Pum munud gyda... Luke Davies

Luke DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Luke Davies yw cyhoeddwr Parc y Scarlets ac mae hefyd yn gyflwynydd, darlledwr, actor ac yn creu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol. Ei angerdd mawr yw dysgu a rhannu gwybodaeth am hanes Cymru a'r Gymraeg.

O Langennech ger Llanelli yn wreiddiol, mae Luke, sy'n 31 mlwydd oed, yn rhannu fideos am ffeithiau difyr am yr iaith a Chymru ar TikTok ac Instagram i'w filoedd o ddilynwyr.

Luke Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Luke wrth ochr cae yn Stadiwm Dinas Caerdydd

O ble daw dy ddiddordeb yn yr iaith a hanes Cymru?

Er nad oedd fy nheulu yn siarad llawer o Gymraeg wrth dyfu lan, rwy'n teimlo mor ffodus fy mod wedi mynd i ysgol Gymraeg. Dyna le ti'n dysgu am bethau fel Owain Glyndŵr a'r Welsh not ac ati. Ond dim ond dros y blynyddoedd diwethaf dwi wir wedi dechrau astudio pethau fel Deddf Uno 1536, brad y llyfrau gleision neu hyd yn oed sefydlu S4C.

Stori Cymru yw'r stori underdog mwyaf anhygoel.

Mae cymaint o enghreifftiau lle'r oedd Cymru yn wynebu'r ods gwaetha erioed ac yn dal i lwyddo i oroesi.

Er bod y stori'n cael ei dysgu yn llawer o ysgolion Cymru dwi ddim yn gwybod faint o'r sgwrs sy'n digwydd gyda phobl o bob rhan o Gymru. Dyma un o'r rhesymau pam roeddwn i eisiau siarad am y Gymraeg a hanes Cymru ar-lein. Mae faint o sylwadau a negeseuon a gaf gan bobl ifanc sy'n dweud eu bod yn dysgu cymaint am eu gwlad yn wirioneddol anhygoel.

Rhannaist fideo yn ddiweddar am dy amser yn India oedd yn awgrymu tebygrwydd rhwng rhai geiriau Cymraeg a Hindi. Sut ddigwyddodd hynny?

Roedd mynd i India yn anrheg pen-blwydd i fy mhartner, Charlotte. Fe wnaethon ni gwrdd â'i ffrind a'r creawdwr cynnwys teithio Nehaa a phenderfynu gwneud fideos am hwyl.

Rwyf wedi dysgu bod tipyn o debygrwydd rhwng India a Chymru hefyd o ran iaith a hyd yn oed mytholeg a straeon. Roedd cyfri i ddeg yn y Gymraeg a Hindi mor ddiddorol. Roedd gan Gymraeg a Hindi fwy o debygrwydd nag oedd gan Gymraeg i Saesneg.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan lukedavies_presents

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan lukedavies_presents

Ar hyn o bryd rwy'n gwneud rhywfaint o gynnwys sy'n canolbwyntio ar holl gymdeithasau a chymunedau Cymraeg y byd. Er enghraifft Ohio yn UDA sydd â chymuned Gymraeg massive! Mae ganddyn nhw hyd yn oed y Ddraig Goch ar rai o'u ceir heddlu! O ystyried pa mor dda y mae fy fideos India wedi gwneud byddwn wrth fy modd yn gwneud mwy o fideos dramor yn sicr.

Ti yw llais y Scarlets ers 2023, ydi rygbi'n rhan o dy fagwraeth?

Byddai fy nhad yn cyhoeddi rygbi Llangennech ar y meicroffon pan oeddwn yn tyfu i fyny. Fy swydd gyntaf oedd ei helpu fel ei DJ sidekick a chwarae'r gerddoriaeth pan oedden ni'n sgorio cais. Ef hefyd oedd cefnogwr mwyaf y Scarlets yn y bydysawd a byddai'n adrodd straeon yn aml yn ystod y gemau ym mharc y Strade.

Yn anffodus bu farw yn 2021 ac ni chafodd erioed gyfle i fy ngweld ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnod gêm. Rwy'n edrych lan ar ei sedd bob gêm ac yn rhoi nod bach iddo a'i ddychmygu'n edrych i lawr arnaf ar y cae.

Mae rygbi bron yn grefydd yng ngorllewin Cymru. Fe wnes i chwarae ychydig ond doeddwn i byth yn seren. Dwi weithiau'n teimlo dipyn o FOMO yn sefyll ar ochr y cae ond dwi ddim yn meddwl y gallwn i ymdopi!

Ar lefel ranbarthol, mae'r Sgarlets wedi cael canlyniadau arbennig o dda'r tymor hwn hyd yn hyn sy'n wych i'w weld! Rwy'n mwynhau fy swydd yn y parc yn fawr ac yn gyffrous iawn i weld sut mae gweddill y tymor yn mynd i chware mas.

scarletsFfynhonnell y llun, Luke Davies
Disgrifiad o’r llun,

Luke yn ei ddyletswyddau gyda'r Scarlets

Rwyt ti wedi actio (er enghraifft ar Hansh, BBC Sesh ac S4C), fuest ti mewn coleg drama?

Na wnes i ddim ac roeddwn i'n gutted na es i ddim! Roeddwn i wir eisiau cymryd drama fel pwnc yn Ysgol y Strade ond nid oedd yn beth cŵl i'w wneud fel bachgen. Rygbi oedd y peth cŵl. Felly, roedd yn teimlo fy mod wedi dal nôl rhan fawr o bwy oeddwn i oherwydd fy mod yn ofni cael fy marnu.

Es i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymdeithaseg a gwnes radd Meistr mewn ymchwil Gwyddor Gymdeithasol. Yn y cyfnod yna cefais yr hyder i gymryd dosbarthiadau actio ac i wneud ychydig o waith extra.

Pan na chefais fy nerbyn i wneud PhD o'dd 'da fi flwyddyn off i wneud lot o swyddi random: deliwr pocer, tour guide, tiwtor preifat. Ond ar ôl bod ar ddogfen BBC o'r enw City Road yn 2016, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi weithio yn y cyfryngau.

Luke Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Luke yn westai ar raglen Prynhawn Da

Felly gwnes gais am rywfaint o brofiad gwaith yn yr orsaf deledu leol Made In Cardiff ac ar ôl cwpl o fisoedd a chyfarfod fy mentor cyntaf, Daniel Glyn, dechreuodd fy mywyd yn y diwydiant cyfryngau. Ers hynny rwyf wedi cymryd llawer o ddosbarthiadau actio a gweithdai ac es i RADA i wneud eu hysgol haf hefyd.

Beth yw'r freuddwyd?

Gydag actio, y breuddwyd yw bod mewn sioe neu ffilm o'r Ail Ryfel Byd. Ymladdodd fy nhad-cu ar draethau Normandi felly byddwn wrth fy modd yn ymchwilio a chwarae cymeriad a fyddai'n dilyn yn ôl ei draed.

Mewn digwyddiadau byw, rydw i wedi bod mor lwcus i fod wedi gwneud rownd derfynol y Champions League yn Llundain, The Hundred, Dinas Caerdydd, Criced Morgannwg, Y Scarlets a mwy, ond byddai gwneud rhywbeth fel Glastonbury yn anhygoel!

Gyda chyflwyno, rwy'n meddwl y byddai'n rhaid iddo fod yn ddogfennol. Dwi wedi lleisio rhaglenni dogfen i'r BBC ond cyflwyno rhaglen hanes Cymru neu arwain stori am ochr o hanes Cymru na welsom erioed o'r blaen fyddai'r freuddwyd! Dwi'n hoff iawn o ffeithiau ar hap felly byddai sioe gwis da yn anhygoel hefyd!