Twf y plygain yn 'galonogol' - a'r canu wedi cyrraedd Awstralia
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau plygain mor boblogaidd ag erioed - ac ym mis Ionawr bydd plygain yn cael ei chynnal ym Melbourne yn Awstralia.
Cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i ganu hen ganeuon traddodiadol y Nadolig yw'r plygain. Mae'n draddodiad sydd yn mynd yn ôl ganrifoedd.
Yn ôl Arfon Gwilym, sydd wedi casglu a chyhoeddi degau o garolau plygain gyda'i wraig Sioned Webb, mae "twf yn y diddordeb yn galonogol yn enwedig mewn dyddiau lle mae eglwysi yn cau a phobl yn cefnu ar grefydd".
Ond mae Mr Gwilym yn rhybuddio ei bod hi'n bwysig peidio cefnu ar y traddodiadau gwreiddiol.
'Dim angen eu newid nhw'
"Mae'r cyfan yn ddigyfeiliant, does dim offerynnau fel gitâr ac mae 'na gopi - yn aml mae'r copi yn felyn gan ei fod wedi bod yn y teulu ers blynyddoedd," meddai.
"Mae'r ffaith fod unrhyw un ar draws y byd yn cael cymryd rhan yn ofnadwy o bwysig ac felly mae'n rhaid paratoi sawl carol gan yn draddodiadol does neb yn canu carol y mae rhywun arall eisoes wedi ei chanu.
"Dwi'n teimlo'n gryf iawn y dyddiau yma yn arbennig fel mae'r syniad o gynnal gwasanaethau plygain yn dod yn fwy a fwy poblogaidd ei bod hi'n bwysig i unrhyw un sy'n cychwyn gwasanaeth o'r newydd astudio a gwrando ar yr hen blygeiniau.
"Does dim angen eu newid nhw," ychwanegodd Arfon Gwilym wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
Ar un adeg roedd y traddodiad o ganu plygain yn perthyn i bob rhan o Gymru - ond diflannodd yr arferiad o'r rhan fwyaf o ardaloedd.
Mae rhywun yn cysylltu'r arfer yn bennaf â Sir Drefaldwyn lle mae'r arferiad o ganu carolau plygain wedi para yn ddi-dor ers cenedlaethau.
Bellach mae mwy o wasanaethau plygain yn cael eu cynnal ar draws Cymru.
Ar nos Sul, 12 Ionawr mae gwasanaethau plygain yn cael eu cynnal yng nghapeli Cymraeg y Boro yn Llundain ac ym Melbourne, Awstralia.
"Mae yna rywbeth arbennig am y carolau plygain. Dydyn nhw ddim yn orglyfar, ddim yn orsoffistigedig," medd y telynor Robin Huw Bowen.
"Mae'r sain ro'n i'n ei glywed ers talwm yn Llanerfyl dal efo fi yn fy mhen pan dwi'n canu.
"Dwi'n cytuno bod yn rhaid cadw golwg ar yr hyn oedd y blygain yn wreiddiol.
"Mae addasu yn digwydd mewn unrhyw draddodiad ond pan mae unrhyw draddodiad yn gwneud hynna'n unig maen nhw'n colli'r plot.
"Maen nhw'n colli golwg ar be sy'n gwneud y traddodiad yn draddodiad."
'Rhaid glynu at y traddodiadol'
Wrth gofnodi'r carolau cyn eu cyhoeddi mewn llyfrau, dywed Sioned Webb bod gwrando ar yr archif a oedd yn bodoli yn hynod o bwysig "er mwyn trosglwyddo'r gwreiddiol yn iawn".
"Fel ffeminist dwi'n cofio gofyn unwaith i ffrind i mi mewn plygain a oedd hi dal yn iawn tybed mai dynion yn unig sy'n canu Carol y Swper - sef y garol sy'n cau'r plygain.
"Wrth ateb dywedodd bod DNA ei thad a'i thaid yn waliau'r eglwys ac na allai hi feddwl am sain arall i Garol y Swper.
"Ydy mae'n dda bod mwy o fri ar y plygeiniau ond rhaid glynu at y traddodiadol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2019