Dyn yn credu ei fod 'wedi ei dwyllo' cyn lladd cymar ei fab
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dyn o Sir Gâr sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio cymar ei fab yn credu ei fod wedi cael ei dwyllo gan y cwpl.
Fe gafodd Sophie Evans ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Llanelli ar 5 Gorffennaf 2024.
Mae Richard Jones, 50, o Borth Tywyn, wedi pledio'n euog i'w dynladdiad ond mae'n gwadu llofruddiaeth.
Mae'r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod yr heddlu wedi canfod Ms Evans yn noeth ac â'i hwyneb i lawr yng nghegin ei chartref ar Ffordd Bigyn.
Roedd Ms Evans mewn perthynas â mab Mr Jones, Jamie Davies.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
Clywodd y llys bod Mr Jones wedi cael ei holi gan yr heddlu naw gwaith dros ddau ddiwrnod mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
"Dim sylw" oedd ei ateb i'r holl gwestiynau yn ystod y ddau gyfweliad cyntaf.
Yn ystod y trydydd cyfweliad, roedd ditectif wedi ei holi am y ffaith ei fod wedi chwilio'r we ynghylch dioddef twyll hunaniaeth.
Gofynnodd y Ditectif Gwnstabl Jonathan Gouldson wrtho a oedd yn credu ei fod wedi dioddef hynny yn bersonol, ac atebodd Mr Jones: "Do, rwy'n credu."
Mewn cyfweliad arall, gofynnodd DG Gouldson beth ddigwyddodd ar ddiwrnod marwolaeth Ms Evans.
Atebodd Mr Jones ei fod "wedi pendroni ynghylch y twyll 'ma", gan ychwanegu nad oedd "yn gallu cofio popeth - ro'n i'n eratig".
Roedd wedi dweud wrth yr heddlu ei bod yn cofio mynd i dŷ Ms Evans i gael golwg ar y draeniau.
Dywedodd ei fod wedi curo ar y drws, a bod Ms Evans wedi ei agor mewn tywel, ar ôl dod allan o'r gawod.
Clywodd y llys i Mr Jones ddweud ei fod wedi codi mater y "twyll" a'i fod "wedi colli ei ben" pan atebodd Ms Evans na wyddai dim amdano.
"Fe ddywedodd hi 'dim fy syniad i oedd e, syniad Jamie'," meddai Mr Jones wrth yr heddlu.
'Methu cofio beth ddigwyddodd'
Dywedodd ei fod wedi taro ei law ar gownter yn y gegin ar ôl "colli tymer", ac nad oedd yn cofio beth ddigwyddodd wedi hynny.
Ond roedd yn cofio bod mewn parc gwledig lleol oriau'n ddiweddarach - dywedodd ei fod yn dioddef "blackouts" achlysurol o ran ei gof.
Mewn ymateb i gwestiwn ai ef oedd wedi achosi'r anafiadau i Ms Evans atebodd: "Dwi ddim yn credu."
Wedi i'r heddlu awgrymu ei bod yn "amhosib" fod unrhyw un arall yn gyfrifol am yr ymosodiad arni, atebodd: "Mae'n ymddangos felly."
Mae Mr Jones yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.