Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2024

logo arwr tawel
  • Cyhoeddwyd

Mae hi nawr yn bosibl enwebu ar gyfer gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2024.

Gallwch enwebu’r gwirfoddolwyr sy’n gwella eich cymuned chi drwy chwaraeon ar Arwr Tawel neu Unsung Hero.

Rhaid derbyn pob enwebiad cyn 23:59 GMT nos Fercher 30 Hydref 2024.

Bydd 15 o bobl yn derbyn gwobr Arwr Tawel - un o bob un o wledydd a rhanbarthau’r BBC. Yna, bydd panel o feirniaid sy’n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant yn penderfynu ar un enillydd cyffredinol, a chyhoeddir ei enw’n fyw ar raglen wobrwyo Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, a gynhelir ym mis Rhagfyr yn MediaCityUK yn Salford.

Yr enillydd y llynedd oedd Des Smith - y "sbardun” y tu ôl i Glwb Chwaraeon Caribïaidd Sheffield ers 1986.

Mae enillwyr blaenorol wedi camu i’r llwyfan ac wedi datblygu rhwydweithiau eu clybiau i helpu rhagor o bobl yn lleol, wedi ymddangos yn y cyfryngau cenedlaethol, wedi ymuno â byrddau gwaddol y Gemau Olympaidd, wedi gweithio’n agos gyda mentrau iechyd meddwl y llywodraeth, ac wedi ymgynghori ar brosiectau’r Swyddfa Gartref i helpu pobl ifanc sydd mewn perygl.

Y Fonesig Laura Kenny, - yr athletwraig Olympaidd Brydeinig fwyaf llwyddiannus erioed - yw llysgennad y wobr a hi sy’n arwain yr ymgyrch am enwebiadau.

Dywedodd: “Fe wnes i ymuno â Welwyn Wheelers - fy nghlwb beicio lleol - pan o’n i’n wyth oed. Oni bai am y bobl ymroddedig hynny oedd yn rhedeg y clwb, mae’n bosib na fyddwn i wedi cyflawni’r holl bethau yn y gamp. Mae mor bwysig cydnabod cyfraniad y clybiau hyn a’r bobl sy’n dod â’u cymunedau lleol at ei gilydd drwy chwaraeon.”

Dywedodd Alex Kay-Jelski, cyfarwyddwr BBC Chwaraeon: “Wrth gefn i bob pencampwr, enillydd medal neu ddeiliad record, mae yna bobl hollol anhygoel sydd wedi sylwi ar eu talent, wedi eu helpu, eu hysgogi, a’u cysuro ac wedi gwneud iddynt gredu yn eu gallu. Ac mae angen eu hanrhydeddu hwythau hefyd.

Mae’n wobr mor ysbrydoledig ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at glywed straeon ein 15 enillydd yn 2024.”

Sut mae enwebu?

Mae’n hawdd: rhowch wybod - naill ai drwy ysgrifennu neu ffilmio - pam fod eich enwebai yn haeddu bod yn Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Rhaid i'r person sy’n cael ei enwebu fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio neu’n gwirfoddoli mewn clwb chwaraeon neu weithgarwch corfforol mewn unrhyw ffordd, boed hynny’n hyfforddi neu hyd yn oed yn gwneud coffi. I enwebu, rhaid i chi fod dros 18 oed, neu gael caniatâd gan rywun perthnasol dros 18 oed.

Ewch draw i’r dudalen Gwobr Arwr Tawel i enwebu. Mae modd enwebu yn Gymraeg drwy Arwr Tawel.

I gael gwybodaeth am y wobr, y beirniadu a sut rydym yn trin eich data, darllenwch ein telerau a’n hysbysiad preifatrwydd.

Pryd ga'i enwebu?

Enwebwch cyn 23:59 GMT nos Fercher, 30 Hydref 2024. Allwn ni ddim derbyn enwebiadau ar ôl y dyddiad hwn.

Sut penderfynir ar y wobr?

Eleni byddwn yn gwobrwyo enillydd ar gyfer pob un o 15 gwlad a rhanbarth y BBC.

Bydd yr enillwyr wedyn yn mynd gerbron panel beirniadu terfynol o arbenigwyr o’r diwydiant i benderfynu ar yr enillydd cyffredinol, a fydd yn cael ei gyhoeddi’n fyw ar raglen gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.

Pynciau cysylltiedig