3 Llun: Lluniau pwysicaf Gerallt Pennant
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y cyflwynydd teledu a radio, Gerallt Pennant, sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.
‘Be' sydd gen i yn fy mhoced?’ Llun dynnwyd gan Rhys, fy niweddar frawd mawr pan oeddwn i yn 15 mis oed. Yn ôl y sôn mi roddwyd pishyn tair, neu chwech yn slei yn fy mhoced a Rhys yn barod efo’i gamera i gofnodi canfod y trysor!
Mi enillodd Rhys gystadleuaeth unai yn Y Cymro neu un o bapurau’r Gogledd am y llun a derbyn gwobr o swllt neu ddau. Mae’r llun wedi bod yn destun difyrrwch teuluol ers 1961!
Cyfweld Yr Archesgob Desmond Tutu ar achlysur derbyn ei radd anrhydedd gan Brifysgol Bangor ar 10 Mehefin, 2009.
Un o freintiau mwyaf gohebu i Heno oedd y sgwrs fer hon. Cafwyd anerchiad teimladwy, yn gymysg efo chwerthin afieithus i’r cannoedd myfyrwyr yn Neuadd Pritchard Jones y diwrnod hwnnw.
Cafwyd siars, gan fod amser yn gwasgu, mai dim ond un cwestiwn oedd gan bob gohebydd hawl ei ofyn i’r Archesgob. Wrth ddiolch iddo ar ddiwedd ei ateb cyntaf mi ysgydwais ei law a gofyn ail gwestiwn tra’n dal yn dynn!
Mi ail-adroddodd Desmond Tutu ‘Diolch yn fawr Cymru’ gan chwerthin lond ei fol wrth wneud! Cefais innau deimlo pigyn ambarél swyddog cyfathrebu’r Brifysgol yn fy mhigwrn am fod mor farus!
Diwrnod gwlyb a gorfoleddus ar gopa Buachaille Etive Beag, Glencoe, Yr Alban, Chwefror 18 2024.
Dyma fy Munro olaf, sef y 282fed o’r copaon sydd dros 3,000 troedfedd yn Yr Alban. Dringais fy Munro cyntaf yn 1990 ac wedi pyliau o ddieithrio ac yna ail-afael yn yr ymgyrch (a llosgi beth wmbreth o betrol) dyma gael y maen i’r wal yn gynharach eleni.
Yn ogystal â’r 27 o gyd-aelodau Clwb Mynydda Cymru oedd efo fi yn y gwynt a’r glaw, rhaid enwi a chydnabod y ddwy sydd yn y llun. Dwynwen fy ngwraig am drefnu chwe blynedd diwethaf o’r ymdrech i gael y maen i’r wal, a’m nith annwyl Catrina sydd ar y chwith. Mae Cymraeg rhugl Catrina ac Iwan ei brawd yn tystio i argyhoeddiad a dycnwch Agnes fy niweddar chwaer i roi rhodd Mam o iaith i ddau sydd wedi eu magu ymhell o Gymru.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Awst
- Cyhoeddwyd5 Ebrill