Cannoedd yn angladd bachgen, 16, fu farw yn Efailwen
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd wedi dod ynghyd ym mhentref glan môr Aberporth ar gyfer angladd bachgen 16 oed.
Bu farw Llŷr Davies ar 12 Mawrth yn dilyn digwyddiad mewn chwarel yn Sir Benfro.
Cafodd yr heddlu eu galw i chwarel Gilfach ger Efailwen yn dilyn adroddiadau o "ddigwyddiad yn ymwneud â thryc".
Ers ei farwolaeth mae nifer o deyrngedau wedi’u rhoi, ac roedd yna wylnos ar draeth Aberporth i ddathlu ei fywyd.
Cafodd ei ddisgrifio yn ystod yr wylnos fel "dyn Aberporth", ac un oedd yn caru ei ardal, y môr a’r traeth.
Cais i bobl wisgo'n llachar
Cafodd yr angladd ei chynnal yng Nghapel Aberporth, Ceredigion, ac roedd dros 300 o bobl yn bresennol - y rhan fwyaf yn bobl ifanc.
Roedd yn ddymuniad gan y teulu i bawb wisgo’n llachar.
Gyda’r capel yn llawn dop, roedd trigolion, ffrindiau a theulu i’w gweld ar hyd y palmant, dwy ochr i’r ffordd.
Ymhlith y galarwyr roedd aelodau o dîm rygbi Castellnewydd Emlyn, lle’r oedd Llŷr yn aelod.
Cafodd yr arch ei chludo drwy Aberporth ar gefn hen dractor i gerddoriaeth ‘Ni’n Belo Nawr’ gan Welsh Whisperer.
Roedd yr arch yn las, gyda thractorau a bêls gwellt wedi’u printio arni.
Cân Dafydd Iwan, Yma o Hyd, oedd yn chwarae wrth i’r arch fynd i fewn i’r capel.
Roedd y gwasanaeth yng ngofal Peter Evans a ddarllenodd deyrngedau ar ran tad, brodyr a chwiorydd Llŷr.
'Bachgen caredig a meddylgar'
Fe ddywedodd ei chwaer hynaf, Bethan, fod "ei ganu opera dwl" yn aml yn rhoi pen tost iddi, ond y bydd hi'n ei golli am byth.
Ychwanegodd un o’i frodyr, Cai, mai dyma wythnosau caletaf eu bywyd fel teulu.
“Rwy’ mor browd i dy alw yn frawd, hyd yn oed pan oeddet ti'n chwarae fideos TikTok yn uchel ar dy ffôn,” dywedodd.
“Diolch am fod yn garedig, yn ddoniol ac yn ddwl”, ategodd ei chwaer arall, Sara.
"Rwyf wir yn mynd i weld eisiau ti.”
Dywedodd Sean, tad Llŷr: “Roeddet yn fachgen caredig a meddylgar. Roeddet ti eisiau concro’r byd.
"Roeddet ti’n caru pysgota ac wedi gwneud cynlluniau i gymryd dros fy nghwch i. Cysga’n dawel fy mab.”
Roedd yna deyrngedau hefyd gan drigolion lleol - pennaeth Ysgol Llechryd a Chenarth, Lee Burrows, cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Lowri Williams, a ffrind teulu a physgotwr, Mickey Beechey.
Fe wnaeth y tri grybwyll cariad Llŷr at y môr, gan gyfeirio ato'n annwyl fel "Strab".
Roedd Llŷr, meddai Lowri Williams, yn “wyneb cyfarwydd" yng ngwersyll Llangrannog.
Darllenodd englyn gan Ceri Wyn Jones, yn disgrifio Llŷr fel un oedd "ar frig y don".
Wrth gloi ei theyrnged, ychwanegodd: “Byddi di yn ein calonnau ni a thraeth Aberporth am byth.”
Yn ystod y gwasanaeth, fe gafodd clip sain ei chwarae o Llŷr yn canu Calon Lân, o fideo a recordiodd yn ystod y cyfnod clo a’i gyhoeddi ar-lein.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2024