Diffyg cymorth gofal plant yn 'gosb eithafol' i rieni Cymru
"'Da ni ar gyflog teg ond dydi o ddim yn ddigon efo cost gofal plant yn £120 y dydd"
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni plant sy'n iau na dwy oed yng Nghymru yn cael eu "cosbi" wrth orfod talu dros ddwywaith yr hyn mae rhieni yn Lloegr yn ei dalu am ofal plant, yn ôl Oxfam Cymru.
Dyw rhieni plant dan ddwy oed yng Nghymru ddim yn cael cymorth ariannol gan y llywodraeth, tra yn Lloegr gall rhieni hawlio 15 awr am ddim ar gyfer plant rhwng naw mis a dwy oed.
Mae Oxfam Cymru yn dweud bod hynny'n "gosb eithafol ychwanegol i rieni Cymru", ac yn rhybuddio y gallai arwain at ragor o blant yn byw mewn tlodi.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi buddsoddi dros £100m y flwyddyn ar gynnal a datblygu gofal plant o ansawdd uchel.
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023

Mae Alaw Evans, sy'n fam i ddau o blant, yn dweud bod "dim tegwch" bod y gefnogaeth yn Lloegr a Chymru yn wahanol
Yn ôl arolwg, dolen allanol gan elusen blant Coram, mae rhieni'n talu £155 yn wythnosol ar gyfartaledd i roi plentyn o dan ddwy oed mewn meithrinfa yn rhan amser (25 awr) yng Nghymru.
Yn Lloegr, mae gofal rhan amser - gan gymryd i ystyriaeth yr oriau am ddim - wedi gostwng i £70.
Dywedodd Lydia Hodges, pennaeth elusen Coram fod "costau gofal ar gyfer plant dan ddwy oed yn ddrytach yng Nghymru erbyn hyn nag yng ngweddill Prydain".
"Dyw teuluoedd ddim yn gallu fforddio biliau o'r fath, ac mae 'na beryg na fydd rhieni yn gallu mynd yn ôl i weithio."
'Da'n ni dal yn strugglo'
Mae Ffion Ryan o Lansannan, Sir Conwy, ar gyfnod mamolaeth gyda phlant pum mis, dwy a phedair oed.
"Dwi'n cyfri' fy hun yn lwcus," meddai, gyda hi a'i phartner yn athrawon ac "ar gyflogau teg yn enwedig i ardal wledig fel 'ma".
"Ond 'da ni dal yn strugglo ein hunain."

Athrawes yw Ffion Ryan, ond mae'n dweud nad yw'n "gwneud synnwyr ariannol i'r teulu" iddi weithio'n llawn amser
Ychwanegodd: "Dydy o ddim yn hawdd mynd i dalu £120 bron iawn y diwrnod i ddau ohonyn nhw mewn meithrinfa, a 'sa fo'n struggle ar ben bob dim arall a talu am betrol i fynd i'r gwaith.
"Bysa rhoi dau mewn meithrinfa am dri diwrnod yr wythnos ddim yn gwneud synnwyr ariannol i'r teulu," meddai.
Yn y DU, mae tâl mamolaeth statudol yn dod i ben ar ôl 39 wythnos, neu naw mis.
Dywedodd Ffion y byddai'n dda cael cymorth gyda chostau gofal o pan mae plentyn yn naw mis oed achos "mae'n lot o amser i ffeindio arian a disgwyl i fynd nôl i gwaith".
Fe fyddai'n hoffi gweld y llywodraeth yn gwneud mwy i gefnogi merched i ddychwelyd i'r gwaith "er lles popeth - er lles yr economi a'r gymdeithas".

Dywed Gwern Gwynfil o Oxfam Cymru y dylai costau gofal plant fod yn fforddiadwy "i wthio'n ôl yn erbyn tlodi plant andwyol"
Dywedodd Gwern Gwynfil o Oxfam Cymru "bod rhieni Cymru nawr yn mynd i fod yn talu ymhell dros £2,000 yn fwy ar gyfartaledd y flwyddyn ar gyfer eu gofal plant nhw i blant rhwng naw mis a dyflwydd oed".
"I ni yng Nghymru, dydyn ni ddim yn ran cyfoethog o Brydain a mae hyn yn gosb eithafol ychwanegol i rieni Cymru."
Ychwanegodd: "Mae wedi cael ei ddangos droeon bod darparu gofal plant cyson, safonol, fforddiadwy i rieni yn effeithiol mewn sawl ffordd - mae fe'n cadw pobl mewn gwaith, mae e'n dda i'r economi a mwy na dim, mae e'n fodd o wthio'n ôl yn erbyn tlodi plant andwyol yng Nghymru.
"Mae'r ffigyrau yn arswydus... mae mwy na dau o bob pump [40%] o blant o dan bedair oed yng Nghymru mewn tlodi ac mae gofal plant yn un o'r ffyrdd gorau i ddelio 'da hynny a dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud hynny."

