Môn yn tynnu allan o gynnal Gemau'r Ynysoedd 2027

  • Cyhoeddwyd
Ffion RobertsFfynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffion Roberts ymysg yr athletwyr o Fôn i sicrhau medalau yn y gemau yn Guernsey yr haf hwn

Mae Ynys Môn wedi tynnu'n ôl o gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2027 oherwydd costau cynnal y digwyddiad aml-gamp.

Mae trefnwyr yn beio'r penderfyniad ar y pwysau ariannol yn sgil y pandemig.

Yn hytrach bydd y gemau'n cael eu cynnal ar Ynysoedd Ffaröe, a oedd eisoes wedi'u ffafrio i groesawu'r gemau yn 2031.

Guernsey oedd cartref y gemau eleni gyda mwy na 2,000 o athletwyr yn cystadlu dros 23 o ynysoedd mewn 14 o gampau.

'Y risgiau yn rhy uchel'

Wedi cystadlu ymhob Gemau'r Ynysoedd ers ei sefydlu yn 1985, roedd ymdrechion Môn i gynnal y gystadleuaeth yn aflwyddiannus yn y gorffennol.

Ond fe ddaeth y newyddion yn 2020 bod y cais diweddaraf i groesawu'r gemau i ogledd Cymru wedi llwyddo o'r diwedd.

Ffynhonnell y llun, GLLM
Disgrifiad o’r llun,

Roedd trefnwyr y gemau wedi gobeithio gwneud defnydd o neuadd chwaraeon newydd gwerth £8m ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni

"Rydym yn hynod siomedig o fod wedi dod i'r penderfyniad anodd nad ydym mewn sefyllfa i gynnal Gemau'r Ynysoedd yn 2027," meddai Gareth Parry, cadeirydd pwyllgor trefnu Ynys Môn.

"Mae effaith y pandemig a digwyddiadau eraill ar draws y byd dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddinistriol ar yr hinsawdd ariannol bresennol ar Ynys Môn a Chymru.

"Roeddem wedi sicrhau digon o gyllid wrth gyflwyno ein cais cyn Covid gyda chymorth gan yr awdurdod lleol, yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Llywodraeth Cymru, ond amlygodd adolygiad diweddar o'r gyllideb fwlch ariannu sylweddol nad ydym yn gallu ei gwrdd yn yr hinsawdd ariannol bresennol."

Ychwanegodd eu bod yn siomedig yn dilyn "saith mlynedd o waith caled", ond fod y "risgiau sy'n gysylltiedig â pharhau ar hyn o bryd yn rhy uchel".

"Fodd bynnag, rydym ni a'n partneriaid mor ymroddedig ag erioed i ddod â'r gemau gwych hyn i Ynys Môn a byddwn yn adolygu ein sefyllfa yn flynyddol gyda'r bwriad o roi ein hunain ymlaen eto cyn gynted ag sy'n ymarferol."

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd yn gwylio'r cystadlaethau yn Guernsey

Llwyddodd Môn i ennill 18 medal yng ngemau Guernsey 2023 - y nifer fwyaf i'r ynys eu hennill erioed, gan wella ar y cyfanswm o 14 a enillwyd yn Jersey yn 1997.

Roedd cynrychiolwr o'r cyngor sir a phwyllgor trefnu Môn wedi teithio i Guernsey er mwyn asesu'r gofynion i gynnal cystadleuaeth o'r fath.

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Osian Perrin i dorri record y gemau yn y ras 5,000m i ddynion yn Guernsey 2023

"Mae'r byd wedi newid ers i Ynys Môn wneud ei chais gwreiddiol yn 2018," meddai cadeirydd Cymdeithas Ryngwladol Gemau'r Ynysoedd (IIGA) Jorgen Pettersson.

"Mae costau cynyddol a thoriadau cyffredinol yn heriol i bawb.

"Mae'r IIGA yn gwerthfawrogi pa mor agored mae tîm Ynys Môn wedi bod a'u hymagwedd at ganiatáu i'r tîm gweithredol chwilio am westeiwr newydd a darparu digon o amser i gyflawni hyn."

Pynciau cysylltiedig