'Diolch i Dai Jones am yr ysbrydoliaeth'

Meinir Howells a Dai JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Meinir Howells a'r diweddar Dai Jones

  • Cyhoeddwyd

I ferch fferm oedd yn hoff o sgwrsio a’i bryd ar fod yn gyflwynydd, does ryfedd mai Dai Jones Llanilar oedd ysbrydoliaeth Meinir Howells pan oedd hi'n iau.

Er ei bod hi’n wyneb cyfarwydd i wylwyr Ffermio a rhaglen Y Sioe erbyn hyn, doedd camu o fyd amaeth i fynd o flaen y camerâu ddim yn daith syml i’r ferch o gefn gwlad Caerfyrddin.

Ond fel eglurodd ar raglen Beti a’i Phobol roedd ganddi freuddwyd, a’r amaethwr a chyflwynydd o Lanilar wnaeth blannu’r hadyn gyntaf a’i hysbrydolodd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Meinir Howells

Meddai Meinir: “Fi’n cofio bod yn groten ifanc yn gwylio Cefn Gwlad a rhaglenni o’r Sioe Frenhinol a jest meddwl ‘waw dwlen i gael job fel fe’ (Dai Jones) - yn mynd rownd o amgylch Cymru yn busnesan ar ffermydd pobl eraill a gweld sut oedd pobl yn ffermio. Wel roedd e yn dream job yn doedd i rywun oedd yn joio ffarmo shwt gymaint.

“Beth oedd yn fy mhen i oedd byddwn i yn dwli cyflwyno, gwneud beth oedd Dai Jones yn 'neud, ond byth yn meddwl bod e’n bosib.

“Ro’n i’n byw yng nghanol nunlle yng nghanol y wlad, oedd dim cysylltiadau uniongyrchol ‘da fi yn y byd teledu, dim perthynas gyda fi oedd yn gweithio yn y cyfryngau, o'n i ddim yn nabod lawer oedd yn gweithio yn y diwydiant.

“O’n i wastad yn meddwl o’n i’n byw yn y lle anghywir - bod popeth yn digwydd yng Nghaerdydd ac wedi hanner jest gweud ‘dyne fe, bydd y freuddwyd byth yn cael ei wireddu, wnâi fynd i ffermio’.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meinir wedi bod yn cyflwyno ers dros 10 mlynedd bellach

Fe gafodd Meinir ei magu ar fferm Maes Teilo yng Nghaerfyrddin, ac roedd yn aelod brwd o’r Ffermwyr Ifanc am flynyddoedd.

Er iddi gael profiad gwaith gyda chwmni teledu Telesgop tra’n ddisgybl yn Ysgol Tregib, Llandeilo, doedd hi ddim yn credu bod dyfodol iddi yn y cyfryngau.

Penderfynodd fynd i astudio amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth tan iddi newid ei meddwl ychydig ddyddiau cyn mynd, a hynny ar ôl iddi gael sgwrs efo’i deintydd. Ei gyngor iddi oedd gwneud y mwya’ o’i hamser yn y coleg a chael profiad mewn maes gwahanol i’r diwydiant roedd hi mor gyfarwydd ag o – ac felly newidiodd ei meddwl ac astudio Cymraeg, Ffilm a Theledu.

Tra’n fyfyriwr fe gafodd waith yn y byd teledu fel rhedwr yn ystod y Sioe Frenhinol, a gyda’i chyfnod yn y coleg ar fin dod i ben fe gafodd gynnig swydd gyda chwmni Telesgop fel ymchwilydd - a’i derbyn.

Fe gafodd y cyfle i gyflwyno am y tro cyntaf o gwmpas 2012 ac erbyn heddiw mae hi’n wyneb cyfarwydd ar Ffermio ac yn darlledu o’r Sioe Fawr. Y llynedd bu’n cyflwyno yn Saesneg am y tro cyntaf ar raglen BBC Food Fest Wales ac ar hyn o bryd mae hi a’i theulu yng nghanol ffilmio trydedd gyfres Teulu Shadog, rhaglenni ‘pry ar y wal’ o’u bywyd ar eu fferm yn Llanwenog, Ceredigion.

Mae Meinir erbyn hyn felly yn rhannu ei hamser rhwng gweithio ar y fferm a gweithio yn y byd teledu – yn union fel oedd Dai Jones yn ei wneud.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Dai Jones gydag Osian, mab Meinir

Ac mae hi’n diolch i’r cyflwynydd unigryw nid yn unig am ei hysbrydoli i ddilyn trywydd tebyg ond am ei angerdd tuag at amaeth.

Meddai: “Roedd e’n llysgennad heb ei ail i’r diwydiant amaethyddol,” meddai. “Ble bynnag ewch chi roeddech chi’n cael y cwestiwn ‘oh, do you know Dai Jones?’ - roedd pawb yn holi am Dai Jones a ni wedi bod yn ffodus iawn i gael e yng Nghymru.

“Mae e wedi gwneud gymaint o waith arbennig dros y diwydiant, yr iaith a’r diwylliant fan hyn yng Nghymru.”

A does yna ddim syndod felly beth ydi un o’i dewisiadau cerddoriaeth ar Beti a’i Phobol - llais tenor Dai Jones.

Pynciau cysylltiedig