Pryderon a all Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni eu gwaith

cerddedFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon wedi codi ynghylch gallu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflawni elfennau o'u gwaith.

Yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd mae blynyddoedd o fuddsoddi llai yn golygu nad oes digon o arian gan y corff i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol.

Mewn adroddiad newydd mae aelodau Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn dweud eu bod yn "bryderus iawn" am gynlluniau CNC i leihau nifer y "digwyddiadau llygredd categori isel" y maen nhw'n ymateb iddynt.

Yn ôl CNC mae'r corff wedi mynd trwy "gyfnod o newid a her sylweddol" ac mae'n nhw'n dweud bod rhaid iddyn nhw "fyw o fewn yr adnoddau sydd ar gael".

Mae Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu CNC, yn dweud y byddant yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad.

'Penderfyniadau diweddar yn peri gofid mawr'

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn dweud eu bod yn poeni am gynlluniau CNC i gadw llygad ar bethau fel tipio anghyfreithlon, gollwng cemegau'n anghyfreithlon a llygredd dŵr.

Mae aelodau yn ychwanegu eu bod yn "bryderus iawn" am gynigion CNC i ganolbwyntio ar ddigwyddiadau amgylcheddol mwy a'u parodrwydd i dderbyn risgiau uwch wrth reoli adroddiadau o lygredd yng Nghymru.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd o Blaid Cymru: "Mae penderfyniadau diweddar gan CNC yn peri gofid mawr ac yn codi cwestiynau am ddyfodol stiwardiaeth amgylcheddol yng Nghymru."

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Drwy ddewis derbyn 'goddefgarwch uwch o risg', mae CNC mewn perygl o anwybyddu achosion o lygredd sydd, er efallai'n cael eu hystyried yn llai dylanwadol, yn dal i effeithio ar iechyd ein hecosystemau a'n cymunedau."

TirlunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae CNC yn gyfrifol am reoli coedwigoedd, ymateb i lifogydd a rhoi trwyddedau amgylcheddol

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd CNC fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol ond "er gwaethaf hyn, mae ein cydweithwyr wedi aros yn gadarn — gan gamu i'r adwy dro ar ôl tro i gyflawni dros bobl, lleoedd a bywyd gwyllt Cymru".

Aeth CNC ymlaen i ddweud: "O'r digwyddiadau y gwnaethon ni ddelio â nhw y llynedd, dim ond 5% a gafodd effaith amgylcheddol sylweddol neu fawr.

"Nodwyd bod y 95% oedd yn weddill yn ddigwyddiadau bychain neu fel rhai nad oedd yn achosi effaith.

"Mae hyn yn golygu bod cyfran sylweddol o'n hadnoddau rheng flaen ar hyn o bryd wedi'i gyfeirio at adroddiadau effaith isel, gan ddargyfeirio capasiti o waith atal a gorfodi effaith uwch."

'Teimlo fel bod CNC yn cefnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd'

Fe gaeodd CNC eu canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Ynyslas a Bwlch Nant yr Arian ym mis Mawrth er mwyn torri costau.

Beirniadodd aelodau pwyllgor y Senedd y penderfyniad hwn gan ddweud ei fod yn "teimlo fel bod CNC yn cefnu ar ymddiriedaeth y cyhoedd".

Dywedodd y pwyllgor ei bod yn "annerbyniol nad oes cynllun nac amserlen realistig i ailagor y canolfannau hyn wedi ei ddarparu eto".

Mewn ymateb i hyn dywedodd CNC eu bod wedi bod yn "canolbwyntio'n gadarn ar y broses o ddod o hyd i bartneriaid, grwpiau cymunedol a busnesau i gofrestru diddordeb mewn darparu gwasanaethau yn y canolfannau ymwelwyr".

Dydy grant craidd CNC gan Lywodraeth Cymru ddim wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ond mae costau'r corff wedi bod yn codi oherwydd chwyddiant.

Mae CNC wedi ceisio cael gwared ar fwy na 250 o swyddi, a hynny drwy ddiswyddiadau neu beidio â llenwi swyddi gwag.