Disgyblion yn 'colli'r hyder i ddarllen a chyfathrebu yn Gymraeg'

Llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl ysgol uwchradd wedi cau eu llyfrgelloedd oherwydd diffyg cyllid, yn ôl Estyn

  • Cyhoeddwyd

Mae effaith negyddol y pandemig ar safonau darllen Cymraeg plant i'w weld yn glir o hyd, gyda rhai plant wedi colli'r hyder i ddarllen a chyfathrebu yn yr iaith, yn ôl arolygwyr ysgolion.

Dywedodd Estyn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu cyfleoedd i awduron siarad gyda disgyblion am y math o lyfrau Cymraeg y maen nhw am eu darllen.

Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth bod rhai ysgolion uwchradd wedi cau eu llyfrgelloedd oherwydd diffyg cyllid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ymchwil yn "taflu mwy o oleuni ar yr heriau rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n wynebu yng Nghymru".

Daw'r adroddiad ar ôl i ddata profion cenedlaethol ddangos bod safonau darllen Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol dros gyfnod y pandemig.

Mae'r ddogfen, sy'n canolbwyntio ar sgiliau darllen plant 10 i 14 oed, yn nodi bod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau darllen ar draws y cwricwlwm "yn wan", yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.

Dywedodd fod y profiadau i hybu darllen y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth wedi "lleihau yn sylweddol" ers cyfnod y pandemig.

Er bod llawer o ysgolion yn trefnu ymweliadau i Ŵyl y Gelli, er enghraifft, neu’n gwahodd awduron i’r ysgol i ddarllen a thrafod nofelau "oherwydd cyfyngiadau yn y gyllideb, mae’r profiadau yma wedi lleihau a phrin yw’r gweithdai sy’n cael eu cynnal a’r awduron sy’n ymweld ag ysgolion ers y pandemig".

Prinder lle, deunyddiau a staff addas

Mae arolygwyr yn dweud bod nifer o ysgolion uwchradd wedi gorfod addasu eu llyfrgelloedd i fod yn ystafelloedd dosbarth oherwydd prinder lle.

Roedd eraill wedi cau eu llyfrgell oherwydd diffyg cyllid i allu prynu a diweddaru deunyddiau ac ariannu staff addas i ofalu amdanynt.

Fe wnaeth Estyn holi barn dros 2,000 o ddisgyblion mewn arolwg. Dywedodd ychydig dros hanner nad oedden nhw'n mwynhau darllen llyfrau Cymraeg.

Roedd yr ymateb yn amrywio yn dibynnu ar oedran y plant a mwyafrif y disgyblion blwyddyn 6 - blwyddyn olaf ysgol gynradd - yn fwy cadarnhaol am ddarllen Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn argymell creu cyfleoedd i awduron Cymraeg ddod i siarad â disgyblion

Dywedodd Estyn fod yr un patrwm i'w weld mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gyda mwynhad disgyblion wrth ddarllen yn gostwng yn ystod eu hamser yn yr ysgol uwchradd.

Ond roedd unedau trochi a chanolfannau iaith yn gwneud gwaith effeithiol wrth gefnogi disgyblion oedd yn trosglwyddo o'r cyfrwng sector Saesneg, meddai'r adroddiad.

Angen mwy o lyfrau Cymraeg ffeithiol

Roedd yr argymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys creu cyfleoedd i awduron Cymraeg ymgysylltu ag ysgolion a siarad â disgyblion am y math o lyfrau yr hoffen nhw ddarllen.

Ac mae angen cynyddu'r adnoddau darllen cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gan gynnwys llyfrau ffeithiol, yn ôl Estyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn adlewyrchu eu disgwyliadau bod dysgwyr yn "datblygu safonau darllen a llythrennedd uchel tra yn yr ysgol".

Yn ôl llefarydd, mae llythrennedd yn flaenoriaeth ac yng nghalon y Cwricwlwm i Gymru.

Ychwanegodd fod yr ysgrifennydd cabinet wedi cyflwyno cynlluniau i ddatblygu cymorth dwys ar gyfer llythrennedd a bod yna nifer o brosiectau i hybu hyder disgyblion wrth ddefnyddio'r iaith.

Dangosodd canlyniadau profion llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion saith i 14 oed yn 2022/23 bod cyrhaeddiad disgyblion wrth ddarllen Cymraeg tua blwyddyn tu ôl i'r hyn yr oedd yn 2020/21 a'r bwlch yn fwy i'r plant hynaf.