Betio ar yr etholiad: Ymchwiliad Heddlu'r Met ar ben
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Met wedi dod â'u hymchwiliad i'r sgandal betio ar yr etholiad cyffredinol i ben.
Mae BBC Cymru'n deall bod cyn-AS Sir Drefaldwyn Craig Williams yn un o'r rheiny oedd yn destun ymchwiliad.
Daeth hynny wedi i'r cyn-gynorthwyydd i Rishi Sunak gyfaddef iddo wneud "camsyniad difrifol" wrth roi bet ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.
Dywedodd Heddlu'r Met ddydd Gwener fod y troseddau oedd dan ymchwiliad ddim yn cyrraedd y "lefel uchel" sydd ei angen er mwyn profi camymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Ond mae'r Comisiwn Hapchwarae yn dal i ymchwilio i unhryw achosion posib o dorri'r Ddeddf Hapchwarae.
Beth sydd wedi digwydd?
Lansiwyd ymchwiliad i wleidyddion a swyddogion heddlu yn gynharach eleni yn dilyn honiadau eu bod wedi defnyddio gwybodaeth fewnol er mwyn gosod betiau ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.
Fe wnaeth y Comisiwn Hapchwarae ddechrau ymchwilio i'r achosion hynny, er mwyn ystyried a oedden nhw wedi mynd yn groes i'r Ddeddf Hapchwarae trwy dwyllo.
Ond fe wnaeth Heddlu'r Met hefyd lansio ymchwiliad i "nifer fechan o achosion" ble roedd honiadau y gallai troseddau eraill - fel camymddwyn mewn swydd gyhoeddus - fod wedi digwydd.
Dywedodd y llu ddydd Gwener nad oedd y dystiolaeth a gasglwyd ganddynt yn ddigon i gyrraedd y "lefel uchel" sydd ei angen er mwyn profi trosedd o'r fath.
Ond mae ymchwiliad y Comisiwn Hapchwarae yn parhau, er mwyn asesu a gafodd gwybodaeth gyfrinachol "ei ddefnyddio i gael mantais annheg tra'n betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin