Teyrnged i ddynes wrth i ymchwiliad i farwolaethau barhau

Roedd Natalie Jones, 39, yn berson "cynnes, cariadus", meddai ei theulu
- Cyhoeddwyd
Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddynes a chafodd ei chanfod yn farw yn Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.
Cafodd cyrff Natalie Jones, 39, a dyn 47 oed eu canfod mewn eiddo ar Stryd Fawr Hirwaun tua 17:45.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r marwolaethau, gan ddweud eu bod yn eu trin fel rhai anesboniadwy.
Bydd archwiliadau post-mortem yn cael eu cynnal ddydd Mercher.

Cafodd cyrff dyn a menyw eu canfod mewn eiddo ar Stryd Fawr Hirwaun
Dywedodd teulu Natalie Jones mewn datganiad: "Mae ein calonnau wedi torri ar ôl colli Natalie.
"Roedd yn ferch, chwaer, mam, a ffrind annwyl ac yn berson cynnes, cariadus a thosturiol a ddaeth â llawenydd a haelioni i gynifer.
"Bydd hi'n cael ei chofio am byth.
"Yn ystod y cyfnod anodd yma rydyn ni'n gofyn yn garedig am breifatrwydd fel teulu wrth i ni alaru.
"Gofynnwn i ymchwiliad yr heddlu gael ei barchu, a'ch bod yn cadw Natalie a'n teulu yn eich meddyliau a'ch gweddïau."
Mae'r llu wedi diolch i drigolion lleol am eu hamynedd wrth i swyddogion gynnal eu hymchwiliadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror