Addysg amaeth i ddisgyblion yn y Ffair Aeaf
- Cyhoeddwyd
Bydd y Ffair Aeaf yn cynnig mynediad am ddim eleni i dripiau ysgol er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw ddysgu am amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd.
Mae cannoedd o bobl, yn arddangoswyr ac ymwelwyr, yn edrych 'mlaen yn eiddgar at y Ffair Aeaf, fydd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd ddydd Llun a Mawrth.
Mae’r Ffair yn cael ei chydnabod fel un o sioeau stoc gorau Ewrop.
Eleni, bydd tripiau ysgol yn cael mynediad am ddim a bydd cost mynediad rhatach i fyfyrwyr addysg uwch, o gofrestru ymlaen llaw.
Mae Cymdeithas y Sioe yn awyddus bod plant yn dysgu mwy am sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, am y gadwyn gyflenwi ac am gefn gwlad yn gyffredinol.
Roedd dros 1,000 o blant ysgol a myfyrwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt wedi ymweld â’r Ffair y llynedd.
Un ysgol sydd yn mynychu’r Ffair bob blwyddyn ers 20 mlynedd ac sydd wedi trefnu trip eto eleni i 133 o’u disgyblion yw Ysgol Henry Richard, Tregaron.
Bydd tri bws yn mynd i’r Ffair, yn ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 a’r rheiny sy’n astudio Amaeth a Bwyd a Maeth i lefel TGAU.
Mae 26 yn astudio Amaeth fel pwnc TGAU ac 20 yn astudio Bwyd a Maeth yn yr ysgol.
Yn ôl Eleri James, athrawes Amaeth yn ogystal â Bwyd a Maeth, mae’r tripiau hyn i’r Ffair Aeaf yn fwy poblogaidd na’u tripiau haf fel arfer.
"Mae’n agoriad llygad i’r disgyblion weld be sydd gan y diwydiant amaeth ei gynnig," meddai.
Ychwanegodd bod 60% o’u disgyblion yn dod o gefndir amaethyddol.
"Gan bod Ysgol Henry Richard wedi ei leoli mewn tref amaethyddol, mae'n bwysig bod disgyblion yr ysgol yn deall pwysigrwydd amaethyddiaeth i'n cymunedau, diwylliant a'r iaith Gymraeg.
"Wrth ymweld â'r Ffair Aeaf, mae'n gyfle i'r disgyblion weld y gwaith caled sy'n digwydd o fewn y diwydiant ac i greu cysylltiad rhwng yr hyn sy'n cael ei ddysgu o fewn ein gwersi Amaeth a Bwyd a Maeth.
"Ni’n trafod lleihau milltiroedd bwyd, prynu cynnyrch lleol ac ati, ac mae’r cyfan yn cael ei atgyfnerthu gyda thrip i’r Ffair Aeaf."
Addysgu plant yn hanfodol
Yn agor y Ffair Aeaf yn swyddogol fore Llun fydd dirprwy lywydd NFU Cymru, Abi Reader, ac mae hithau’n awyddus iawn i addysgu’r genhedlaeth nesaf.
Hi yw’r drydedd genhedlaeth o’i theulu i ffermio eu fferm gymysg yng Ngwenfô ychydig y tu allan i Gaerdydd, ac mae’n gwneud hynny gyda'i rhieni a'i hewythr.
Mae Fferm Goldsland yn gartref i 200 o wartheg godro, 150 o ddefaid, 90 o wartheg eidion a 120 erw o dir âr.
Mae Abi yn gyd-sylfaenydd ‘Cows on Tour’, prosiect sy’n ceisio gwella gwybodaeth pob plentyn am fyd amaeth, yn enwedig plant o ardaloedd trefol.
Mae’n teimlo’n gryf y dylai pob person ifanc fod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o dechnegau amaethyddiaeth a dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r 'cynnyrch terfynol' sef y bwyd.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, bydd cyflwyno gwobrau’r Gymdeithas.
Enillydd Gwobr Goffa John Gittins eleni yw Cyn-Ysgrifennydd Cymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru, Moss Jones o Landre, Aberystwyth.
Mae’r wobr yn cael ei rhoi am ei gyfraniad eithriadol i'r diwydiant defaid yng Nghymru.
Mae Mr Jones wedi rhoi ei fywyd i'r diwydiant defaid a chig eidion yng Nghymru drwy ei waith gyda gwahanol sefydliadau amaethyddol a chymdeithasau defaid niferus, yn enwedig Cymdeithas Bridwyr Defaid Miwl Cymru.
Gwasanaethodd Mr Jones fel ysgrifennydd y cwmni am dros 30 mlynedd.
Tad a mab yn beirniadu bwtsiera gyda'i gilydd
Yn ogystal â chystadlaethau da byw, mae’r Ffair Aeaf yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddosbarthiadau ac arddangosiadau, yn cynnwys ceffylau, y sioe gŵn hela, dofednod wedi’u trin, bwtsieraeth, hamperi cig, coginio, cynnyrch a gwaith llaw, garddwriaeth a gosod blodau.
Yn yr adran fwtsiera, bydd cystadleuaeth asennau bîff newydd, dosbarth fydd yn cael ei feirniadu gan y tad a mab, Arwyn a Steve Morgans, bwtsieiriaid yn ardal Aberhonddu a Llanfair-ym-muallt.
Er bod y ddau wedi beirniadu llawer o gystadlaethau cynhyrchion cig o’r blaen, dyma fydd y tro cyntaf i’r tad a’r mab feirniadu gyda’i gilydd.
“Mae’n fraint i mi fod yn beirniadu’r gystadleuaeth yma gyda fy nhad dwi’n ystyried yn ffrind gorau i mi,” meddai Steve Morgans.
“Mae’r diwydiant wedi wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd, ac rydym wedi datblygu ac arallgyfeirio ein busnes i fodloni anghenion cyfoes cwsmeriaid heddiw tra byddwn yn dal i gadw’r arferion bwtsiera traddodiadol hynny yn fyw.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023