Methu targed trin canser ddwywaith 'wedi cyfrannu' at farwolaeth

Cafodd Mr Tatchell ei gyfeirio i Ysbyty Treforys gan ei ddeintydd ar ôl darganfod wlser yn ei ên
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi ysgrifennu at fwrdd iechyd ar ôl i oedi i driniaeth claf canser fynd yn groes ddwywaith i ganllawiau Llywodraeth Cymru, dolen allanol.
Bu farw Gareth Wynne Tatchell ar 9 Ebrill 2024 yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Daeth cwest i'r casgliad bod Mr Tatchell wedi marw o niwmonia yn sgil triniaeth ar gyfer canser, ond mae'r Crwner Aled Gruffydd yn galw am atebion am yr oedi a ddigwyddodd yn ystod ei driniaeth.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro i deulu Mr Tatchell am yr oedi yn ei ofal ac yn dweud y byddan nhw'n ystyried yr holl faterion a godwyd gan y crwner.
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
Mewn adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol, dywedodd y Crwner Aled Gruffydd fod yr "oedi wrth ddarparu triniaeth wedi bod yn rhannol gyfrifol" am farwolaeth Mr Tatchell.
Dywedwyd wrth y crwner fod Mr Tatchell wedi cael ei gyfeirio i Ysbyty Treforys, Abertawe ar 12 Ebrill 2023 gan ei ddeintydd wedi i wlser gael ei ganfod yn ei ên chwith isaf.
Nodwyd bod ei achos yn un brys ac fe gafodd apwyntiad yn y clinig cleifion allanol ar 28 Ebrill 2023. Ddiwedd Mai fe gadarnhaodd biopsi fod gan Mr Tatchell fath o ganser.
Dychwelodd Mr Tatchell i'r ysbyty eto ar 19 a 29 Mehefin ar gyfer sganiau CT ac MRI ac fe welodd ymgynghorydd ar 6 Gorffennaf a 27 Gorffennaf i drafod triniaethau, a fyddai'n cynnwys llawdriniaeth a radiotherapi.
Fodd bynnag, oherwydd capasiti'r theatr ni chafodd lawdriniaeth tan 13 Medi.
Yr wythnos cyn y llawdriniaeth, darganfuwyd bod canser Mr Tatchell wedi lledu ac yn weladwy.
144 diwrnod cyn cael triniaeth
Fe gafodd Mr Tatchell lawdriniaeth ond erbyn mis Chwefror 2024, wrth iddo gwyno am boen yn ei wddf, fe wnaeth arbenigwyr ganfod fod y canser wedi dod yn ôl.
Aeth eto i'r ysbyty ar 8 Mawrth a bu farw fis yn ddiweddarach.
Gan ysgrifennu at brif weithredwr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, daeth Mr Gruffydd i'r casgliad bod "yr oedi wrth ddarparu triniaeth wedi cyfrannu at farwolaeth yr ymadawedig".
Mae canllawiau y ddogfen Llwybr lle'r amheuir canser, dolen allanol a gafodd eu cyflwyno yng Nghymru yn 2019, yn gorchymyn bod claf a amheuir o fod â chanser yn cael diagnosis o fewn 31 diwrnod o gael ei gyfeirio at arbenigwyr.
Nodir hefyd bod angen i driniaeth ddechrau o fewn 62 diwrnod wedi hynny.
"Yn yr achos hwn roedd yna 97 diwrnod cyn cael diagnosis a 144 diwrnod cyn dechrau triniaeth."
Dywedodd Mr Gruffydd fod gwelliant wedi bod ers hynny yng nghapasiti'r theatr a bod llawfeddyg oncoleg ymgynghorol wedi'i benodi.
Fodd bynnag, ychwanegodd ym mis Mai 2025, fod dau gyfarwyddwr meddygol cysylltiol wedi dweud wrth yr arweinydd radioleg eu bod yn bryderus bod oedi cyn cynnal sganiau yn achosi risg ddiangen i gleifion â chanserau ffyrnig - wrth iddo ledaenu ac yn fwy anodd cael gwared ohono.
Dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn pryderu bod oedi cyn sganio yn caniatáu i ganserau o'r fath "arwain at brognosis gwael i gleifion ac yn lleihau disgwyliad oes".
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Bae Abertawe: "Hoffem fynegi ein cydymdeimlad â theulu Mr Tatchell am eu colled drist ac ymddiheuro am yr oedi yn ei ofal.
"Gallwn gadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi derbyn y llythyr Rheoliad 28 gan y crwner ddydd Llun yr wythnos hon.
"Byddwn nawr yn ystyried yr holl faterion a godwyd yn ofalus ac yn ymateb yn uniongyrchol i'r crwner maes o law.
"Byddai'n amhriodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd."