Dau yn euog o lofruddiaeth dyn 33 oed yn Abertawe

Andrew MainFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Andrew Main bedair wythnos ar ôl yr ymosodiad yn Abertawe ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi eu canfod yn euog o lofruddio dyn 33 oed yn Abertawe y llynedd.

Bu farw Andrew Main, o Falkirk yn yr Alban, bedair wythnos ar ôl ymosodiad ger mynedfa'r Travelodge ar Ffordd y Dywysoges am tua 02:00 ar 17 Gorffennaf.

Roedd Joseph Dix, 26 oed o Frome, a Macauley Ruddock, 27 oed o Gaerfaddon, wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth Mr Main.

Fe fydd y ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa tan eu bod yn cael eu dedfrydu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger mynedfa'r Travelodge ar Ffordd y Dywysoges

Dywedodd y ditectif arolygydd Claire Lamerton o Heddlu'r De fod Dix a Ruddock yn ymweld ag Abertawe oherwydd eu gwaith, a'u bod wedi cwrdd â Mr Main am y tro cyntaf mewn tafarn yn agos i'w gwesty.

"Yn hwyrach y noson honno fe ddechreuodd ffrae rhwng Joseph Dix a Macauley Ruddock ac Andrew Main a'i ffrind," meddai Ms Lamerton.

"Fe symudodd y ffrae yma o'r gwesty i'r stryd cyn i Dix a Ruddock erlid Mr Main a'i daro yn anymwybodol mewn ymosodiad parhaus.

"Er bod pob un oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi yfed alcohol y noson honno, does dim esgus am lefel y trais... yn amlwg roedden nhw wedi bwriadu achosi niwed i'r dioddefwr, a nawr fe fydd y ddau yn wynebu cyfnod sylweddol yn y carchar o ganlyniad i hynny."