Bebb eisiau 'S4C sefydlog', ond nid y gadeiryddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd dros dro S4C wedi dweud ei bod hi "mor bwysig sicrhau cyfnod sefydlog i S4C wedi cyfnod hynod o heriol".
Mae Guto Bebb, sy’n gyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, bellach wedi dechrau ar ei waith fel cadeirydd ac ers dydd Llun mae Sioned Wiliam, y prif weithredwr dros dro yn gweithio i’r sianel yn llawn amser.
Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Guto Bebb mai’r bwriad oedd penodi cadeirydd newydd yn fuan, ac fe gadarnhaodd nad oedd ef am geisio am y swydd.
Wrth gael ei benodi yn gadeirydd dros dro ym mis Mawrth nodwyd y byddai Mr Bebb yn parhau yn y rôl tan fis Mawrth 2025 neu tan fod cadeirydd llawn amser yn cael ei benodi.
'Dyddiad cau yr wythnos yma'
“Dan ni’n gobeithio y bydd cadeirydd yn cael ei benodi ymhell cyn [mis Mawrth]," meddai.
"Mae’r dyddiad cau ar gyfer swydd y cadeirydd ddiwedd yr wythnos yma.
“Mae gen i ddigon o waith i’w wneud yn fy ngwaith parhaol,” medd Mr Bebb sy’n rheolwr gyfarwyddwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru.
“Dwi’n falch iawn i gamu i’r adwy dros dro ond 'dan ni angen symud ymlaen i gael cadeirydd llawn amser parhaol ac yna bydd y cadeirydd newydd yn gallu cydweithio gydag aelodau eraill o’r bwrdd er mwyn symud ymlaen i benodi prif weithredwr parhaol.”
Mae Guto Bebb wedi bod yn aelod o fwrdd S4C ers 2021, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at barhau i fod yn aelod o'r bwrdd wedi i gadeirydd parhaol gael ei benodi.
“Cyfnod pontio ydy hwn," meddai.
"Cyfnod sy’n rhoi sefydlogrwydd i’r sianel, cyfnod sy’n sicrhau bod y staff yn teimlo’n gyffyrddus ac yn gallu gweithio bob dydd heb boeni am yr hyn sy’n mynd ymlaen yng nghyd-destun y trafferthion ry’n ni wedi eu cael.
“’Dan ni ddim angen unrhyw ailadrodd o’r hyn a nodwyd yn adroddiad Capital Law.
“Yn bwysicach na dim mae’r sefydlogrwydd yna wedyn yn rhoi cyfle i ochr greadigol S4C ddarparu yr hyn y mae gwylwyr eisiau ei weld, sef rhaglenni o safon ar ein sianel genedlaethol ni.
“Mae angen sefydlogrwydd er mwyn i’r timau creadigol sydd gynnon ni ymhob rhan o Gymru a busnesau sy’n cefnogi S4C ymhob rhan o Gymru gael gwneud eu gwaith.”
Wrth gael ei holi a fydd hi’n dalcen caled i ddenu'r person iawn yn sgil helyntion diweddar, dywedodd Mr Bebb “ei fod yn gyfle unigryw”.
“Wedi’r cyfan mae hi yn sianel sydd yn cael ei chydnabod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan annatod o ddiwylliant Cymru.
“Mae’n gyfle i unigolyn sydd eisiau gosod ei stamp ar ddyfodol darlledu yma yng Nghymru - mae’n gyfle unigryw.
"Dwi yn fawr hyderus y bydd pobl yn edrych ar y cyfle yn hytrach nac edrych ar y misoedd diwethaf."
'S4C wedi arwain at 1,900 o swyddi'
Yn y cyfamser dywed S4C bod gwaith ymchwil a wnaed ar eu cyfer gan gwmni Wavehill ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 yn dangos bod cyfraniad economaidd y sianel wedi arwain at 1,900 o swyddi a chynhyrchu £136m i economi Cymru.
Yn ôl Dyfrig Davies, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn profi bod S4C yn creu ‘gwerth da iawn am arian’ ac yn creu twf economaidd, mae hefyd yn effeithiol tu hwnt ar gyfer datblygu’r diwydiannau creadigol a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
"Fodd bynnag, mae S4C yn wynebu heriau cynyddol wrth i gystadleuaeth am wylwyr a chostau gynyddu.
"Mae angen felly, chwistrelliad ychwanegol o arian cyhoeddus er mwyn cefnogi’r gwaith hanfodol yma ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd Guto Bebb: "Mae’r ffaith ei bod yn cyfrannu mwy i’r economi na mae’n ei dderbyn mewn arian cyhoeddus yn dangos bod defnydd S4C o’r ffi drwydded yn effeithiol.
“Mae’r adroddiad yn dangos hefyd bod un o bob saith swydd yn y byd darlledu yng Nghymru yn seiliedig ar gefnogaeth S4C.
"Mae pwysigrwydd S4C i gynnal y sector yng Nghymru yn gwbl allweddol.”
'Dan anfantais'
Yn ôl un academydd, mae darlledwyr Cymraeg yn gweithio dan amgylchiadau “heriol”.
Yn ôl uwch-ddarlithydd ar y cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Elain Price, mae’r sector gynhyrchu “dan anfantais” wrth gystadlu â chynyrchiadau ffrydio tra hefyd yn gweithio i gyllideb dynn.
“Mae’r adroddiad hefyd yn sôn am y ffaith mai S4C ydy’r darlledwr mwyaf cost effeithiol hynny ydy bod hi’n costio llai i S4C i gynhyrchu rhaglenni yn y Gymraeg,” meddai.
“Mae cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru yn gorfod mynd ati i wneud rhaglenni o safon sydd yn mynd i apelio ac sydd yn mynd i ddenu cynulleidfa gyda llai o arian na sianeli eraill maen nhw’n cystadlu â nhw.
"Felly mae hynny yn heriol i’r sector gynhyrchu yng Nghymru.”
Ychwanegodd Guto Bebb, wrth ymateb i feirniadaeth ddiweddar am ddigwyddiad gan S4C yn Efrog Newydd, fod S4C yn ganolog i sicrhau dyfodol yr iaith.
“Mae yna benderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn codi proffil y sianel, proffil y Gymraeg," meddai.
"Dwi’n meddwl bod S4C yn cael ei gweld yn ganolog i sicrhau bod yr iaith yn cael ei gweld yn berthnasol ac yn fodern – felly mae’n gyfrifoldeb arnon ni bod y gwaith yn cael ei weld."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd2 Chwefror