Ymgeisio am swyddi ag AI yn creu 'risg penodi pobl anaddas'

- Cyhoeddwyd
Gallai'r defnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn ceisiadau am swyddi arwain at recriwtio staff sy'n methu gwneud y gwaith, yn ôl perchennog busnes o Gaerdydd.
Dywedodd James Robinson, pennaeth asiantaeth hysbysebu, ei fod yn gweld cynnydd yn yr ymgeiswyr sy'n defnyddio ymadroddion cyffredin ac iaith Americanaidd a gafodd eu copïo'n syth o chatbots sy'n cynhyrchu deunydd AI.
Rhybuddiodd Mr Robinson y gallai ymgeiswyr oedd yn dda gydag AI "saernïo'r broses recriwtio gyfan" heb fod yn "gymwys i wneud y swydd".
Dywedodd cynghorwyr gyrfaoedd fod AI yn arf i'w ddefnyddio "mewn ffordd priodol".
Gwyliwch: Technoleg AI o China yn cyfansoddi cerdd yn y Gymraeg
Mae James Robinson yn rhedeg yr asiantaeth hysbysebu Hello Starling yng Nghaerdydd, a dywedodd fod swyddi gwag yn y busnes yn denu ceisiadau a oedd yn llawn brawddegau a gafodd eu cynhyrchu gan AI.
"Mae yna rai brawddegau cyffredin rydyn ni'n eu gweld.
"Maen nhw'n aml yn dweud pethau fel 'mae fy sgiliau yn cyd-fynd ag amcanion a nodau eich sefydliad'."

Rhybuddiodd James Robinson y gallai AI alluogi i ymgeiswyr "beiriannu'r broses recriwtio gyfan"
Dywedodd fod rhaglen ChatGPT wedi cadarnhau bod ymadroddion fel hyn yn debygol o gael eu cynhyrchu gan AI ar gyfer llythyr i geisio am swydd.
"Felly, ie, [mae'n] anodd iawn i mi geisio gweithio allan pwy sy'n go iawn, o gymharu â pha rai sy'n robotiaid."
Dywedodd Mr Robinson fod gwell defnydd o AI hefyd yn helpu ymgeiswyr i fod yn fwy cryno yn eu ceisiadau, ac y byddai defnydd "priodol" yn helpu'r busnes.
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mae myfyrwyr ac arweinwyr yn dod i'r afael â deallusrwydd artiffisial yn eu hastudiaethau, ac wrth ddechrau ymgeisio am swyddi.
"Da ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn defnyddio AI mewn rhyw ffurf," meddai Dr Steve Westlake, sy'n ymgynghorydd gyrfaoedd.
"Da ni yn gwybod pa mor bwysig yw e i ddefnyddio AI mewn ffordd priodol."

Mae'r "rhan fwyaf o fyfyrwyr" yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn barod, meddai Dr Steve Westlake
Tra bod gan y brifysgol ganllawiau ar ddefnyddio AI, mae'r tîm gyrfaoedd yn gweithio'n galed i ddeall rôl deallusrwydd artiffisial ym meysydd gwahanol o'r byd gwaith ac yn y broses recriwtio.
"Mae lot o fyfyrwyr yn gwybod pa mor bwysig yw AI yn byd gwaith. Dydyn nhw ddim eisiau teimlo bod nhw wedi colli mas, felly mae'n bwysig i nhw deimlo bod nhw'n gwybod sut mae AI yn cael ei defnyddio mewn pob sector o'r byd gwaith," meddai Dr Westlake.
Mae'n bwysig i fyfyrwyr deall "sut gallan nhw defnyddio offer fel ChatGPT mewn ffordd priodol i 'neud yn siŵr bod ceisiadau nhw mor gryf a phosib," meddai.
'Y da, y drwg a'r diog'
Efallai bod cyflymder y twf yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn creu heriau newydd, ond dydy hynny ddim yn esgus, yn ôl Owen Williams.
Fel arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol ac un sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial, dywedodd bod "dim esgus dros ddefnydd gwael" o'r dechnoleg wrth geisio am swyddi.

Mae angen gwahaniaethu rhwng "y da, y drwg a'r diog" yn eu defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, meddai Owen Williams
"Dwi'n ei alw fe y da, y drwg a'r diog," meddai Mr Williams.
"Diogi yw peidio dod i ddeall beth ydy'r system hynod bwerus sy' gyda ti.
"Y drwg ydy peidio medru gweld a chwistrellu dy hunaniaeth mewn i'r peth.
"Y da yw deall sut mae'r teclynnau yn gweithio a defnyddio nhw mewn ffordd effeithlon."
Tra bod y rhai sy'n trio am swyddi yn troi at AI, mae cyflogwyr hefyd yn defnyddio'r dechnoleg i chwilio am y rhai diog, yn ôl Owen Williams.
"Maen nhw'n gallu defnyddio AI yn o gystal i chwilio am y cliches nodedig mae AI yn gwneud. Chi ddim yn saff... Mae pobl yn gallu gweld nage ti greodd y peth hwn."
'Mae'n creu gymaint o syniadau'
Nôl ar gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd mae'r myfyrwyr ifanc yn ymddangos yn hapus iawn i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ac yn ymwybodol o'r pryderon.
"Dwi'n meddwl bod e'n ddefnyddiol tu hwnt," meddai Sam Kerslake, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio cyfrifiadureg.

I fyfyrwyr fel Sam Kerslake mae AI yn "ddefnyddiol tu hwnt"
"Pan ti eisiau syniadau, mae'n cario ymlaen i fynd – mae'n creu gymaint o syniadau a ti eisiau. Pan byddai person wedi stopio, mae'r [AI] yn cario ymlaen i fynd."
Cyflymder a chywirdeb ydy prif atyniadau'r dechnoleg newydd, yn ôl Sam.
"Mae'n gwneud pethau gymaint yn gyflymach, ac yn achub cymaint o amser i fi yn bersonol. A dwi'n gwybod bod e'n gwneud hynny i fy ffrindiau i hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023