'Dysgu mynd i'r toiled ddim yn fater du a gwyn'
- Cyhoeddwyd
"Mae toiledu yn gallu bod yn broses hir i lawer o blant am fyrdd o resymau. Gall gymryd blynyddoedd, a hyd yn oed wedyn, mae damweiniau'n digwydd. Dyw e ddim yn fater du a gwyn."
Cyhoeddodd Cyngor Blaenau Gwent yr wythnos yma y bydd rhieni nawr yn cael eu galw i'r ysgol i newid cewynnau eu plant, oherwydd y "lefel uchel iawn o ddisgyblion yn dod i'r ysgol mewn cewynnau".
Yn ôl penaethiaid addysg mae cynnydd sylweddol wedi bod ers Covid yn nifer y plant sy' methu defnyddio'r tŷ bach ar eu pen eu hunain pan maen nhw'n dechrau'r ysgol.
Un rhiant sy'n teimlo'n gryf am y pwnc yw Gwennan Evans o Gaerdydd sy'n fam i blentyn gydag anableddau dysgu. Mae'n teimlo ei fod yn annheg ar blant a rhieni, yn enwedig mewn achosion lle mae plant gydag anableddau dysgu yn aros am ddiagnosis ac am gynllun datblygu personol.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn dweud na fydd y polisi "yn berthnasol i'r rheiny sydd ag angen meddygol wedi'i gydnabod, ble mae tystiolaeth briodol wedi ei darparu" ac y bydd ysgolion yn parhau i gefnogi rhieni a gwarchodwyr pan mae'n dod at hyfforddiant tŷ bach.
Yma, mewn darn barn i Cymru Fyw, mae Gwennan yn sôn am yr heriau o sicrhau cefnogaeth i blentyn gydag anabledd dysgu a pham mae'n teimlo fod polisi Blaenau Gwent yn annheg:
"Mae plant anabl yn cael eu heithrio o'r polisi ond mae llawer o blant yn aros blynyddoedd i gael diagnosis o gyflyrau niwroamrywiol. Mae hwnna'n broses gymhleth ac mae cael diagnosis gan pediatrydd yn gallu cymryd pedair i bum mlynedd. Rhain yw'r plant fydd yn dioddef fwyaf gan y cynllun yma ac mae'r teuluoedd yma mewn sefyllfa enbyd fel mae hi.
"Sut mae rhywun yn penderfynu os oes gan blentyn anabledd neu beidio? Mae'n astrus. Dylid trin pob plentyn, anabledd neu beidio, gyda r'un caredigrwydd a pharch. Mae'n fater o les plentyn ac mae cyfrifoldeb ar yr ysgol dros les plant yn ogystal â'u haddysg. Fe alla i ddeall pam y byddai rhiant yn anfon plentyn sydd bron yn barod i ddefnyddio'r tŷ bach yn annibynnol i'r ysgol mewn clwt os nad ydyn nhw'n teimlo y bydd damweiniau yn cael eu sortio yn brydlon a chydag urddas.
"Dydw i ddim yn meddwl y byddai r'un rhiant yn dewis cael plentyn nad yw'n defnyddio'r tŷ bach yn annibynnol. Mae'n drafferthus, anghyfleus, ac yn ddrud. Dydw i chwaith ddim yn meddwl y byddai unrhyw blentyn yn dewis gwisgo clwt yn lle defnyddio'r tŷ bach, fel eu cyfoedion.
"Mae llawer o agweddau o fywydau plant wedi cael eu heffeithio'n negyddol gan Covid. Cefnogaeth sydd ei angen ar deuluoedd nawr, nid beirniadaeth a pholisïau didostur fel hyn. Mae cefnogaeth ar gael, ond mae angen iddo fod ar gael yn haws ac yn gyflymach.
Gorbryder
"Mae pawb yn gwybod bod lefelau gorbryder llawer o blant wedi codi yn ystod Covid, a'u lles cyffredinol a'u haddysg wedi dioddef ac felly dyw hi ddim yn syndod fod ysgolion yn gorfod delio gyda chanlyniadau hynny nawr. Mae'n drist ac yn heriol ond dyna'r realiti.
"Mae eistedd mewn clwt sydd angen cael ei newid am amser hirach na sydd rhaid yn anghyfforddus i'r plentyn ac yn gallu achosi niwed corfforol ac embaras. Mae gorbryder yn ffactor mawr sy'n gallu effeithio plant wrth iddyn nhw ddysgu i ddefnyddio'r toiled ac mae aros i gael eu newid neu ffws diangen ynghylch y mater yn gwaethygu hyn. Maen nhw hefyd allan o'r stafell ddosbarth am hirach na sydd rhaid os yn aros am riant.
"Pum munud ar y mwyaf mae'n gymryd i newid clwt. Mae'n cymryd llawer mwy na hynny i riant deithio i'r ysgol a gwneud.
Gadael gwaith
"Dydy rhieni ddim yn gallu gadael eu gwaith sawl gwaith y dydd i wneud hyn. Mae'n anghyfleus ar y gorau ac yn beryglus ar y gwaethaf. Ydy hi'n rhesymol bod llawfeddyg yn gadael llawdriniaeth ar ei hanner i fynd i newid clwt ei blentyn? Gyrrwr bws yn stopio ar ganol ei daith i fynd i wneud hyn? Athro neu athrawes yn gadael 30 o blant i newid eu plentyn eu hunan mewn ysgol arall?
"Dyw e ddim yn deg ar gyflogwyr nac ar y gweithwyr eraill fyddai'n gorfod camu i'r adwy. Y canlyniad, heb os, fyddai llai o rieni i blant anabl, sydd â chyfraniad mawr i'w wneud, yn gweithio.
"Hoffwn ofyn i unrhyw un sydd o blaid y polisi i ofyn iddyn nhw eu hunain a fydden nhw'n dymuno aros mewn clwt budur am amser hirach na sydd raid neu adael eu gweithle sawl gwaith y dydd i newid clwt eu plentyn. Fe fydd 'na rieni sydd â mwy nag un plentyn oed ysgol angen eu newid. Sut maen nhw fod dod i ben?
"Mae rhai rhieni yn byw'n bell o'r ysgol neu heb fod â thrafnidiaeth hwylus i gyrraedd safle'r ysgol yn sydyn. Mae na gost i'r rhan fwyaf o'r siwrneiau hyn. Bydd yn effeithio ar rieni sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, pobl na all gerdded, neu bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn waeth, a'u plant nhw fydd yn aros hiraf am eu rhieni ddod i'w newid.
"Mae'r polisi yn ei hanfod yn gwahaniaethu yn erbyn plant sydd ag anableddau anweladwy. Fyddech chi ddim yn gofyn i riant i ddod i'r ysgol bob tro mae plentyn sy'n defnyddio cadair olwyn angen cael ei wthio o le i le, felly pam fod hyn yn wahanol?
"Does neb yn mwynhau newid clytiau ond mae'n jobyn sydd angen ei gwneud. Dydw i ddim yn meddwl, o anghenraid, y dylai athrawon wneud, ond mae angen staff cynorthwyol mewn lle. Os yw plentyn yn cael anhawster i ddefnyddio'r tŷ bach, maen debygol y bydden nhw'n elwa o gael cymorth ychwanegol mewn sawl agwedd arall o'r diwrnod ysgol.
"Dyw'r polisi ddim yn helpu perthynas yr ysgol a'r rhieni. Mae'r berthynas yma yn holl bwysig, yn enwedig yn achos plant sydd angen help ychwanegol."
Cyd-destun
Mae ffigyrau diweddar gan elusen Kindred yn awgrymu bod un o bob pedwar plentyn ddim yn gallu defnyddio'r tŷ bach yn annibynnol pan maen nhw'n dechrau'r ysgol, a hynny'n arwain at golli tua traean o'u hamser dysgu.
Meddai Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol NAHT Cymru: "Dyw hyn ddim am blant meithrin a derbyn yn unig – mae'n haelodau yn dweud wrthym ni bod plant hyd at saith neu wyth oed, sydd heb anghenion dysgu ychwanegol na chyflyrau meddygol, yn cael trafferthion mynd i'r tŷ bach."
Ychwanegodd Ms Doel ei bod hi'n "argyfwng" mewn rhai ysgolion, a bod yr amser mae'n ei gymryd i newid cewynnau plant yn "tarfu'n fawr" ar staff.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod eu ffocws ar ddysgu... ac felly maen nhw'n gofyn am gefnogaeth gan deuluoedd ac asiantaethau eraill i ddod a chefnogi'r plant penodol yna," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n ormod i ofyn."
Fe ofynnodd Cymru Fyw i Gyngor Blaenau Gwent am bryder Gwennan Evans y gallai'r polisi newydd wahaniaethu yn erbyn plant gydag anableddau anweladwy.
Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Byddwn yn parhau i weithio gyda theuluoedd, mewn cydweithrediad â chydweithwyr gofal iechyd a sefydliadau perthnasol, yn unigol, i sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi ar waith."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Medi 2024