S4C: Penodi Guto Bebb yn gadeirydd dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb wedi'i benodi yn gadeirydd dros dro newydd ar S4C.
Bydd yn dechrau ar ei waith ym mis Ebrill, ac yn parhau yn y rôl tan fis Mawrth 2025 neu tan fod cadeirydd llawn amser yn cael ei benodi.
Daw'r penodiad ar ôl i Rhodri Williams gyhoeddi ym mis Ionawr nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail dymor yn gadeirydd ar y sianel.
Mae'r broses o benodi cadeirydd llawn amser wedi dechrau yn swyddogol ddydd Iau.
Yn enedigol o Sir y Fflint, mae Mr Bebb wedi byw yng Nghaernarfon ers 40 mlynedd.
Bu'n Aelod Seneddol dros Aberconwy am ddegawd gan wasanaethu fel Gweinidog yn Swyddfa Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Daeth ei gyfnod yn San Steffan i ben yn 2019 pan ddaeth Boris Johnson yn Brif Weinidog.
Mae bellach yn gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfnod fel Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Yswiriant yr undeb.
Mae wedi bod yn flwyddyn gythryblus i'r darlledwr, gydag ymchwiliad annibynnol i honiadau o fwlio gan aelodau o dîm rheoli S4C a diswyddo dau uwch swyddog blaenllaw, sydd wedi codi cwestiynau'n gyhoeddus am y modd mae'r bwrdd a'r cadeirydd wedi ymateb i'r sefyllfa.
Mae Bwrdd S4C eisoes wedi penodi Sioned Wiliam yn brif weithredwr dros dro yn dilyn diswyddiad Siân Doyle ym mis Tachwedd 2023.
Cafodd y cyn-brif weithredwr ei diswyddo o'r rôl ym mis Tachwedd y llynedd yn sgil honiadau o fwlio ac ymddygiad anaddas.
Ym mis Ionawr fe gadarnhaodd Rhodri Williams ei fod wedi anfon llythyr at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw beidio ei ystyried ar gyfer ail dymor yn y swydd.
Mewn cyfweliad ar y pryd, dywedodd Mr Williams mai'r "flwyddyn ddiwethaf oedd yr anoddaf yn holl hanes y sianel".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024