Ymgeisydd Ceidwadol yn tynnu'n ôl wedi sylwadau 'amhriodol'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer sedd Pen-y-bont wedi tynnu allan o'r etholiad cyffredinol oherwydd sylwadau "hollol amhriodol" yr oedd wedi'u gwneud ar-lein.
Adroddodd y Mirror fod Sam Trask wedi cyhoeddi negeseuon rhywiol am fenywod i wefan myfitnesspal.
Ymddiheurodd Mr Trask am y sylwadau a gafodd eu gwneud nifer o flynyddoedd yn ôl meddai.
Dywedodd yr ymgeisydd Llafur ar gyfer y sedd, Chris Elmore: "Mae'r datgeliadau erchyll hyn yn codi cwestiynau difrifol am safon yr ymgeiswyr y mae'r Torïaid wedi'u gorfodi i'w dewis."
Mae’r Ceidwadwyr yn amddiffyn y sedd a enillwyd ganddynt yn yr etholiad cyffredinol yn 2019.
Roedd Mr Trask yn ymgeisydd am nad oedd AS blaenorol y blaid, Jamie Wallis, wedi sefyll eto ar gyfer yr etholaeth.
Dyw hi ddim yn glir pwy fydd yn sefyll dros y blaid yn y sedd, sydd wedi newid ffiniau ar gyfer yr etholiad.
Mae'r enwebiadau'n cau am 17:00 ddydd Gwener.
Dywedodd Mr Trask: “Cafodd y sylwadau hyn eu gwneud nifer o flynyddoedd yn ôl, ac rwy’n cydnabod eu bod yn hollol amhriodol.
"Am hynny rwy’n ymddiheuro ac rwyf wedi penderfynu tynnu’n ôl fel ymgeisydd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad yw'r blaid yn "cefnogi'r sylwadau", a'u bod yn "ymchwilio i'r mater".
Ymgeiswyr eraill Pen-y-bont
Llafur - Chris Elmore
Democratiaid Rhyddfrydol – Claire Waller
Plaid Cymru – Iolo Caudy
Reform UK – Caroline Jones
Y Blaid Werdd – Debra Cooper
Annibynnol - Mark Richard John
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin