Cynnydd i brisiau tocynnau trên yng Nghymru yn dod i rym

trên trafnidiaeth cymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd prisiau tocynnau unffordd unrhyw adeg o'r dydd yn cynyddu 3% o 2 Mawrth

  • Cyhoeddwyd

O ddydd Sul ymlaen fe fydd prisiau rhai o docynnau trên Trafnidiaeth Cymru yn cynyddu 6%.

Fe fydd y newidiadau - gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddechrau'r mis - yn berthnasol i docynnau dwyffordd unrhyw adeg o'r dydd a phrisiau tocynnau dwyffordd ar adegau tawel.

Yn ogystal, fe fydd prisiau tocynnau sengl yn cynyddu 3% a thocynnau tymor saith diwrnod yn codi 3.5%.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru mewn datganiad, dolen allanol eu bod "yn deall na fydd teithwyr yn croesawu hyn, ond rydym wedi ceisio cadw'r cynnydd mor isel â phosibl".

Mae gweinidogion yn cyflwyno newidiadau i brisiau tocynnau trên a reoleiddir yn flynyddol.

Yn ôl yr ysgrifennydd trafnidiaeth, Ken Skates, y nod yw cadw'r cynnydd mewn costau mor isel â phosibl i deithwyr, gan sicrhau hefyd bod Trafnidiaeth Cymru yn gallu casglu digon o refeniw i dalu eu costau cynyddol.

Mae'r cynnydd cyffredinol o 4.6% yn cyd-fynd â'r cynnydd gafodd ei gyflwyno yn Lloegr gan Lywodraeth y DU.

trên trafnidiaeth cymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Ychwanegodd Mr Skates: "Mae'n bwysig cydnabod nad yw'r mwyafrif cynyddol o deithwyr bellach yn defnyddio'r cynhyrchion hyn a reoleiddir.

"Y cynhyrchion hyn yw gweddillion y rheilffordd breifat a sefydlwyd i sicrhau na allai gweithredwyr preifat yrru cynnydd enfawr mewn prisiau tocynnau i sicrhau cymaint o elw â phosibl ar draul teithwyr y tu hwnt i reolaeth llywodraethau.

"Gyda gwaith i ddiwygio'r rheilffyrdd yn mynd rhagddo, rwy'n gobeithio y bydd gwasanaethau rheilffordd yn dychwelyd i'r sector cyhoeddus a bydd yr angen am brisiau tocynnau trên a reoleiddir yn dod i ben, gyda gweithredwyr y sector cyhoeddus yn blaenoriaethu gwerth am arian i deithwyr."