Morgan wedi mynegi pryderon dros newidiadau i fudd-daliadau

Dywedodd Eluned Morgan fod angen diwygio'r system fudd-daliadau
- Cyhoeddwyd
Roedd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi cysylltu â Downing Street yn bersonol i fynegi pryderon ynglŷn â newidiadau'r llywodraeth i fudd-daliadau.
Mae llywodraeth Lafur San Steffan yn dweud bod angen diwygio'r wladwriaeth les, ac wedi cyhoeddi newid i'r prif fudd-dal anabledd, fydd yn arbed £5bn erbyn 2030.
Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Eluned Morgan ei bod yn deall rhai o'r pryderon am effaith y newidiadau ar Gymru, ond bod "rhai" o'i phryderon wedi cael eu hystyried.
Fe gafodd ei herio gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, i gondemnio'r newidiadau, fyddai yn ei farn o yn "atal llawer o bobl anabl rhag cael teimlad o urddas ac yn dal mwy o bobl mewn tlodi".
Ond amddiffyn yr angen am newid wnaeth y prif weinidog.
"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig cydnabod bod yna angen i ddiwygio'r system.
"Da ni angen rhoi ysgol i bobl allan o'r wladwriaeth les ac allan o dlodi ac mae'n rhaid gwneud hynny drwy adfer ymddiriedaeth a thegwch."
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
Mae'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn cael ei roi i bobl sy'n cael anhawster i gwblhau tasgau bob dydd o ganlyniad i gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor.
Bydd y taliadau'n codi yn unol â chwyddiant eleni. Ond bydd y meini prawf ar gyfer derbyn y budd-dal yn cael eu tynhau o fis Tachwedd 2026, fydd yn golygu y bydd llawer yn derbyn llai o arian yn y dyfodol.
Ar y llaw arall ni fydd y rhai sydd â'r cyflyrau hirdymor mwyaf difrifol yn gorfod wynebu unrhyw ailasesiadau bellach.
Bydd y llywodraeth hefyd yn ymgynghori ar newid i wahardd pobl dan 22 oed rhag hawlio'r taliad iechyd o'r credyd cynhwysol.
Mae'r newidiadau yn debygol o gael effaith sylweddol yng Nghymru ble mae mwy na 275,000 o bobl yn hawlio'r Taliad Annibyniaeth Personol ar hyn o bryd, tua 14% o'r boblogaeth oedran gweithio.
Ym Mlaenau Gwent, roedd un ym mhob pum person rhwng 16-64 yn hawlio budd-daliadau yn 2023-24, yn ôl asesiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS).
'Rhwyd diogelwch'
Dywedodd Eluned Morgan wrth aelodau o'r Senedd ei bod wedi ysgrifennu at yr ysgrifennydd gwaith a phensiynau Liz Kendall.
Yn y llythyr mae'n dweud ei bod yn "cytuno bod angen i'r system sicrhau ei fod yn cefnogi pobl yn effeithiol i mewn i waith ac yn cynnig rhwyd diogelwch ariannol effeithiol i bobl sydd ddim yn gallu gweithio".
Ac mae'n gofyn am asesiad o effaith y newidiadau ar Gymru.
Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei feirniadu gan y Democratiaid Rhyddfrydol - yn ôl llefarydd San Steffan y blaid, David Chadwick AS, "dydych chi ddim yn cael mwy o bobl i'r gwaith drwy dorri ar y cymorth i bobl anabl sydd ei angen".