Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn Abertawe

Ceir plismyn ar safle'r digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Hafod toc wedi 12:00 ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn gafodd ei ddarganfod ag anafiadau difrifol yn Abertawe.

Cafodd swyddogion eu galw i Heol y Cwm yn ardal Hafod toc wedi 12:00 brynhawn Mercher.

Fe gadarnhaodd swyddogion fod y dyn 27 oed o Waunwen wedi marw o ganlyniad i'w anafiadau.

Cafodd pedwar dyn eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae nhw'n parhau yn y ddalfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu bellach wedi cadarnhau eu bod ymchwilio i achos o lofruddiaeth

Dywedodd yr heddlu fod dyn 31 oed o Waunwen, dyn 49 oed o Gendros, dyn 37 oed o'r Strand a dyn 39 oed o Dreforys wedi eu harestio.

Cafodd Heol y Cwm ei chau wedi'r digwyddiad, ac mae disgwyl y bydd y ffordd yn parhau ar gau tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywedodd y ditectif arolygydd, Paul Raikes eu bod yn "ddiolchar i'r cyhoedd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i'r ymchwiliad barhau".

"Ry'n ni'n apelio ar unrhyw dystion, gan gynnwys unrhyw un sydd a lluniau dash-cam o Heol New Cut rhwng 11:50 a 12:00 ddydd Mercher i gysylltu â ni," meddai.

Pynciau cysylltiedig