Rhodri Williams yn gadael S4C 'mewn sefyllfa dda iawn'

Rhodri WilliamsFfynhonnell y llun, s4c
  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwedd ei gyfnod fel Cadeirydd S4C, mae Rhodri Williams yn dweud ei fod yn hapus â'r ffordd y deliodd â honiadau o fwlio gan aelodau staff, a'i fod yn gadael y sianel "mewn sefyllfa dda iawn".

Fe gyhoeddodd Mr Williams ym mis Ionawr nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail dymor yn gadeirydd.

Mewn cyfweliad â rhaglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd ei fod yn "gyfforddus fod y bwrdd wedi gwneud y penderfyniadau cywir" er lles S4C a'r staff.

Yn ogystal, dywedodd bod enghreifftiau o ormod o Saesneg ar y sianel yn y gorffennol, ond fe wrthododd honiad bod y sianel wedi colli cyfeiriad.

Ac fe feirniadodd digwyddiad a gafodd ei drefnu gan S4C yn Efrog Newydd i nodi 40 mlynedd o'r sianel.

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb wedi'i benodi yn gadeirydd dros dro, a bydd yn dechrau ar ei waith ddydd Llun.

Wrth drafod y trafferthion diweddar o fewn S4C - wedi ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio gan aelodau o dîm rheoli S4C a diswyddo dau uwch swyddog blaenllaw - dywedodd Mr Williams ei fod yn ystyried ymateb y bwrdd fel "llwyddiant".

"Yn ail hanner fy nghadeiryddiaeth, wrth gwrs fe gododd problemau yn sgil y gwyn dderbynion ni gan yr undeb BECTU ynglŷn ag ymddygiad rhai o'r uchel swyddogion," meddai.

"Mae hynny wedi cymryd y flwyddyn ddiwethaf, ond dwi'n meddwl bod 'na elfen o lwyddiant yn hynny.

"Fe gawsom ni fel bwrdd ein rhoi mewn sefyllfa anodd iawn, roedd y materion yr oedden ni'n delio â nhw yn ddyrys iawn.

"Dwi'n gyfforddus ein bod ni wedi cymryd y penderfyniadau cywir - wedi gwneud y peth cywir o ran S4C, ac yn fwy pwysig efallai, y peth cywir o ran ein staff ni."

Ffynhonnell y llun, Huw John/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams eu diswyddo gan S4C ym misoedd olaf 2023

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bellach bod y gwir ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd wedi dod allan.

"Dwi ddim yn credu bydde dim y gallai’r bwrdd fod wedi ei wneud i osgoi hynny [beirniadaeth yr uwch swyddogion gafodd eu diswyddo].

"Unwaith ry' chi terfynu cyflogaeth dau o'ch prif swyddogion, mae e yn eu dwylo nhw wedyn, a'r hyn welon ni oedd ymateb chwyrn iawn, a hynny yn gyhoeddus iawn.

"Dwi ddim yn credu gallen ni fod wedi gwneud hynny mewn ffordd fydde wedi gwarantu bod yr ymateb hynny ddim yn digwydd. Mater i'r unigolion oedd mynd â'u cwynion at y wasg yn y ffordd wnaethon nhw.

"Penderfynwyd ein bod ni ddim yn ymateb i bob cyhuddiad a wnaed, a falle bod e wedi cymryd tan ddiwedd y broses i ni fod wedi gosod allan y gwir ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd."

'Mynd i'r cyfeiriad cywir' o ran defnydd o'r Saesneg

Yn ddiweddar mae S4C wedi cael eu cyhuddo o "golli cyfeiriad" ac o gynnwys gormod o Saesneg mewn rhaglenni.

Gwrthod yr awgrym am golli cyfeiriad wnaeth Mr Williams, gan ddweud bod "mwy o amrywiaeth ar y sgrin a thu ôl i'r sgrin" erbyn hyn, a bod hynny yn llwyddo i ddenu gwylwyr iau.

"Ry' ni'n gweld cynulleidfaoedd iau yn troi at lwyfannau fel Youtube a TikTok... ma' 'na gynnydd sylweddol wedi bod hefyd yn nifer y bobl sy'n mynd at gynnwys S4C ar iPlayer ac ar Clic.

"Ma' hynny'n dangos bod y newid strategol yna, o ran symud o fod yn ddarlledwr llinol i fod yn gorff oedd yn darlledu ar sawl llwyfan digidol, wedi digwydd, ac yn parhau i ddigwydd yn llwyddiannus."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Williams bod S4C wedi cyflwyno canllawiau newydd i gynhyrchwyr rhaglenni o ran defnydd o'r Saesneg

Er yn amddiffyn y cynnwys yn gyffredinol, dywedodd bod rhai enghreifftiau lle mae'r defnydd o'r Saesneg yn ormodol ond bod hynny wedi digwydd yn barhaol.

"Dyna pam yn ddiweddar mae'r bwrdd wedi cymeradwyo polisi iaith newydd sy'n rhoi canllawiau clir i gynhyrchwyr ynglŷn â phwysigrwydd cael cyfiawnhad golygyddol dros peth cynnwys o Saesneg mewn rhaglenni.

"Ma' 'na wastad eithriadau ond yn gyffredinol dwi'n meddwl bod S4C yn mynd i'r cyfeiriad cywir."

Ychwanegodd y bydd cyfle i adolygu strategaethau a chyflwyno newidiadau pan fydd cadeirydd a phrif weithredwr parhaol wedi eu penodi.

Dathliad Efrog Newydd yn 'gamgymeriad'

Wrth drafod dathliadau yn Efrog Newydd i nodi 40 mlynedd ers sefydlu'r sianel, dywedodd ei fod wedi cwestiynu doethineb cynnal digwyddiad o'r fath ar y pryd.

"Ro'dd y digwyddiad ei hun yn un ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru - oedd wedi gofyn i S4C bartneru gyda nhw i gynnal digwyddiad yn yr Unol Daleithiau. Ro'dd yr ochr hynny ohono fe yn dderbyniol fi'n credu.

"Ond fe wnes i fynegi ar y pryd, fy anfodlonrwydd llwyr gyda'r rhaglen a ddarlledwyd o Efrog Newydd, a hynny am resymau golygyddol.

"Do'n i ddim yn meddwl bod y rhaglen yn cyrraedd y safon dyle fe fod wedi. Does dim ots ble mae'r rhaglen yn cael ei wneud boed yn Efrog Newydd neu'n Dregaron."

Ychwanegodd: "Wrth edrych nôl weden i yn bendant fod y ffordd aethpwyd ati i ddelio gyda beth oedd yn achlysur hapus i S4C, wedi bod yn gamgymeriad."

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Yn edrych i'r dyfodol, dywedodd Mr Williams mai'r cwestiwn mawr yn y tymor canolig yw dyfodol ffi'r drwydded yn sgil ymgynghoriad Llywodraeth y DU.

"Ma' S4C yn derbyn y cyfan o'u harian cyhoeddus o'r ffi drwydded... heb y nawdd cyhoeddus hwnnw bydde ddim modd i S4C fodoli.

"Os oes 'na newid i'r fodel, bydd rhaid bod 'na fodel newydd yn cael ei roi yn ei le fe sy'n gwarantu'r un lefel o wariant cyhoeddus.

"Falle bod ffordd well o ariannu... ond nes bod rhywun yn dangos pa fodel fydden well, sut bydde fe'n gweithio, faint o arian fydde fe'n cynhyrchu ac a fydde'r arian yna yn ddigonol i gynnal y gwasanaethau hynny, mae'n rhaid bod 'na gwestiwn yn ein meddyliau ni gyd, a ydi'r dyfodol yn ddiogel?"

Gwrandewch ar y cyfweliad llawn ar raglen Bore Sul ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig