Gwerthu safle pentref gwyliau dadleuol ar Ynys Môn

Arwydd ym Mharc Arfordirol Penrhos, Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd caniatâd cynllunio yn 2016 i adeiladu 500 o fythynnod gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos

  • Cyhoeddwyd

Mae safle datblygiad pentref gwyliau dadleuol ar Ynys Môn wedi ei werthu i gwmni rheoli asedau.

Yn 2016 fe sicrhawyd caniatâd cynllunio ar gyfer bron i 500 o gabanau gwyliau ym Mharc Arfordirol Penrhos a thir cyfagos ar gyrion Caergybi.

Ond er nad oes gwaith sylweddol wedi cychwyn eto, ddydd Llun daeth cyhoeddiad fod cwmni Land and Lakes wedi gwerthu'r safle 200 acer i The Seventy Ninth Group.

Maen nhw wedi rhoi addewid y byddai'r datblygiad yn creu cannoedd o swyddi, ond mae rhai ymgyrchwyr lleol yn parhau i wrthwynebu'r cynllun ac yn ofni y bydden nhw'n colli mynediad i'r parc, sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

Ond ym mis Hydref fe gollodd yr ymgyrchwyr her gyfreithiol, oedd yn honni nad oedd y caniatâd cynllunio bellach yn ddilys oherwydd nad oedd digon o waith wedi ei wneud ar y safle.

Gyda'r llys wedi dod i'r casgliad fod y caniatâd amlinellol bellach yn ei le am byth, nod y datblygwyr newydd yw croesawu "miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn".

Gobaith y cwmni yw adeiladu'r cabanau cyntaf erbyn haf 2025, gyda'r disgwyl y bydd y safle hefyd yn cynnwys bwyty a chyfleusterau hamdden, pwll nofio, sba, campfa a chaeau chwaraeon fydd hefyd ar gael i bobl leol.

"Byddwn yn sicrhau bod y cynllun yn bodloni disgwyliadau uchel y gymuned leol - gan wneud y mwyaf o gyflogaeth leol, creu cyfleoedd cyflenwi a chyflawni datblygiad sensitif, tra'n diogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg," ychwanegodd The Seventy Ninth Group, sydd hefyd wedi addo buddsoddi £1m mewn cynlluniau lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad fod cwmni Land and Lakes wedi gwerthu'r safle 200 acer i The Seventy Ninth Group

Ond parhau i frwydro'n erbyn y cynlluniau mae grŵp Achub Penrhos.

Dywedodd Hilary Paterson-Jones o'r grŵp ei bod wedi ei "synnu ychydig" fod y safle wedi ei brynu tra bod y grŵp yn dal i ystyried eu hopsiynau ar gyfer apêl.

"Os ydyn nhw'n meddwl bod yr ymgyrch yn mynd i stopio yna maen nhw'n anghywir," meddai wrth BBC Cymru.

"'Da ni'n benderfynol o wneud beth allwn ni i atal hwn rhag mynd yn ei flaen.

"'Da ni'n gryfach nag erioed ac yn dal i aros ar y llysoedd i ystyried unrhyw apêl.

"Mae arian yn dal i ddod i fewn a 'da ni'n sefyll yn gryf na ddylai Penrhos gael ei droi'n unrhyw bentref hamdden, mae hwn yn perthyn i bobl leol i barhau i'w fwynhau."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwrthwynebwyr y cynlluniau eu siomi gan ddyfarniad yr adolygiad barnwrol ym mis Hydref

Mae'r ddadl ynghylch datblygu Penrhos wedi rhygnu ymlaen ers bron i 15 mlynedd, ar ôl ei drafod gan gynghorwyr sir Môn yn 2013.

Yn Nhachwedd 2013 – ddyddiau yn dilyn ralïau yng Nghaergybi o blaid ac yn erbyn y datblygiad fe wnaeth pwyllgor cynllunio'r awdurdod gymeradwyo'r cais.

Roedd hyn fis wedi i'r un pwyllgor wrthod y cynlluniau'n wreiddiol.

Ar y pryd roedd Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cynlluniau, gan ddweud byddai'r datblygiad yn denu twristiaeth i'r gogledd-orllewin.

Fel rhan o'r cais cynllunio gwreiddiol roedd Land and Lakes wedi honni y byddai hyd at £30m yn cael ei fuddsoddi yn yr economi leol.

Sefyllfa 'sensitif'

Yn ymateb i werthiant y safle dywedodd Jake Webster, Rheolwr Gyfarwyddwr The Seventy Ninth Group: "Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r safle i fod yn gyrchfan gwyliau o safon fyd-eang ar y cyd â'r gymuned leol, tra'n sicrhau ein bod yn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Ein nod yw rhoi cyfle i deuluoedd o'r DU ac ymwelwyr o bob rhan o'r byd brofi'r hyn sydd gan yr ardal wych hon i'w gynnig."

Fe ddisgrifiwyd y safle gan Brif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan Williams, fel un "sensitif".

"Er bod manteision economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol sylweddol, bydd cydbwyso'r buddsoddiad â sensitifrwydd amgylcheddol yn bwysig."

Pynciau cysylltiedig