3 Llun: Lluniau pwysicaf Mari Gwilym
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y actor a'r awdur, Mari Gwilym sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.
Roedd fy nhaid, sef Richard Lewis, tad fy mam, yn cadw siop-bôst ym mhentre' Pistyll ger Nefyn ers talwm, ac fel llawer o ddynion - ac ambell i ddynes hefyd - yn eu cyfnod, yn arfer smocio cetyn.
Byddai yna un yn ei geg rownd y rîl, yn rhan annatod ohono. Pan fyddai'n tanio'i getyn, a minnau'n blentyn ifanc iawn, byddwn wrth fy modd yn rhythu ar yr holl broses: syllwn arno'n waldio a chrafu gwaddol y llwch baco allan, yna'n ail-lwytho'r bibell/cetyn efo tybaco ffres, wedyn yn tanio'r cynnwys efo matsien allan o focs efo llun alarch arno, ac yna'n creu mwg mawr a'i chwythu dros bob man.
Ond un diwrnod, am ryw reswm annelwig, roedd Taid wedi gadael ei getyn, a'i faco a'i focs-matsiys ar y bwrdd yn y gegin gefn. Ac wrth gwrs, mi fachais ar fy nghyfle!
A do, yn y dirgel, mi ymdrybaeddais i lenwi'r cetyn, a gwneud andros o lanast!
Ond, i dorri stori hir yn fyr, cefais fy nal gan fy mam mewn da bryd, a chael fy rhwystro rhag tanio'r un fatsien! Dyna be' oedd siom go iawn! Ond wedi i Mam egluro mai cetyn Taid oedd hwn, ac nad oedd neb arall i fod i'w gyffwrdd, mi addewais yn ddidwyll iawn na fyddwn i byth yn cyffwrdd y cetyn wedyn, er fy mod i'n siomedig tu hwnt, achos roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar gael rhoi tro arno!
Canlyniad hynny oedd i Mam a minnau fynd i siop Woolworth's ym Mhwllheli i brynu cetyn personol i mi fy hun (sef yr un yn y llun, wrth gwrs!).
Roeddwn i wedi gwirioni, gan fod fy mhibell i yn un gan fil gwell na chetyn Taid, ym marn Mam a minnau: roedd hi'n llawer glanach, achos gallwn chwythu swigod allan ohoni hi efo dŵr a sebon!
I goroni'r cwbl, wrth i mi chwythu swigod i bob cyfeiriad, roedd fy nghetyn i yn "canu fel cana'r aderyn". Mi fûm i'n lwcus iawn i gael Mam mor ddoeth a charedig, yn do.
Dyma'r unig lun sydd gen i o Mam, Emrys, a Nhad yng nghwmni'i gilydd, ac wrth reswm, dyna pam rydw i'n trysori'r llun. Roedd gan y tri feddwl mawr o'i gilydd, ac mi gafodd bob un ddylanwad dwfn arna' innau. Ac er fy mod wedi colli'r tri bellach, pery eu dylanwad arna'i tra bydda'i.
Rydw i eisoes wedi sôn am addfwynder fy mam. A dweud y gwir, roedd fy nau riant yn annwyl ac addfwyn iawn, a 'doedden nhw byth yn ffraeo nag yn codi eu llais, ond yn hytrach yn ymresymu a thrafod. Byddai Hannah Mary a Gwilym O. Roberts yn empathig iawn – yn dysgu i mi sut i ystyried safbwyntiau a theimladau pobl eraill – hyd yn oed pe bawn i ddim yn cyd-dynnu â'r bobl rheiny.
O ran Emrys, fy niweddar ŵr wedyn, roedd o'n chwa o awyr iach go iawn: "Eicon o Gofi!", yn ôl Beti George. Roedd o'n llawn direidi a hiwmor, a chefais anturiaethau dirifedi yn ei gwmni ffraeth a difyr dros ben.
Fyddwn i fyth wedi ystyried mynydda na cherdded i gymaint o wahanol lefydd mewn gwahanol wledydd heb ei anogaeth o, ac roedd cael bod yn wraig i argraffydd mor ymroddedig yn agoriad llygaid.
Bron na fyddwn i'n dweud ei fod o lawer mwy yn "y pethe" na fi – wastad a'i drwyn mewn llyfr neu gylchgrawn; yn gwrando ar amrywiaethau o gerddoriaeth; yn mwynhau'r theatr a byd y ffilmiau, a'r cyfryngau hefyd yn eu tro.
Roedd o'n Gofi i'r carn, ac yn ymhyfrydu yn hanes Caernarfon, ei dref enedigol, ac yn niwylliant penbaladr ei annwyl Wlad y Gân. A mynnai, er nad ydw i yn Gofi, fy mod i'n bendant yn "Gofi Wlad"! (sef rhywun sydd wedi'i fagu yng nghyffiniau Caernarfon).
Cefais anogaeth ac arweiniad di-ben-draw gan y tri thrysor yn y llun arbennig hwn.
Fy nhrydydd dewis o lun yw un o fy nghreadigaethau i fy hun, sy'n cynnwys rhigwm-llaw Y Pry' Mawr Melyn Cymalog.
Mi fydda' i'n mwynhau arlunio. Byddai fy nhad yn defnyddio therapi-celf efo rhai o'i gleientiaid ers talwm, ac yn eu helpu i oresgyn eu gor-bryder wrth gyfuno hynny hefo hypnotherapi. Mae tynnu lluniau syml fel hyn ar gyfer plant yn fy helpu innau i wynebu fy ngalar wedi i mi golli Emrys, fy nghymar oes.
Fy nhad ddysgodd y rhigwm i mi, ac mi fydden ni'n cael llond trol o hwyl a miri wrth i ni oglais a chosi ein gilydd wrth ei chyd-adrodd!
Byddaf yn poeni ein bod ni am golli'r rhigymau llaw - ac yn enwedig felly rhai'r bysedd, e.e. "Modryb y Fawd, Bys yr Uwd, Hirfys, Corfys, a'r Bys Bach, druan gŵr, dorrodd ei ben wrth gario dŵr!" Mae rhigymau'r dwylo mor bwysig – yn bondio ac asio teuluoedd drwy greu hwyl a chwerthin a chroesawu babi newydd i'r teulu.
Maen nhw'n ddefnyddiol iawn wrth greu cymeriadau ac adrodd straeon llafar hefyd, ac yn sbardun i drosglwyddo'r straeon hynny wedyn – o'r llafar i'r ddalen.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd18 Awst 2024
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2024