Galw am fuddsoddiad ym maes prentisiaeth 'os am gyrraedd y miliwn'

Hanna wrth ei gwaith
Disgrifiad o’r llun,

Mae defnyddio'r Gymraeg yn allweddol i Hanna, prentis yn Ysbyty Glangwili

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dweud bod yn rhaid cynyddu'r buddsoddiad mewn prentisiaethau os am gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Daw hyn wrth i'r Coleg lansio eu maniffesto diweddaraf.

Mae'r Coleg Cymraeg yn galw ar y llywodraeth nesa i ddarparu £1m yn ychwanegol y flwyddyn iddyn nhw er mwyn cynyddu'r nifer o brentisiaid Cymraeg a dwyieithog.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cynyddu cyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, a gall hyn eu helpu i wneud mwy yn y sector."

'Rhaid cael pobl i ddefnyddio'r Gymraeg'

Yn ôl Gwenllian Griffiths, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, "dim ond 2% o'r gyllideb ar hyn o bryd sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a dwyieithrwydd.

"Mae 24% o'r dysgwyr yn ein colegau addysg bellach ni â sgiliau Cymraeg felly yn sicr mae angen cynyddu'r buddsoddiad hynny.

"Os ydy'r llywodraeth nesa o ddifri ynglŷn â thargedau Cymraeg 2050, ynglŷn â chreu miliwn o siaradwyr mae'n rhaid i ni gael pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, a'r sector drydyddol yw'r allwedd ar gyfer hynny."

Gwenllian Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gwenllian Griffiths, "dim ond 2% o'r gyllideb ar hyn o bryd sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a dwyieithrwydd"

Maen nhw'n awyddus i gynyddu nifer y prentisiaid mewn rhannau o Gymru lle mae cyfran uwch o siaradwyr Cymraeg.

Un o'r ardaloedd yna yw Sir Gaerfyrddin, lle mae Hanna Griffiths yn brentis, yn gweithio gyda chleifion hŷn bregus ar Ward Cadog, Ysbyty Glangwili.

Wrth sôn am ei defnydd o'r Gymraeg, dywedodd Hanna: "Cymraeg yw mamiaith fi, dyna be sy'n dod mas o ceg fi gyntaf.

"Ma' fe'n bwysig i fi achos fi'n delio gyda chleifion henoed ar y ward nawr, maen nhw wedi diagnoso gyda dementia ac mae e'n bwysig achos maen nhw'n dirywio trwy gyfrwng amser ac maen nhw'n colli'r iaith i siarad Saesneg felly dyma lle fi'n dod mewn i siarad Cymraeg 'da nhw.

"Mae'n bwysig i fi achos fi 'di gwella Cymaeg fi 'fyd wrth weithio ar y ward.

"Fi 'di dysgu terminoleg meddygol ble fi'n gallu cyfieithu o'r doctoriaid i'r cleifion," ychwanegodd.

Hanna Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hanna Griffiths ei bod yn "bwysig" ei bod yn medru siarad Cymraeg â'r cleifion

Yn ôl y coleg, byddai mwy o fuddsoddiad yn golygu bod mwy o gyfleoedd i bobl fel Hanna.

Tra'n cydnabod bod cyfleoedd i bobl sy'n chwilio am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn ategu'r alwad am fwy o fuddsoddiad.

Dywedodd Manon Rosser, llefarydd ar ran Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru: "Mae'r cyfleoedd wedi datblygu lot yn ddiweddar a ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n dewis neud prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond ma' fe'n heriol iawn, ac felly mae angen mwy o fuddsoddiad yn y maes er mwyn gallu cynnal y cynnydd hwn.

"Ry' ni isie gweld sefyllfa lle ma' cyfle cyfartal i unrhyw un ddewis neud eu prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym am i fwy o brentisiaid ddysgu a hyfforddi trwy'r Gymraeg.

"Rydym wedi cynyddu cyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni, a gall hyn eu helpu i wneud mwy yn y sector.

"Yn ogystal, mae Medr yn gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg."