Dyn yn gwadu llofruddio cymar ei fab yn Llanelli

Sophie EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sophie Evans yn fuan ar ôl dychwelyd adref ar ôl mynd â'i dau blentyn i'r ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor yn achos llofruddiaeth menyw o Lanelli wedi clywed ei bod wedi marw ar ôl cael ei thagu i farwolaeth.

Cafwyd hyd i gorff Sophie Evans, 30, yn ei chartref yn Ffordd Bigyn ar 5 Gorffennaf 2024.

Mae Richard Jones, 50 oed o Borth Tywyn, wedi pledio'n euog i'w dynladdiad ond mae'n gwadu llofruddio Ms Evans, oedd mewn perthynas â'i fab, Jamie.

Mae disgwyl i'r achos yn Llys y Goron Abertawe bara am bythefnos.

Wrth amlinellu achos yr erlyniad ar ddiwrnod cyntaf yr achos, dywedodd Mike Jones KC bod Ms Evans newydd ddychwelyd adref ar ôl mynd â'i dau blentyn i'r ysgol, pan gyrhaeddodd Mr Jones.

Clywodd y llys bod y diffynnydd yn "ymwelydd cyson" oedd yn gwneud mân waith o gwmpas y tŷ, a'i fod wedi mynd yno y tro hwn "i drwsio'r draeniau".

Mae lluniau y mae'r heddlu wedi eu casglu yn ei ddangos yn mynd i mewn i'r tŷ am 09:23, ac mae cofnodion ffôn yn dangos bod Ms Evans wedi galw ei thad sawl tro yn fuan wedi hynny.

Ond pan geisiodd ei thad, Neil Evans, ei ffonio'n ôl am 09:39, doedd dim ateb, ac yn ôl yr heddlu doedd dim rhagor o ddefnydd o'i ffôn.

Am 10:00 mae lluniau CCTV yn dangos Richard Jones yn rhedeg i'w gar, ac yna'n dychwelyd i'r tŷ, cyn gadael ychydig funudau yn ddiweddarach yn gwisgo het a menig a mynd i fanc Santander a becws lleol yn Llanelli.

Clywodd y rheithgor bod Sophie Evans wedi cael sawl anaf, gan gynnwys torri asgwrn yn y gwddf, trawma i'r pen o ganlyniad i gael ei tharo, dwy lygad ddu a chleisio, a'i bod wedi cael ei thagu i farwolaeth.

Dywedodd Mike Jones bod y diffynnydd wedi gadael Ms Evans "yn farw, yn noeth a'i hwyneb i lawr" cyn dychwelyd i'w gartref ei hun ac yna i Barc Gwledig Pen-bre ble y bu'n siarad ar y ffôn neu'n tecstio perthnasau a ffrindiau.

Fe welodd y rheithgor negeseuon rhwng Richard Jones a'i gyn-gymar Tracey Thompson ble y cyfeiriodd at ei fab, Jamie Davies, a Miss Evans fel "lladron tywyllodrus".

Clywodd y llys bod yna sgwrs ffôn rhwng y ddau, cyn iddo anfon neges destun ati: "Paid â dweud gair."

Ond fe ffoniodd Ms Thompson Heddlu Dyfed-Powys ac aeth swyddogion i dŷ Ms Evans am 17:32 a darganfod ei chorff yn y gegin.

Cafodd Richard Jones ei arestio am 20:02 yr un diwrnod.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Sophie Evans yng nghegin ei chartref yn Llanelli

Clywodd y gwrandawiad am gyflwr meddyliol y diffynnydd ar y pryd - ei fod "yn gynyddol gynhyrfus" bod ei fab a Ms Evans "yn cymryd mantais ohono'n ariannol".

Fe welodd y rheithgor luniau o ddogfen ar ffôn Ms Evans i'w gwneud hi'n denant y tŷ, oedd yn eiddo i'w chymar Jamie, oedd yn y carchar ar y pryd.

Roedd Ms Evans wedi gofyn i Richard Jones lofnodi'r ddogfen a bu sawl neges destun rhwng y ddau ynghylch y cytundeb.

Roedd Mr Jones hefyd wedi chwilio'r we ar ei ffôn rhwng 26 Mehefin a 1 Gorffennaf gan holi ar un achlysur: "Beth i'w wneud os ydych chi'n dioddef twyll hunaniaeth".

Roedd hefyd wedi holi ynghylch "ffyrdd o ganslo cytundeb".

Syllodd Richard Jones tua'r llawr gydol y gwrandawiad.

Mae'n cyfaddef dynladdiad Sophie Evans ar sail cyfrifoldeb lleiedig ond yn gwadu llofruddiaeth.

Mae'r achos yn parhau.