Aelod o Senedd Cymru wedi gadael y Ceidwadwyr am Reform

Nigel Farage a Laura Anne Jones Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Farage a Laura Anne Jones yn cyhoeddi ei bod hi wedi gadael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod o Senedd Cymru, Laura Anne Jones wedi gadael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform.

Cafodd hyn ei gyhoeddi gan Nigel Farage yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddydd Mawrth.

Ms Jones yw aelod cyntaf Reform UK yn Senedd Cymru.

Dywedodd hi mewn cynhadledd i'r wasg, ar ôl 31 mlynedd o fod yn aelod o'r Ceidwadwyr ei bod hi prin yn adnabod y blaid erbyn hyn.

Dywedodd fod Nigel Farage yn "ddyn gwych" a bod Reform UK yn gallu "mynd â Chymru ymlaen i le gwych".

Bu'n Aelod o'r Senedd ers Gorffennaf 2020, ac yn ddiweddar bu'n llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, tai a'r lluoedd arfog.

Cyn hynny bu'n Aelod Cynulliad rhwng 2003 a 2007.

'Siomedig iawn'

Mae ei hymddiswyddiad yn golygu bod y Ceidwadwyr i lawr i 14 o wleidyddion yn Senedd Cymru.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar:

"Wrth gwrs, rwy'n siomedig gyda phenderfyniad Laura a bydd aelodau'r blaid Geidwadol a phleidleiswyr yn ne-ddwyrain Cymru yn teimlo'n siomedig iawn gan ei chyhoeddiad.

"Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn caniatáu i hyn ein tynnu oddi wrth ein cenhadaeth genedlaethol i gael gwared ar Lafur a thrwsio Cymru.

"Yn y cyfamser, dymunwn y gorau i Laura yn ei phlaid newydd sydd am weld trethi uchel a gwariant uchel."

(chwith i'r dde) Nigel Farage, David Jones, Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Datgelodd Nigel Farage ymddiswyddiad Laura Anne Jones gyda chyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones (canol) ddydd Mawrth

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae Laura Anne Jones wedi gweld yr arolygon barn ac, mewn ymgais daer i gadw ei sedd yn y Senedd, mae hi'n gadael llong y Torïaid sy'n suddo.

"Mae hi'n honni ei bod hi bellach yn rhan o'r ateb nid y broblem. Nid oes gan Reform gynllun ar gyfer Cymru, dim ond Llafur Cymru sy'n gwrando ac yn cyflawni dros bobl Cymru."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod Laura Anne Jones yn "gwybod bod yr ysgrifen ar y wal ar gyfer rhagolygon" y Ceidwadwyr yn etholiad Senedd Cymru fis Mai nesaf.

"Nid yw ein senedd genedlaethol yn fan chwarae i'r rhai sydd eisiau rhoi Cymru ar lwybr o lanast," ychwanegodd.

"Dim ond llywodraeth Plaid Cymru fydd yn adeiladu cenedl deg, uchelgeisiol a llewyrchus."

Yn ôl llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae dyddiau'r Ceidwadwyr fel grym gwleidyddol yng Nghymru ar ben.

"Nid oes gan Reform unrhyw atebion i Gymru, dim ond mwy o sŵn a rhaniadau."

Roedd Ms Jones wedi cael ei hail-ddewis ar gyfer sedd newydd Sir Fynwy Torfaen yn y Senedd, ond roedd hi'n wynebu cystadleuaeth gyda Peter Fox am y safle uchaf ar restr y blaid yno.

Gwadodd ei bod wedi ymuno â Reform oherwydd ei bod hi'n poeni am beidio â chael ei hail-ethol.

"Roedd gen i gyfle teg o gael fy ethol," meddai mewn cynhadledd newyddion.

Mae arolygon barn diweddar wedi awgrymu bod gan Reform gyfle i fod y blaid fwyaf yn y Senedd wedi'r etholiad ym mis Mai.

Dywedodd Mr Farage fod Ms Jones yn dod â "phrofiad, mae hi'n gwybod sut mae'r lle'n gweithio, ac mae hynny'n bwysig iawn i ni".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.