Offer cyffuriau wedi'i ganfod mewn fflat lle bu farw dau berson

fflat y ddau fu farw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest i farwolaethau'r ddau ei ohirio

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed y cafodd offer yn ymwneud â chyffuriau ei ganfod mewn cartref lle bu farw dau berson yn Hirwaun yr wythnos ddiwethaf.

Aeth yr heddlu i gartref Natalie Jones, 39, a Jonathan Lee Williams, 47, ar 21 Chwefror ar ôl i deulu Ms Jones godi pryderon am ei lles.

Doedden nhw ddim wedi clywed ganddi ers pythefnos.

Fe aeth yr heddlu i mewn i'r fflat yn Hirwaun, ger Aberdâr, gan ddarganfod y ddau gorff yn ogystal â "paraffernalia cyffuriau".

Clywodd y cwest fod archwiliadau post-mortem wedi methu â darganfod achos marwolaethau Ms Jones a Mr Williams, a bod angen ymholiadau pellach.

Yn gynharach yr wythnos hon, bu teulu Natalie Jones yn rhoi teyrnged iddi, gan ei galw'n "ferch gariadus, chwaer, mam a chyfaill oedd yn berson tosturiol, ddaeth a llawenydd a haelioni i gynifer".

Cafodd y cwest i farwolaethau'r ddau ei ohirio.