Mae Alaw Evans (chwith) wedi sefydlu grŵp Babis Del ac yn cynnal sesiynau ar gyfer mamau a phlant ym Mhenrhyndeudraeth
Mae Alaw Evans yn fam i ddau o blant bach sy'n gweithio'n rhan amser ac wedi sefydlu busnes ei hun, Babis Del.
Dywedodd: "Dwi'n gweld yn Lloegr mae gofal plant am ddim 'di dod allan i blant lot ieuengach yn Lloegr a pam dydan ni ddim yn yr un sefyllfa yng Nghymru?
"Mi fydda i mewn sefyllfa lle ma gen i deulu yn Lloegr yn mynd i fod yn cael gofal plant am ddim o pan mae eu plentyn nhw'n naw mis oed tra fydda i'n dal i dalu i'n merch dwy oed i fod yn mynd i feithrinfa drwy dydd felly mae rhan ohona fi'n meddwl does na ddim tegwch really yn y ffordd mae o gyd yn gweithio.
"Mae o'n rhoi teuluoedd mewn sefyllfa anodd – mae'r penderfyniad yn gorfod bod os ydi o werth iddyn nhw fynd nôl i weithio neu ddim."
Pa gymorth sydd ar gael i rieni?

Yn Lloegr, fe all rheini plant rhwng naw mis a dwy oed sy'n gweithio gael 15 awr o ofal am ddim. O fis Medi 2025, fe fydd rhieni cymwys yn gallu hawlio 30 awr am ddim i bob plentyn dan bump oed.
Yng Nghymru, mae'r llywodraeth yn ariannu dau gynllun gofal ar gyfer plant rhwng dwy a phedair oed.
Drwy'r Cynnig Gofal Plant, dolen allanol gall rhieni plant tair a phedair oed hawlio hyd at 30 awr o ofal plant am ddim, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae Dechrau'n Deg, dolen allanol yn darparu 12.5 awr yr wythnos am ddim i blant dwy oed mewn ardaloedd penodol. Mae Llywodraeth Cymru yn ehangu'r cynllun, gan flaenoriaethu ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Ond mae Oxfam Cymru'n dweud mai dim ond 60% o deuluoedd sydd â phlant dwy oed sy'n gallu manteisio ar gynllun Dechrau'n Deg ar hyn o bryd.
Tra'n croesawu penderfyniad i ehangu, mae Gwern Gwynfil o'r elusen yn dweud bod yn "rhaid symud pethau'n gynt".

Natasha Baker yw perchennog meithrinfa Wibli Wobli yng Nghasnewydd
Mae busnesau sy'n darparu gofal plant yn dweud nad ydy'r arian gan y llywodraeth i ddarparu gofal plant am ddim yn ddigon a bod yn rhaid iddyn nhw gynyddu ffioedd i rieni.
Yn ôl perchennog meithrinfa Wibli Wobli yng Nghasnewydd, Natasha Baker, y "brif broblem ariannol i feithrinfeydd yw costau staff".
"Mae'r rhan fwyaf o feithrinfeydd yn gwario hyd at 70% neu fwy o'u hincwm ar gostau staff... mae'n rhaid i ni sicrhau bod digon o staff yn y lle drwy'r amser i oruchwylio plant ac i gadw nhw'n ddiogel.
"Erbyn mis Ebrill eleni, oherwydd NI contributions ychwanegol, cyflogau yn uchel a hyfforddiant yn costio mwy, mae pob aelod o staff nawr yn costio lot mwy na'r misoedd diwethaf ac achos ni'n cyflogi cymaint o staff, mae'n cael effaith mawr ar ffioedd."

Gyda phleidiau gwleidyddol yn paratoi at etholiad y Senedd yn 2026, mae'n debygol mai costau gofal plant fydd un o'r pynciau llosg.
Mae Plaid Cymru, wnaeth helpu i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant am ddim yn cael ei ehangu fel rhan o gytundeb gyda Llywodraeth Cymru yn 2021, yn dweud eu bod nhw am "ehangu'r cynnig ar ofal plant mwy fforddiadwy yn 2026".
Roedd cytundeb rhwng arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, a Llywodraeth Cymru i gymeradwyo'r gyllideb fis diwethaf yn cynnwys £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal plant.
Dywedodd Ms Dodds ei bod am weld 30 awr o ofal plant am ddim i blant o naw mis oed tan oedran ysgol.
Dywed y Ceidwadwyr eu bod am weld Llywodraeth Cymru yn cynnig "30 awr o ofal plant am ddim i blant dan bump oed, fel sy'n digwydd yn Lloegr".
Yn ôl llywodraeth Lafur Cymru, eu blaenoriaeth nhw i ddechrau ydy cefnogi'r cymunedau mwyaf difreintiedig.
"Mae ganddon ni £50m yn ychwanegol yn 2025-26 er mwyn ehangu'r cynllun Dechrau'n Deg i blant dwy oed, fydd yn cefnogi mwy o deuluoedd, a chynyddu'r raddfa bob awr ar gyfer gofal plant er mwyn sicrhau cefnogaeth bellach ar gyfer darparwyr gofal plant," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022