'Pobl ddim yn deall bod ni'n siarad Cymraeg gan bod ni ddim yn wyn'

Indigo Young
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Indigo Young mae rhai o'i ffrindiau wedi profi hiliaeth yn yr ysgol

  • Cyhoeddwyd

“Dydy llawer o bobl ddim yn meddwl ein bod ni’n gallu siarad Cymraeg oherwydd dydyn ni ddim yn wyn.”

Dyma brofiad Indigo Young, sy’n 18 oed ac o Hendy Gwyn ar Daf yn Sir Gâr.

Fel person o gefndir lleiafrifol, mae wedi cael cymorth grŵp ieuenctid er mwyn ei helpu i allu trafod ei hunaniaeth.

Yn ôl cydlynydd y grŵp mae angen i waith gwrth-hiliaeth ddigwydd y tu allan i ddinasoedd, mewn ardaloedd lle mae cymunedau yn wyn yn bennaf.

'Dydy pobl ddim yn siarad Cymraeg yn ôl'

Mae Indigo yn mynychu sesiynau gyda grŵp ieuenctid We Move yn Sir Benfro.

Bwriad y prosiect yw rhoi cyfle i blant a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig allu cymdeithasu, ac mae'n cael ei ariannu gan elusen Plant Mewn Angen.

Yn ôl Indigo mae’r grŵp yn gyfle iddi hi drafod profiadau byddai ei ffrindiau yn gallu uniaethu â nhw.

“Mae’n bwysig cael prosiectau fel hyn yn enwedig mewn llefydd gwledig oherwydd does dim llawer o hiliau gwahanol, ac mae’n neis gweld pobl sy’n edrych fel chi.”

Yn gynharach eleni daeth ymchwiliad gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i'r casgliad fod bwlio hiliol weithiau yn cael ei esgusodi fel "banter" mewn ysgolion.

Mewn ymateb fe ddywedodd pum cyngor yn ne ddwyrain Cymru eu bod nhw am wella'r ffordd maen nhw'n ymateb i achosion o hiliaeth.

I Indigo, mae’n hollbwysig i allu trafod ei phrofiadau trwy’r Gymraeg.

“Dwi’n gwybod bod rhai plant yn y grŵp wedi profi hiliaeth yn yr ysgol. Mae’n neis iddyn nhw fod mewn grŵp sy’n deall.

“Dydy llawer o bobl ddim yn meddwl ein bod ni’n gallu siarad Cymraeg oherwydd dydyn ni ddim yn wyn.”

Mae'r diffyg dealltwriaeth yna yn rywbeth sy'n ei gwneud yn "drist", meddai.

“Mae fy mam yn trial siarad Cymraeg mewn siopiau a dydy pobl ddim yn siarad Cymraeg yn ôl iddi hi.”

Disgrifiad o’r llun,

Molara Awen yw cydlynydd grŵp ieuenctid We Move

Yn ôl Cyfrifiad 2021, nododd 0.9% o drigolion Sir Benfro eu grŵp ethnig o fewn y categori "Cymysg neu Lluosog", cynnydd o'r ffigwr o 0.6% yn 2011.

Mae We Move yn cynnig gweithgareddau sy'n amrywio o ganu i syrffio ar draws de orllewin Cymru.

Molara Awen yw’r Cydlynydd Prosiect, ac mae’n dweud ei bod hi’n bwysig cael prosiectau o'r fath mewn ardaloedd gwledig.

“Maen nhw’n cael y lle i ddweud rhywbeth am sut mae eu bywydau a byw yma yn y wlad lle does dim llawer o diversity.”

Dywedodd Molara bod angen mwy o waith gwrth-hiliaeth mewn ardaloedd lle mae llai o amrywiaeth ethnig.

“Mae’n bwysig i siarad gyda phlant yma, y plant gwyn, am sut beth yw hi i glywed pethau negyddol am dy groen, dy wallt neu dy deulu.”

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Nyarai Hector ei galw'n "ecsotig" yn yr ysgol

Yn 2021 symudodd Nyarai Hector a'i theulu o Lundain i Lanelli.

Roedd symud o ddinas mor amrywiol lle’r oedd mwy o bobl yn edrych fel hi yn brofiad “brawychus”, meddai.

“Byddwn yn cerdded i lawr y stryd ac roedd fel 20 o bobl fel fi, ond nawr fi’n cerdded o gwmpas a gweld prin neb.”

Ychwanegodd iddi gael ei galw’n “ecsotig” yn yr ysgol ers symud.

Ers i Nyarai ddechrau mynd i sesiynau yn We Move, mae'n dweud bod cyfle iddi "uniaethu â chael rhywun i siarad â nhw".

“Mae’n fy ngalluogi i uniaethu â phobl eraill sydd â’r un profiad â mi, yn enwedig lle rydw i yng Nghymru, does gen i ddim llawer o bobl debyg imi yn fy nghymuned."

Bydd Indigo a Nyarai yn teithio i Fanceinion i gymryd rhan yng nghôr Plant Mewn Angen ar 15 Tachwedd.

Mae’r ddwy yn dweud eu bod yn “gyffrous” am y profiad newydd.

Dywedodd Nyarai: “Rwyf wrth fy modd yn canu mewn côr, yn enwedig gyda Molara. Mae ei chaneuon yn wych.

"Felly dwi’n meddwl bod cael y profiad yna eto wir yn mynd i fy helpu gyda fy hyder gyda chanu.”

Pynciau cysylltiedig