Cau Llancaiach Fawr yn 'golled fawr' i'r gymuned Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd cau maenordy Llancaiach Fawr yn "golled fawr" i gymuned Gymraeg yr ardal, yn ôl Menter Iaith Caerffili.
Mae'r cyngor wedi penderfynu y bydd y plasty'n cau yn ddiweddarach eleni, sy’n golygu y bydd 20 o staff cyflogedig a 18 o staff gwirfoddol yn colli eu swyddi.
Daw hyn wedi i Gyngor Caerffili gynnal ymgynghoriad ar gau Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon a maenordy Llancaiach Fawr ger Nelson, yn ogystal â thorri'r gwasanaeth Prydau Prydlon.
Mae'n rhaid i'r cyngor arbed £45m dros y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili, Sean Morgan, mai'r bwriad ydy lleihau'r defnydd o'r adeilad ond ei gadw mewn cyflwr da, cyn bod modd gwneud trefniadau newydd.
Bydd y broses yma’n cymryd hyd at saith mis, ac mae’r cyngor wedi neilltuo £53,000 ar gyfer cynnal a chadw'r adeilad.
- Cyhoeddwyd26 Awst
- Cyhoeddwyd7 Medi
Mae Llancaiach Fawr yn dyddio o'r 16eg ganrif, ac yn denu rhyw 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Roedd yn gartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2015.
Yn ôl Cyngor Caerffili byddai cau'r safle ar ddiwedd 2024 yn arbed £485,000 y flwyddyn.
Ond mae’r penderfyniad wedi’i feirniadu gan bobl leol.
'Dibynnu ar y safle'
Dywedodd Tracy Reeves, rheolwr Gwasanaeth Plant Caerffili bod y safle'n cael ei ddefnyddio'n aml gan y fenter iaith.
"Ry'n ni'n anfon plant yna fel rhan o'n gofal ni - ysgolion yn mynd gan amlaf dechre Rhagfyr," meddai.
"Dyna lle mae prif ddigwyddiadau'r fenter hefyd fel ein Ffair Aeaf. Mae'n dod â’r gymuned leol at ei gilydd.
"Ry'n ni'n dibynnu ar y safle. Does dim unman arall i ni, mae'n leoliad ry'n ni mynd i weld eisiau.
"I’r gymuned, ma' pawb yn y sir yn eitha' falch bod hwnna gyda ni felly mae wir mynd i fwrw’r gymuned.
"Ac yn amlwg o ran y Gymraeg, mae’n golled fawr."
Mae pobl sy'n cefnogi'r maenordy wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus ar y safle ar gyfer dydd Sadwrn, 5 Hydref i drafod ffyrdd o herio'r cynllun i gau’r adeilad.
Mae'r undeb llafur Unsain yn gwrthwynebu'r cynllun ac yn dweud y bydd yn "ddiwedd cyfnod".
Dywedodd Lianee Dallimore, ysgrifennydd cangen Unsain Caerffili bod yn rhaid “gwneud popeth posib” i gadw Llancaiach Fawr ar agor.
Mae ymgyrchwyr yn dadlau na ddylai’r penderfyniad fod yn ymwneud ag arian yn unig, ac y dylid diogelu'r atyniad diwylliannol i dwristiaid a phlant ysgol.
"Nid yn unig y mae'r amgueddfa'n ganolfan ddiwylliannol ac addysgol hanfodol i'r gymuned, mae hefyd yn cyflogi pobl," meddai Ms Dallimore.
"Mae'r cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i ddangos cryfder y teimladau a herio'r cyngor i wneud popeth posibl i achub yr adeilad hanesyddol hwn."
'Cyn lleied o werth ar ein treftadaeth'
Mewn datganiad ar wefan gymdeithasol X, dywedodd Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru yn y Senedd fod y penderfyniad i gau’r adeilad yn “siom”.
“Os bydd yr adeilad hwn yn cau ei ddrysau, ry’n ni'n mynd i golli cysylltiad gyda gorffennol ein hardal," meddai.
“Ni fydd cyfleoedd i blant ddysgu am y bennod hon yn ein hanes.
“Dydw i ddim yn deall sut mae cyn lleied o werth yn cael ei roi ar ein treftadaeth, a'r pethau yr ydym yn eu trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.
“Rwy’n teimlo'n hollol ddigalon – mae’n rhaid brwydro i'w achub."
Angen 'ail-ddehongli'r adeilad'
Yn ôl yr hanesydd Elin Jones mae penderfyniad y cyngor i gau’r maenordy ond parhau i ariannu Sefydliad y Glowyr yn un “diddorol”.
Dywedodd bod cefnogaeth y gymuned i Sefydliad y Glowyr yn rhan fawr o’r penderfyniad hwnnw.
Ychwanegodd: “Mae Llancaiach yn adeilad agorwyd pan oedd arian yn llifo trwy’r awdurdodau.
“Nawr mewn amser o argyfwng, lle nad oes arian ar gael, does gan y cyngor ddim dewis.
“Mae angen ailedrych ar y ffordd ma’ nhw’n dehongli hanes yr adeilad.
“Mae’n adeilad sy’n cynrychioli hanes Lloegr ar hyn o bryd - dylen nhw ei ail-ddehongli yng nghyd-destun hanes Cymru.”