Gemau'r Ynysoedd: Mwy o fedalau nag erioed i Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Barry Edwards, Cari a Iolo Hughes yn edrych 'nôl ar eu llwyddiannau yn Guernsey

A hithau'n ddiwrnod olaf Gemau'r Ynysoedd, mae athletwyr Môn yn dathlu beth sydd wedi bod yn wythnos hynod lwyddiannus yn Guernsey.

Wrth gystadlu yn erbyn 23 o ynysoedd eraill o bedwar ban byd, mae tîm Ynys Môn wedi sicrhau casgliad helaeth o fedalau, gan chwalu llwyddiant y gemau diwethaf.

Mae cyfanswm medalau Môn, sef 18, yn lawer mwy na'r chwech y llwyddodd y Monwysion i'w sicrhau yng ngemau Gibraltar 2019.

Dyma'r nifer fwyaf o fedalau i Ynys Môn eu hennill yng Ngemau'r Ynysoedd erioed, gan wella ar y cyfanswm o 14 a enillwyd yn Jersey yn 1997.

Daw hyn wrth i Fôn barhau i fod ag un llygad ar gynnal y gemau ar eu tomen eu hunain mewn pedair blynedd.

Casgliad o fedalau

Mae Ynys Môn wedi sicrhau 18 o fedalau - chwe aur, saith arian a phum efydd.

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Sicrhaodd Ffion Roberts fedalau aur ac arian yn y gemau

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Patrick Harris a Zach Price, yn ogystal a Ffion Roberts, hefyd yn dychwelyd i Fôn gyda medalau yn eu meddiant

Ymysg yr uchafbwyntiau oedd medalau aur ac arian i'r athletwraig Ffion Roberts a champ Osian Perrin yn torri record y gemau drwy groesi gyntaf yn y ras 5,000m i ddynion.

Daeth dwy fedal aur hefyd i Iolo Hughes yn y rasus 1,500m a'r 800m wrth i'w chwaer, Cari, hefyd ennill yr arian yn yr 1,500 a'r aur yn yr 800m.

I ffwrdd o'r trac athletau daeth llwyddiant hefyd i Gwenno Hughes gan sicrhau medal efydd yn y seiclo.

Mae tîm pêl-droed dynion Môn hefyd wedi ennill medal arian, ar ôl cyrraedd y ffeinal cyn colli i Jersey.

Roedden nhw eisoes wedi ennill eu tair gêm yn grŵp, gan gynnwys yn erbyn un o'r ffefrynnau - Ynys Manaw, a threchu Bermuda yn y rownd gynderfynol.

'Mwyaf llwyddiannus i Fôn erioed'

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe dywedodd cydlynydd tîm athletau Môn, Barry Edwards, fod yr holl garfan wrth eu boddau gyda'u perfformiad.

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na lwyddiant teuluol i Iolo a Cari Hughes

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Daeth medal efydd i Gwenno Hughes yn y seiclo yn erbyn y cloc

"Mae'r gemau yn mynd yn anhygoel," meddai.

"Hefo'r medalau sy'n dod drwodd rŵan hwn fydd y gemau fwya' llwyddiannus i'r ynys ers i'r gemau ddechrau yn 1985."

Fe ychwanegodd, "Mae'r talent sy'n dod drwodd yn anhygoel".

Mae Cari Hughes o Lanfechell wedi ennill dwy o'r 18 rheiny drwy sicrhau'r fedal arian yn y ras 1,500 ac aur yn yr 800m.

Fe ddywedodd: "Mae'r timau wedi gwneud yn wych, mae'n grêt i fod yn part o rhywbeth, dwi wedi joio a dyma fy nhro cyntaf.

"Mae wedi bod yn grêt."

Mae ei brawd, Iolo, wedi ennill dwy fedal aur yn y 1,500m a'r 800m.

"Da ni'n mynd ar y podiwm a canu'r anthem, mae'n gret i glywed yr anthem a pawb yn canu," meddai.

"Mae'n anhygoel."

'Profiad anhygoel'

Yn ôl Osian Perrin, un o sêr y gemau eleni, roedd cystadlu yn y gemau am y tro cyntaf yn "brofiad anhygoel".

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Osian Perrin i dorri record y gemau yn y ras 5,000m i ddynion

Ffynhonnell y llun, YMIGA

Llwyddodd Osian, sy'n 20 oed ac yn dod o Baradwys ger Llangefni, i chwalu record flaenorol 5,000m y gemau o bron i 10 eiliad.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Roeddwn yn gobeithio am fedal diolch i'n form yn mynd i fewn, ond roedd yn wych i fod yna.

