Teyrngedau i ddwy fenyw fu farw wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi gan deuluoedd dwy fenyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri dros y penwythnos.
Bu farw Madeline Elaine Brooks, 85, a Beverly Pugsley, 69, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4050 toc wedi 13:40 brynhawn Sadwrn.
Mae dau ddyn 24 a 67 oed yn parhau yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad.
Roedd Ms Brooks, a gafodd ei geni ym Mhenarth ac a fu'n byw yn Y Barri am dros 65 mlynedd, yn "fenyw fywiog, llawn egni", meddai ei theulu.
Roedd y fam, nain, hen-nain a modryb yn "caru dawnsio" a'n "cynnal gwersi ar draws y wlad, ac yn dal i fynychu dawnsfeydd prynhawn yn ei blynyddoedd olaf".
Dywedodd teulu Ms Pugsley, o Landaf, ei bod yn "fenyw dawel oedd yn caru ei swydd ar ôl gweithio i’r BBC am y rhan fwyaf o’i bywyd mewn rolau amrywiol, ac yn ddiweddarach fel ymchwilydd i lawer o raglenni teledu".
"Roedd hi'n dal i weithio'n rhannol ar ôl ymddeol."
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Sarjant Gareth Jones-Roberts: “Rydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru yn yr ardal rhwng 13:30 a 13:50 brynhawn Sadwrn ac a allai fod ag unrhyw wybodaeth a all gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu â ni.
“Os oes gennych chi gamera cerbyd, cysylltwch â ni.
"Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a all roi rhagor o fanylion i ni, yn enwedig am y ffordd yr oedd Audi RS 4 llwyd yn gyrru cyn y gwrthdrawiad."