Beth yw isetholiad y Senedd yng Nghaerffili a phwy all bleidleisio?

Castell Caerffili Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Caerffili yw'r ail fwyaf ym Mhrydain, ar ôl Castell Windsor

  • Cyhoeddwyd

Ar 23 Hydref bydd pleidleiswyr yng Nghaerffili yn penderfynu pwy fydd yn gwasanaethu fel Aelod o'r Senedd (AS) yr etholaeth am y chwe mis nesaf.

Mae'n etholiad nad oedd unrhyw un ei eisiau - yn dilyn marwolaeth sydyn Hefin David AS.

Bydd yn llenwi swydd wag tan fis Mai 2026, pan fydd etholiad arall yn penderfynu cyfansoddiad Senedd Cymru newydd estynedig.

Mae gan yr isetholiad oblygiadau sylweddol i'r Senedd gyfan, gyda Llafur yn wynebu tasg anodd o redeg y wlad pe baent yn colli.

Mae pob un o'r prif bleidiau yn cyflwyno ymgeiswyr yn yr etholiad - mae'n brawf allweddol iddynt wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad mawr y flwyddyn nesaf.

Fe fydd etholwyr yn pleidleisio ar 23 Hydref Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd etholwyr yn pleidleisio ar 23 Hydref

Y tu ôl i'r isetholiad oedd marwolaeth sydyn yr Aelod o'r Senedd Hefin David, o'r Blaid Lafur, ym mis Awst.

Cafodd ei ethol gyntaf yn 2016, ac roedd Llafur wedi dal y sedd ers dechrau datganoli yng Nghymru yn 1999.

Er bod etholiad arall ym mis Mai, mae'n rhaid llenwi'r sedd wag yn y cyfamser.

Bydd pobl 16 oed a hŷn sy'n ddinasyddion Prydeinig, Gwyddelig neu'r Undeb Ewropeaidd sy'n byw yn yr etholaeth ac sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn gallu cymryd rhan.

Mae pobl o wledydd eraill sydd â'r gallu i fyw yn gyfreithlon yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel hefyd yn gymwys i bleidleisio.

Yn wahanol i etholiadau San Steffan, nid oes angen dogfen adnabod i bleidleisio.

Beth sydd yn y fantol?

Cyn marwolaeth Hefin David, roedd gan Lafur 30 o 60 sedd y Senedd.

Roedd hynny'n golygu eu bod eisoes yn dibynnu ar gymorth o leiaf un aelod arall o'r gwrthbleidiau pan oedd angen pasio deddfwriaeth neu gynlluniau gwariant.

Cafwyd cymorth y Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn y gyllideb ddiwethaf yn gyfnewid am gytundeb, gan gynnwys gwaharddiad ar rasio milgwn.

Pe bai Llafur yn ennill, bydd y sefyllfa'n aros yr un fath - pe bai'n colli bydd angen cefnogaeth dau aelod o'r gwrthbleidiau, yn hytrach nag un yn unig.

Os nad yw hynny'n bosibl, gallai Llafur fethu â phasio cyllideb, a fyddai'n arwain at doriadau awtomatig sylweddol pe na bai'n cael ei ddatrys.

Mae Llafur wedi rhybuddio am doriadau os bydd pleidleiswyr yn troi yn eu herbyn - mae wedi cael ei chyhuddo o "godi bwganod".

Fodd bynnag, roedd Mark Drakeford, cyn marwolaeth Hefin David, wedi addo peidio â gwneud newidiadau sylweddol i'r gyllideb mewn ymgais i'w gwneud yn niwtral yn wleidyddol.

Byddai colli Caerffili yn ergyd sylweddol i'r blaid Lafur, sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth yn y rhan hon o dde Cymru ers dechrau'r 20fed ganrif.

Mae arolygon barn wedi awgrymu bod Llafur, Plaid Cymru a phlaid Reform yn cystadlu am y safle uchaf yn etholiad nesaf y Senedd.

Beth mae'r pleidiau eraill yn ei ddweud?

Yr etholiad yw'r cyfle gwirioneddol cyntaf i Reform UK ennill sedd seneddol yng Nghymru, o ystyried ei safle yn yr arolygon barn, a llwyddiannau mewn isetholiadau cynghorau Cymru.

Mae'r blaid wedi addo rhoi "popeth" sydd ganddi at yr ymgyrch ac yn dweud ei bod yn cynnig "cyfle am newid gwirioneddol".

Mae Plaid Cymru wedi cipio miloedd o bleidleisiau yn yr etholaeth yn y gorffennol, er nad yw hi erioed wedi'i hennill. Bydd yn gobeithio mynd ymhellach, ac mae am ddenu pleidleiswyr asgell chwith sy'n gwrthwynebu Reform.

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod pleidlais dros Lafur yn bleidlais dros blaid Farage, gan bortreadu'r isetholiad fel brwydr rhyngddyn nhw a Reform.

Nid nhw yw'r unig dair plaid sy'n sefyll - mae'r Torïaid yn dweud eu bod yn cynnig newid credadwy, tra bod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn canolbwyntio yn eu hymgyrch ar thema gofal.

Yn y cyfamser, addawodd y Gwyrddion roi "pobl a'r blaned yn gyntaf". Mae ymgeiswyr o Gwlad ac UKIP hefyd yn sefyll.

Pwy yw'r ymgeiswyr yn isetholiad Caerffili?

Ceidwadwyr - Gareth Potter

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler

Gwlad - Anthony Cook

Llafur - Richard Tunnicliffe

Plaid Cymru - Lindsay Whittle

Reform UK - Llŷr Powell

UKIP - Roger Quilliam

Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Gallwch ddysgu mwy am yr ymgeiswyr yma.

Sut fydd yr etholaeth yn newid ar ôl Mai 2026?

Bydd Caerffili yn peidio â bodoli fel etholaeth annibynnol o fis Mai ymlaen.

Mae holl etholaethau Senedd Cymru yn newid - gyda map o 16 yn cael ei ddefnyddio o'r adeg honno ymlaen.

Bydd pob etholaeth yn ethol chwe AS, gan ddefnyddio system bleidleisio newydd sy'n seiliedig ar restr.

Y syniad yw ei bod yn fwy cyfrannol na'r system bresennol.

Ym mis Mai bydd Caerffili yn dod yn rhan o etholaeth ehangach Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, a fydd yn ymestyn i bennau'r cymoedd yn y gogledd.

Bydd isetholiad y mis hwn yn cael ei ymladd drwy system y cyntaf i'r felin, serch hynny, lle mae angen i'r enillydd gael mwy o bleidleisiau na phob un o'r ymgeiswyr eraill.

Sut allwch chi bleidleisio yn isetholiad y Senedd yng Nghaerffili?

Bydd pleidleisio yn yr isetholiad fel yn unrhyw etholiad arall i San Steffan neu i'r Senedd.

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 17:00 ar 15 Hydref.

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar 23 Hydref o 07:00 tan 22:00.

Bydd y cyfrif yn digwydd dros nos a bydd sylw i'r canlyniad ar Cymru Fyw ac ar wasanaethau teledu a radio y BBC.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol