'Braint' cynrychioli pêl-droed merched Môn yng Ngemau'r Ynysoedd

Mae'r garfan wedi bod yn ymarfer yn wythnosol ar gae pêl-droed Cemaes
- Cyhoeddwyd
Nid dim ond carfan Rhian Wilkinson fydd yn paratoi i gynrychioli Cymru dros y dŵr mewn pencampwriaeth bwysig yr wythnos nesaf.
Wedi cryn baratoi, bydd nifer o Ynys Môn hefyd yn teithio draw i Gemau'r Ynysoedd, sydd eleni yn cael eu cynnal ar Ynys Orkney yn yr Alban.
Mae'r gemau'n cael eu cynnal rhwng 24 o ynysoedd gwahanol ledled y byd, gan gynnwys Bermuda, Menorca ac Ynys Môn yn eu plith.
Yn ôl carfan pêl-droed merched Môn mae llwyddiant merched Cymru i gyrraedd pencampwriaeth yr Ewros yn ysbrydoliaeth ac yn eu hannog i lwyddo.

Bydd Seren McDonald yn teithio am y tro cyntaf i'r gemau i gynrychioli Môn
Mae'r gemau yn cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn ac yn cynnwys bob math o feysydd chwaraeon o golf i badminton, nofio a rhwyfo.
Ond gyda merched Cymru ar fin dechrau eu hymgyrch yn Swistir ym mhencampwriaeth yr Ewros, mae cryn sylw ar bêl-droed merched, a charfan Môn yn edrych 'mlaen at yr her.
Yn 18 oed, dyma fydd y tro cyntaf i Seren Mcdonald o Fôn deithio draw i'r gemau a chynrychioli'r Ynys.
"Mae'n fraint inni fel genod, imi fel hogan sydd newydd droi yn 18, dwi'n excited iawn i gynrychioli Ynys fi," meddai.
"Dwi'n prowd iawn i ddod o Ynys Môn a siarad Cymraeg."

Liam Ewing sydd wedi bod yn helpu i hyfforddi'r tîm pêl-droed bob wythnos
Un o'r rhai sydd wedi bod yn hyfforddi'r tîm yw'r is-hyfforddwr, Liam Ewing.
"Da ni 'di cael dipyn o amser i baratoi, ac mae rhai wythnosau eto, 'da ni gyd wan yn edrych 'mlaen amdani!" meddai.
"I fi, does dim geiriau i ddisgrifio hyn... hogyn syml sy'n dod o dre' fach yn Sir Fôn ydw i, a do'n i 'rioed yn meddwl 'swn i'n gallu mynd i gynrychioli Môn na Chymru fel hyn."
Mae nifer o'r chwaraewyr eisoes wedi cynrychioli Cymru yn y gemau cynt, a dyma fydd y pumed tro i gapten y garfan, Carolyn Lewis, 37, wneud y daith.

Dywedodd Carolyn Lewis ei bod hi'n wych gweld cymaint o gyfleoedd bellach i ferched gymryd rhan mewn pêl-droed
Gyda charfan merched Cymru yn paratoi i deithio draw i'r Ewros gan nodi oes newydd i'r gamp, mae Carolyn yn edrych ymlaen at wylio.
"Dwi 'di bod yn gwatchiad lot o'r merched a 'di gweld y manager newydd yn dod mewn sydd wedi newid y tîm.
"Mae'r merched i gyd i'w gweld yn hapus yn chwarae ac os wyt ti'n hapus yn chwarae, mae'n deud lot am dîm da.
"Mi 'neith merched Cymru 'neud yn dda.
"Dwi'n 37 a phan oni'n 'fengach oni'n chwarae mewn tîm pêl-droed dynion oherwydd doedd 'na ddim timau merched o gwmpas.
"Sbio nôl wan a gweld faint o opportunities sydd 'na rŵan i'r merched, ma'n amazing".

Mae Casi Evans yn un arall o'r garfan sy'n edrych ymlaen at gynrychioli Môn yn Orkney
I Casi Evans sy'n 18 oed o Amlwch, mae'r ddwy bencampwriaeth yn hollbwysig a hithau yn aelod o garfan dan-18 sy'n cynrychioli Cymru.
Ond er bod ei llygaid ar y dyfodol, canolbwyntio ar yr her sydd o'i blaen sy'n bwysig.
"Mae'n rhywbeth i anelu at definitely, ond dwi'n meddwl canolbwyntio ar Gemau'r Ynysoedd yn gyntaf a gweld lle ma' hi'n mynd wedyn."
Bydd y gemau yn dechrau ar 12 Gorffennaf, a bydd degau o chwaraewyr Môn yn gobeithio curo medalau i ddychwelyd i'r fam ynys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023