"Dwi'n rasio mewn pythefnos yn Birmingham ac yn gobeithio sicrhau record Cymru yn y 3,000m.

"Hwn oedd y tro cyntaf i mi gystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd ond roedd yn anhygoel, lot gwell na'r roeddwn wedi ei ddisgwyl.

"'Naeth mwy o bobl ddod i wylio 'na'r British Championships dydd Sadwrn - roedd 'na lot o bobl allan."

Gan ychwanegu y byddai'n hoffi cystadlu pan ddaw y gemau i Fôn yn 2027, ychwanegodd: "Dwi'n meddwl fydd o'n grêt i Ynys Môn."

Paratoadau 2027

Mae trefnwyr y gemau yn Guernsey yn dweud fod yr wythnos o gystadlu wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn, gyda hyd at 8,000 yn gwylio rhai campau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd athletwyr o'r 24 ynys sy'n cystadlu yn y seremoni agoriadol nos Sadwrn

Yn ôl y Cynghorydd Neville Evans, sydd wedi teithio i Guernsey fel rhan o baratoadau Môn i gynnal y gemau yn 2027, mae wedi bod yn "agoriad llygad".

"Mae wedi bod yn brofiad arbennig i fod yn berffaith onest. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae dod allan wedi dangos i mi be ydi scale y peth a dweud y gwir, a faint o frwdfrydedd sydd yna ymysg y timau a'r ynysoedd ar draws y byd a faint o waith sydd 'na.

"Roedd yn brofiad jyst cael gweld yr holl chwaraeon a faint o waith paratoi o ran lle i aros, trafnidiaeth, gwirfoddolwyr, a dwi wedi'n siomi ar yr ochr orau pa mor llwyddiannus mae'r gemau wedi bod."

Ychwanegodd Owain Jones, sydd hefyd yno ar ran adran hamdden y cyngor: "Roedd 'na o leia' 3,000 yn gwylio'r athletics ac roedd hi'n llawn, a ti'n gweld sut fod pobl leol wedi cymryd at y gemau go iawn.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynrychiolwyr o Gyngor Môn yn Guernsey i asesu'r paratoadau wrth i'r ynys groesawu'r gemau yn 2027, gan gynnwys Owain Jones (chwith) a'r Cynghorydd Neville Evans (dde)

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd wedi bod yn gwylio'r cystadlaethau yn Guernsey

"Maen nhw wrth eu boddau yn gweld pobl yn dod yma, a mae 'na tua 1,200 o volunteers yn helpu allan.

"Mae'n rhaid i bobl leol gymryd ato i wneud iddo weithio, ond hefo Eisteddfod yr Urdd yn dod i Ynys Môn y flwyddyn gynt [yn 2026] ella fydd o'n help wrth gael gwirfoddolwyr i'r ddau."

Enillwyr medalau Môn

Aur

Iolo Hughes - 1,500 i ddynion

Iolo Hughes - 800m i ddynion

Cari Hughes - 800m i ferched

Ffion Roberts - 400m i ferched

Osian Perrin - 5,000m i ddynion

David Tavernor - Saethu skeet unigol

Arian

Tîm pêl-droed y dynion

Cari Hughes - 1,500m i ferched

Ffion Roberts - 200m i ferched

Patrick Harris - Taflu pwysau (shot put) i ddynion

Bonny Cunliffe, Catriona Duffy, Nia Rogers - Tîm saethu trap

Dominic Breen-Turner - Hwylio ILCA 6

Cai Jones, Cameron Jones, Ewan Jones, Zach Price - Ras gyfnewid 4x100m i ddynion

Efydd

Zach Price - 100m i ddynion

Ben Sergeant - 3,000m dros y clwydi (steeplechase) i ddynion

Gwenno Hughes - Seiclo'n erbyn y cloc i ferched

Frederick Roberts a David Tavernor - Saethu skeet

Dominic Breen-Turner, Josh Metcalfe, Ryan Seddon, Michael Thorne - Tîm hwylio

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tîm pêl-droed dynion Môn wedi ennill eu tair gêm yn grŵp ac yna Bermuda yn y rownd gyn-derfynol ond bu'n rhaid bodloni ar fedal arian ar ôl colli o 5-2 yn erbyn Jersey yn y ffeinal

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd medal arian yn y saethu i Bonny Cunliffe, Catriona Duffy a Nia Rogers

Ffynhonnell y llun, YMIGA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llwyddiant i Fôn hefyd yn y cystadlaethau hwylio, gyda Dominic Breen-Turner (ail o'r chwith) hefyd yn ennill medal arian unigol

Pynciau cysylltiedig