Disgwyl i'r gyllideb basio wedi cytundeb gyda Jane Dodds

cyllidebFfynhonnell y llun, Thinkstock
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf gael sêl bendith yn y Senedd ddydd Mawrth.

Wedi i weinidogion Llafur ennill cefnogaeth Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol fis diwethaf, mae disgwyl i'r gyllideb o £26bn sy'n ariannu y Gwasanaeth Iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill ennill pleidlais y mwyafrif.

Roedd y llywodraeth angen cymorth un aelod o wrthblaid - cafodd cefnogaeth Jane Dodds ei sicrhau ar ôl i weinidogion addo gwahardd rasio milgwn a sicrhau teithiau bws am £1 i rai o dan 21 oed.

Mae disgwyl i'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wrthwynebu'r gyllideb.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod y gyllideb yn "gyfle gwirioneddol" i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd y Ceidwadwyr na fyddai'n "trwsio Cymru" ac mae Plaid Cymru yn cyhuddo Llafur o fethu â chwrdd â'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu.

Roedd Llafur Cymru wedi bod yn chwilio am gefnogaeth aelod o wrthblaid ar ôl i'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru ddod i ben yr haf diwethaf.

Os na fydd cytundeb ar y gyllideb, bydd cyllid Llywodraeth Cymru - sy'n dod yn bennaf o'r Trysorlys - yn cael ei dorri'n awtomatig a gallai hyd at £4.15bn fod yn y fantol yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae'r penderfyniadau a wnaed gan Ganghellor Llafur y DU, Rachel Reeves, yn golygu bod £1.5bn yn fwy yng nghyllideb Cymru ar gyfer 2024-25, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ymhlith y cynlluniau mae £600m yn fwy ar gyfer y GIG yng Nghymru - arian y mae gweinidogion yn gobeithio fydd yn mynd i'r afael ag amseroedd aros.

Ond mae 'na bryderon y bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ddefnyddio'r arian ychwanegol i ariannu cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol sy'n cael ei dalu gan gyflogwyr.

Er bod addewidion o gymorth ychwanegol i'r sector cyhoeddus gan y Trysorlys, nid yw'n glir pa sefydliadau fydd yn elwa na faint fydd yn cael ei ddarparu.

Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Jane Dodds ymatal ei phleidlais

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewidion gwerth £100m er mwyn sicrhau'r cytundeb gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds.

Cafodd Ms Dodds - unig aelod ei phlaid yn y Senedd, sy'n cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru - addewid y byddai arian ychwanegol yn cael ei roi ar gyfer gofal plant, gofal cymdeithasol ac i gynghorau.

Mae'r cytundeb yn cynnwys cynllun peilot gwerth £15m a fydd yn caniatáu i bobl rhwng 16 a 21 oed allu teithio ar fws i unrhyw le yng Nghymru am £1.

Mae Llafur yn dal hanner y seddi - 30 - yn Senedd Cymru ac angen cymorth un aelod o'r gwrthbleidiau i sicrhau bod y gyllideb yn cael ei chymeradwyo.

'Pwysig fod y bleidlais yn pasio'

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Jane Dodds ei bod am ymatal ei phleidlais, er ei bod yn cyfaddef fod y gyllideb "dal ddim yn ddigon da".

"'De ni eisiau gweld mwy o arian yn dod fewn i Gymru, mwy o arian o HS2, mwy o arian o ddatganoli Ystâd y Goron," meddai.

"A dwi 'di bod yn glir iawn mai dyma dwi'n ddisgwyl."

Ond er hyn, dywedodd ei bod hi'n bwysig fod y bleidlais yn pasio.

"Er bod ni yma, mae o'n bwysig iawn bod y gyllideb yn pasio prynhawn 'ma, achos os 'di o ddim bydd pobl Cymru yn colli tua £5bn - dyna'r rheolau."

'Ddim yn mynd i lenwi pob bwlch'

Roedd y gweinidog cyllid Mark Drakeford hefyd yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, ble dywedodd y bydd pobl Cymru yn gweld gwahaniaeth oherwydd y gyllideb.

"Ma' 'da ni £1.6bn ychwanegol i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

"A bydd pobl ledled Cymru yn gweld y gwahaniaeth mae'n mynd i wneud yn y maes iechyd, maes tai, gofal cymdeithasol ac yn y blaen.

"Ni wedi buddsoddi'r arian newydd sydd wedi dod aton ni, ac mae pobl yn gallu gweld beth sydd wedi digwydd, beth sydd wedi cael ei fuddsoddi, a beth sy'n mynd i fod yn well yn ein gwasanaethau."

Ychwanegodd: "Dydy'r cyllid, ar ôl degawd o gynni, ddim yn mynd i lenwi pob bwlch sydd 'da ni, ond ni wedi troi cornel gyda'r cyllid newydd sydd 'da ni, a mae hwnna yn mynd i helpu pobl ymhob cwr o Gymru."

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford na fydd y gyllideb yn llenwi pob bwlch, ond y bydd pobl Cymru yn gweld gwahaniaeth o'i herwydd

Pan holwyd Mr Drakeford a fydd yr arian yn arian wirioneddol yn helpu cyflogwyr sy'n wynebu cynnydd mewn costau fel taliadau yswiriant gwladol, dywedodd y bydden nhw'n dioddef yn fwy heb yr arian yma.

"Maen nhw'n mynd i deimlo lot yn well na phe bai'r arian ddim wedi dod," meddai.

"Heb yr arian, bydd dim chance iddyn nhw i ymdopi gyda'r pethau maen nhw yn wynebu.

"Dwi'n cydnabod y ffaith bod costau bwy yn cynyddu - ni gyd yn wynebu hwnna - ond gyda'r arian ychwanegol bydd arian i ymdopi gyda pethau fel 'na, ac i fuddsoddi i wella ein gwasanaethau."

Bydd pobl ifanc o dan 21 oed yn gallu teithio i unrhyw le ar unrhyw daith am £1, gyda theithio anghyfyngedig am £3Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cefnogaeth Jane Dodds ei sicrhau ar ôl i weinidogion addo gwahardd rasio milgwn a sicrhau teithiau bws am £1 i rai o dan 21 oed

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yn rhaid "pleidleisio yn erbyn y gyllideb fel bod Llafur yn colli eu grym cyn gynted â phosib".

Dywedodd ysgrifennydd y blaid dros gyllid, Sam Rowlands: "Ni fydd cyllideb Llafur yn trwsio Cymru, ni fydd yn mynd i'r afael â blaenoriaethau'r bobl - mae rhestrau aros hir a safonau addysgol isel yn siarad drostynt eu hunain."

Ychwanegodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan, na allai ei phlaid gefnogi'r gyllideb, gan ychwanegu ei bod wedi methu â chwrdd â'r heriau sy'n wynebu Cymru.

"Rydym yn dal i ddisgwyl y £4bn sy'n ddyledus i ni o HS2. Does dim cytundeb ariannu teg i helpu ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n wynebu trafferthion."

'Pleidleisio yn erbyn buddsoddi yn ein GIG'

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Mae'r gyllideb hon yn gyfle gwirioneddol i ddiogelu ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.

"Gyda £600m ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar y bwrdd, a fydd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn buddsoddi yn ein Gwasanaeth Iechyd?"

Galwodd llefarydd Cymru ar ran Reform UK - plaid sy'n gobeithio ennill eu seddi cyntaf yn yr etholiad nesaf - am i'r gyllideb gael ei gwrthod, gan ddweud "nad yw'n gwneud dim i drwsio yr economi, gwasanaethau cyhoeddus sy'n methu, na'r argyfwng costau byw".