Arestio dyn, 20, ar amheuaeth o lofruddio dynes gafodd ei saethu

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Joanne Penney ar ôl cael ei saethu yn ei brest nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae chweched person wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes gael ei saethu'n farw yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Joanne Penney, 40, ei chanfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau tua 18:10 nos Sul. Bu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei bod wedi cael ei saethu yn ei brest.

Cafodd dyn 20 oed o Laneirwg, Caerdydd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ddydd Mercher.

Mae chwe pherson bellach wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Llys Illtyd
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y saethu mewn cyfeiriad yn Llys Illtyd, meddai'r heddlu

Mae dyn 42 oed o Donysguboriau a gafodd ei arestio ddydd Sul wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad, ond mae ar fechnïaeth ac yn cael ei holi ymhellach yn dilyn honiad o ymosodiad.

Dywedodd Heddlu De Cymru brynhawn Mawrth fod pedwar unigolyn arall wedi cael eu harestio yn ardal Heddlu Sir Gaerlŷr nos Lun mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r pedwar - dynes 21 oed a dyn 27 oed o Oadby, Sir Gaerlŷr, dyn 68 oed o Braunstone Town, Sir Gaerlŷr, a dynes 39 oed o Gaerlŷr - yn parhau yn y ddalfa.

Cafodd gwarant i gadw'r pedwar person a gafodd eu harestio yn Sir Gaerlŷr ei ganiatáu gan ynadon ddydd Mercher, meddai'r llu.

'Cynnydd sylweddol'

Cafodd Heddlu'r De eu galw am 18:10 nos Sul yn dilyn adroddiad o achos o saethu mewn cyfeiriad yn Llys Illtyd yn ardal Green Park, Tonysguboriau.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: "Mae ditectifs sy'n gweithio ar yr ymchwiliad yn gwneud cynnydd sylweddol gyda'u hymholiadau.

"Er bod yr arestiad ychwanegol yma yn ddatblygiad arwyddocaol, mae'r ymchwiliad i farwolaeth Joanne yn parhau ac mae gennym dîm o dditectifs profiadol a staff arbenigol yn gweithio'n galed i sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn."

Green Park
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Green Park toc wedi 18:00 nos Sul

Dywedodd y llu fod dau gerbyd - Nissan Note lliw brown golau anarferol (BK61 ZDC) a Volvo XC40 du (FD24 PZF) - wedi teithio o ardal Caerlŷr i dde Cymru rhywbryd ar ôl 10:30 ddydd Sul, cyn gadael ychydig ar ôl y digwyddiad.

Maen nhw'n apelio am wybodaeth o ran symudiadau'r cerbydau hynny, a'r unigolion oedd ynddynt.

Ychwanegodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: "Mae angen gwybodaeth arnom am symudiadau'r cerbydau hyn a'r unigolion a oedd yn y cerbydau, gan gynnwys unrhyw ddeunydd dashfwrdd - yn arbennig gan gerbydau masnachol.

"Cafodd y ddau gerbyd eu hatafaelu yn dilyn yr arestiadau a byddant yn destun archwiliad fforensig.

"Er bod gennym dimau o swyddogion yn cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac yn ymchwilio i ddeunydd o gamerâu teledu cylch cyfyng, rwyf hefyd yn apelio am unrhyw ddeunydd dashfwrdd neu ddeunydd camera teledu cylch cyfyng o ardal Llys Illtyd a'r parc manwerthu cyfagos rhwng 17:30 a 18:30 ddydd Sul, a allai ddangos y cerbydau hyn ac unrhyw dystion."

Pynciau cysylltiedig