Ymchwil 'arloesol' â'r nod o roi diagnosis dementia cyflymach

Dr Chineze Ivenso
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw gallu trin cleifion yn gynharach yn eu salwch, meddai Dr Chineze Ivenso

  • Cyhoeddwyd

Fe allai cleifion yng Nghymru fod ymhlith y cyntaf i elwa o ymchwil "arloesol" sy'n ystyried sut y gallai deallusrwydd artiffisial (AI) ynghyd â phrofion gwaed newydd roi diagnosis dementia cyflymach a mwy cywir.

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn ne ddwyrain Cymru, yw'r cyntaf i fynd ati i recriwtio cleifion i fod yn rhan o astudiaeth clinigol newydd fydd yn ehangu yn y pendraw i 1,000 o gleifion mewn canolfannau ar draws y DU.

Ar hyn o bryd mae rhai cleifion yn gorfod aros blynyddoedd am ddiagnosis, yn enwedig os yw eu symptomau yn aneglur.

Ond gobaith yr ymchwil yw gostwng amseroedd aros fel bod rhagor yn gallu cael eu trin a'u cefnogi yn fuan ar ôl cael eu cyfeirio gan eu meddygon teulu.

"Gwyddom y bydd miliynau o bobl ledled y byd yn dioddef o ddementia yn y blynyddoedd nesaf - a'r math mwyaf cyffredin yw dementia Alzheimer," medd Dr Chineze Ivenso, arweinydd dementia Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (YIGC) a meddyg ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

"Ym Mhrydain, fel yn y rhan fwyaf o'r DU, mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio ac mae'r rhan fwyaf o achosion dementia ymhlith pobl hŷn - felly mae'n rhaid i ni ddelio â'r ffrwydrad demograffig hwn a newid y ffordd rydym yn gwneud pethau.

"Fy ngobaith yw y bydd [yr ymchwil] yn rhoi offer i ni i roi triniaeth a chefnogaeth i gleifion yn gynharach yn eu salwch.

"I mi fel meddyg, rwy'n gyffrous iawn... mae miloedd o deuluoedd yn delio â diagnosis dementia ac fe allai hyn olygu y caiff y teuluoedd hynny well cefnogaeth."

Sut mae'r broses yn gweithio?

Fel arfer mae meddygon yn rhoi diagnosis o ddementia ar sail hanes meddygol y claf, canlyniadau sganiau yr ymennydd ynghyd â phrofion gwybyddol - sy'n asesu cof rhywun a'u gallu i ddatrys problemau.

Ond nawr gall profion gwaed newydd sy'n hawdd i'w defnyddio ganfod "biofarcwyr" - sef darnau bach o brotein mewn gwaed rhywun - allai fod yn arwyddion cynnar o glefyd Alzheimer.

Yn ystod yr astudiaeth SANDBOX fe fydd cleifion yn cael y profion hyn yn fuan ar ôl cael eu cyfeirio at glinigau cof arbenigol.

Wedyn fe fydd yr ymchwilwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gasglu a chysylltu'r canlyniadau yma ynghyd â chanlyniadau profion eraill gyda'r gobaith y bydd yn rhoi darlun cliriach i feddygon yn gynt yn siwrne'r claf.

Yn ystod yr astudiaeth fe fydd y ffordd newydd o weithio yn cael ei ddefnyddio law yn llaw â gweithdrefnau arferol y gwasanaeth iechyd.

"Mae'r biofarcwyr newydd yma yn ddatblygiad hynod o gyffrous," medd Dr Ivenso sy'n arwain yr astudiaeth yn ardal Aneurin Bevan.

"Gwyddom ar hyn o bryd fod ein diagnosis yn gywir mewn tua 70% o achosion - ond mae hynny'n golygu fod 30% - tri ymhob deg - ddim yn gwbl gywir."

Kathryn White
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kathryn White "ddwsinau o brofion" cyn cael diagnosis o ddementia

Bu'n rhaid i Kathryn White, 74, cyn-bostfeistres o Bontllanfraith gael dwsinau o brofion dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner cyn cael diagnosis o ddementia ym mis Gorffennaf 2024.

