ar-lein er mwyn bachu un o'r tri safle, gyda disgwyl i gytundebau gael eu harwyddo dros yr haf.
Rhai blynyddoedd wedyn, fe allwn ni ddod yn gyfarwydd â gweld y tyrbeini anferth yn cael eu cludo ar hyd Môr Hafren i'w cartref newydd.
Mae'r ymdrech yna'n dod â photensial enfawr hefyd am swyddi a buddsoddiad - ond pa gymunedau fydd ar eu hennill?
Ddydd Llun fe glywon ni bod yna dri phorthladd Cymreig yn y ras, gydag awgrym bod cwmnïau yn arbennig o hoff o Bort Talbot.
Ond mae 'na siawns yn dal i fodoli y gallai Cymru golli allan i borthladdoedd yn ne orllewin Lloegr a Ffrainc.
Mae galwadau niferus wedi bod am fwy o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus mewn porthladdoedd, er mwyn denu datblygwyr.
Mae 'Stad y Goron wedi bod yn y newyddion am resymau eraill yn ddiweddar - wrth i rai, gan gynnwys Llywodraeth Lafur Cymru, alw am ei ddatganoli, fel yn yr Alban.
Byddai hynny'n golygu bod yr elw o'i waith o reoli gwely'r môr yn cael ei gadw yng Nghymru, yn hytrach na'i anfon i'r Trysorlys.
Ond mae'r sawl sy'n gwrthwynebu hynny, gan gynnwys Llywodraeth Lafur San Steffan - yn cyfeirio at y cynlluniau ffermydd gwynt presennol fel rheswm i beidio â gwneud newidiadau i'r drefn ar hyn o bryd, gan ddadlau y gallai ladd gobeithion Cymru o ddenu buddsoddiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2024