Sylweddolodd yn wreiddiol fod rhywbeth o'i le ar ôl iddi ddrysu tra'n gyrru i gartref ffrind - taith iddi wneud sawl gwaith.

"Doeddwn i ddim yn cofio sut i gyrraedd, roedden nhw'n byw yn Llanbedr-y-fro. Yn sydyn doedd gen i ddim syniad sut oedd cyrraedd yno," meddai.

Yn fuan wedi hynny drysodd Kathryn unwaith eto - tra'n teithio i gwrdd â'i brawd ym Mae Caerdydd. Galwodd ei gŵr Michael am help.

"Roedd hi ar y ffôn yn dweud 'does gen i ddim syniad lle ydw i'... ar ôl hynny fe aeth hi i weld ei meddyg teulu," medd Michael White.

Michael White
Disgrifiad o’r llun,

Roedd derbyn diagnosis wedi dwy flynedd a hanner o aros yn "ryddhad", yn ôl Michael White

Fe gafodd Kathryn ei chyfeirio yn y pendraw at wasanaeth asesu cof ei bwrdd iechyd.

"Fe gafodd hi brofion gwybyddol - pob math o brawf dan haul - sganiau CT, MRI, sgan PET - doeddwn ni erioed wedi clywed am hwnnw" medd Michael

"Ond roedd y canlyniadau i gyd yn aneglur - a hynny dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner."

Ar ôl cael pigiad yn y meingefn - cafodd Kathryn, o'r diwedd, ddiagnosis o ddementia - a hynny'n brofiad chwerwfelys i Michael.

"Yn amlwg mae rhywun yn ddigalon ar ôl cael y fath ddiagnosis, ond roed e'n rhyddhad mawr hefyd. Oherwydd heb ddiagnosis roedden nhw'n amharod i roi meddyginiaeth i Kathryn."

Does dim modd gwella Alzheimer's yn llwyr ond gall meddyginiaethau arafu neu reoli symptomau.

Y gobaith yw y bydd yr ymchwil yn cyflymu diagnosis ac yn golygu mynediad cynt i gleifion at driniaethau presennol a thriniaethau newydd.

Dr Nicola Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae YIGC wedi cefnogi tua 250,000 o bobl i gymryd rhan mewn treialon meddygol dros ddegawd, meddai Dr Nicola Williams

Fe fydd astudiaeth SANDBOX yn cael ei arwain dros y DU gan Goleg Imperial Llundain, yn cael ei noddi gan gwmni niwrowyddonol Prima Menta yn defnyddio technoleg gan gwmni deignosteg C2N.

Mae'r elfennau yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan YIGC.

Yn ôl Dr Nicola Williams, sy'n gyfarwyddwr ymchwil yn YIGC, mae'r astudiaeth yn adeiladu ar seiliau cadarn ymchwil feddygol yng Nghymru.

"Dros y ddegawd ddiwethaf rydym ni wedi cefnogi tua 250,000 o bobl yma i gymryd rhan mewn treialon meddygol. Ma' hynny'n rhywbeth rhyfeddol i'w gyflawni - a ry'n ni'n gwerthfawrogi'n fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan."

"Y cynharaf yr ydym ni'n gallu canfod afiechyd, nid yn unig dementia ond cyflyrau eraill hefyd - y gorau fydd y canlyniadau i gleifion yn y pendraw."

Beth yw dementia?

Dementia yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio symptomau sy'n cael eu hachosi gan gyflyrau sy'n effeithio ar gelloedd yr ymennydd a'r cysylltiadau rhyngddyn nhw.

Clefyd Alzheimer's yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia, gydag ymchwil yn awgrymu fod hyn yn cael ei achosi gan gynnydd anarferol mewn proteinau yn yr ymennydd.

Mae'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn datblygu Alzheimer's yn dyblu bob pum mlynedd ar ôl i rywun gyrraedd 65 oed.

Ond mae un ymhob 20 ag Alzheimer's yn iau na 65 - sy'n cael ei ddisgrifio fel "dementia cynnar".

Yr amcangyfri' yw bod tua 1,000,000 o bobl yn y DU yn byw â dementia, gyda disgwyl i gyfraddau gynyddu'n sylweddol dros y 15 mlynedd nesaf wrth i'r boblogaeth barhau i heneiddio.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig